Swyddogion Anrhydeddus

Yn unol â'r Siarter a'r Ystatudau, mae Prifysgol Aberystwyth yn penodi nifer o Swyddogion Anrhydeddus.

Swyddogion Anrhydeddus presennol y Brifysgol yw:

Manylion Llun

Canghellor
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgiedd (hyd at 31 Rhagfyr 2024)

  • Ganed Roger John Laugharne Thomas yng Nghaerfyrddin ac fe’i magwyd ar aelwyd Gymraeg yn Ystradgynlais.
  • Penodwyd yr Arglwydd Thomas yn Farnwr Uchel Lys Cymru a Lloegr yn 1996 a bu’n gweithio yn Adran Mainc y Frenhines a'r Llys Masnachol.
  • Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru; yn Gymrawd er Anrhydedd Neuadd y Drindod, Caergrawnt; yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd, ac mae ganddo Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

 

 

Dirprwy Ganghellor
Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens (hyd at 31 Rhagfyr 2025)

  • Cafodd yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd a Choleg Somerville Rhydychen. Mae wedi derbyn doethuriaethau anrhydeddus gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol De Cymru. Roedd yn Uchel Siryf Dyfed 2011–12 ac mae bellach yn Ddirprwy Raglaw ar gyfer y tair sir, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
  • Mae'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn gyfarwyddwr profiadol sydd wedi treulio gyrfa ym maes darlledu, llywodraethu a'r byd academaidd. Mae'n Gyfarwyddwr anweithredol ar brif Fwrdd y BBC aii Aelod dros Gymru. Ers mis Ebrill 2019, hi yw Cadeirydd daliadau masnachol y BBC ledled y byd. Hi hefyd yw Comisiynydd Etholiadol Cymru.
  • Mae'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens yn adnabod ac yn cefnogi'r Brifysgol. Mae wedi bod yn ddarlithydd, uwch ddarlithydd, athro a Chyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Mae hi wedi creu cysylltiadau gwerthfawr i'r sefydliad yn ogystal â chefnogi nifer fawr o raddedigion sydd bellach yn amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.

 

 

Dirprwy Ganghellor
Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd LLB (hyd at 31 Gorffennaf 2024)

  • Wedi ei eni ym Metws y Coed yn 1951, magwyd Elfyn Llwyd AS yn Llanrwst ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. Cyn ei ethol yn Aelod Seneddol, gweithiodd fel cyfreithiwr a dod yn fargyfreithiwr yn 1997.
  • Mae Elfyn Llwyd yn Aelod Seneddol ers 1992, yn cynrychioli Meirionnydd Nant Conwy yn Nhŷ’r Cyffredin o 1992 tan 2010 a Dwyfor Meirionnydd ers 2010. Elfyn Llwyd yw arweinydd grŵp seneddol Plaid Cymru yn San Steffan. Ei ddiddordebau gwleidyddol pennaf yw materion cartref, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth. Fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar 9 Chwefror 2011.
  • Mae’n rhugl ei Gymraeg a’i Saesneg, ac yn briod â’r gantores werin Gymraeg Eleri Llwyd. Mae ganddynt ddau o blant. Ymhlith ei ddiddordebau mae bridio colomennod, darllen, teithio a rygbi.
  • Aelod o’r Cyngor rhwng 2015 a 2021.