Y Porth

Llyfrgell ar-lein ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog

Llyfrgell ar-lein ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog Porth Adnoddau'r Coleg. Mae'r llyfrgell yn cynnwys amrywiaeth o e-lyfrau, fideos, erthyglau, cerddoriaeth ddalen, archif S4C, cyrsiau ar-lein, apiau a llawer o adnoddau eraill.  Lleolir yr Esboniadur, adnodd cyfeiriol agored, Cronfa Cyfieithiadau'r Gymraeg, catalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg, ac adnodd Termau Addysg Uwch ar y Porth Adnoddau.  Mae safle Blackboard y Coleg a ddefnyddir ar gyfer modiwlau cydweithredol a gynigir rhwng sawl sefydliad hefyd ar gael drwy'r Porth Adnoddau.