Myfyrwyr TAR

Rydym yn cynnig llety cynhwysol i fyfyrwyr TAR ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.

Rydym yn falch o allu gwarantu llety cynhwysol yn y Brifysgol i fyfyrwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (Cynradd ac Uwchradd) sydd wedi cyrraedd y gofynion mynediad ac wedi cofrestru ar y cwrs a fydd yn dechrau ym mis Medi 2022, a hynny am yr 8 wythnos y bydd angen iddynt eu treulio ar y campws.

 

Sut mae gwneud cais

Cynnig Llety Cynhwysol TAR

Mae’r Cynnig Llety Cynhwysol TAR ar gyfer lle yn llety hunanarlwyo Penbryn.

Os fyddwch yn derbyn y llety a dyrannwyd i chi, ni fydd hyn yn costio’n ychwanegol i’ch ffioedd dysgu dros y cyfnod o amser cyswllt yn y Brifysgol (8 wythnos).

Er mwyn sicrhau lle mewn llety yn y Brifysgol, mae angen i chi ymgeisio erbyn Medi 1 yn y flwyddyn dderbyn, ac ymateb i'ch cynnig llety erbyn y dyddiad cau a nodwyd yn y cynnig llety, fel nodwyd yn ein Polisi Blaenoriaethau.

 

Dyddiadau'r Llety

Gallwn ddarparu llety cynhwysol yn y Brifysgol ar gyfer y dyddiadau canlynol yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23:

  1. Cyfnod Trwydded 1: O 10:00yb ddydd Sadwrn 03 Medi 2022 - 10:00yb ddydd Sadwrn 01 Hydref 2022
  2. Cyfnod Trwydded 2: O 10:00yb ddydd Sadwrn 07 Ionawr 2023 - 10:00yb ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2023
  3. Cyfnod Trwydded 3: O 10:00yb ddydd Sadwrn 10 Mehefin 2023 - 10:00yb ddydd Sadwrn 17 Mehefin 2023

Os ydych ar leoliad profiad gwaith mewn ysgol leol ac mae angen llety arnoch, cysylltwch â’r Swyddfa Llety i weld a oes llety ar gael. Os oes llety ar gael i chi, bydd angen talu Ffioedd Llety yn ystod y cyfnodau hyn ac efallai bydd angen i chi newid llety.

Pam Byw Gyda Ni?

Mae byw mewn llety Prifysgol yn ddechrau rhywbeth cyffrous iawn, gan roi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau am oes mewn cymuned gefnogol, hwyliog a bywiog!

Nid oes angen poeni am filiau anwadal gan fod y ffioedd llety yn cynnwys cyfleustodau (e.e. dŵr, gwres, trydan), Wi-fi â'r rhyngrwyd cysylltiad, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol ac aelodaeth Platinwm Canolfan Chwaraeon am ddim! Gellir dod o hyd i fanteision ychwanegol ar ein gwefan Pam Byw Gyda Ni?Pam Byw Gyda Ni?

Sut i ymgeisio ar gyfer Llety Prifysgol

Dim ond o dan yr amgylchiadau isod y cewch ymgeisio am:

  1. Pan fyddwch wedi cyrraedd eich gofynion mynediad ac wedi cofrestru ar y cwrs.
  2. Pan fyddwch wedi rhoi eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth ar waith - bydd hyn yn digwydd o fis Gorffennaf ymlaen, pan fydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn dechrau gwahodd myfyrwyr i roi eu cyfrif TG ar waith.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cynnig llety cynhwysfawr, yna bydd angen i chi wneud cais llwyddiannus drwy'r ffurflen gais ar-lein ar gyfer llety'r Brifysgol. Ewch at ein tudalen gwe Sut mae gwneud cais am ganllaw cam-wrth-gam.

Llety Dewis Amgen

Os nad ydych chi eisiau byw mewn llety Prifysgol, efallai y byddai'n well gennych chi fyw mewn Llety yn y Sector Preifat.

Mae Gwasanaeth Cyngor Undeb Myfyrwyr Aber yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd o dai mewn llety Prifysgol a'r sector preifat.