Trosolwg

Saif Rosser ar ben uchaf y prif gampws, Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Trefloyne - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.

Llety

Mae Rosser yn gartref i ryw 350 o fyfyrwyr mewn 4 bloc gwahanol (heb gyfrif Rosser G). Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 12 fflat hunangynhwysol, ac 8 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth.

Arlwyo

Llety hunanarlwyo yw Rosser; mae'r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol.

Mae Rosser wedi’i leoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o brif gyfleusterau Rosser:

  • Llety hunanarlwyo.
  • Ystafelloedd en-suite.
  • Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
  • Adnoddau golchi dillad.
  • Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
  • Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Mannau casglu Sbwriel ac Ailgylchu.
  • Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded).
  • Mae Cynorthwywyr Preswlfa'n darparu cymorth a chyngor.

 

Beth sydd yn eich ystafell?

  • Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
  • Cabinet ochr y gwely.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Lamp ddesg.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Bin gwastraff.

Ystafell ymolchi en-suite:

  • Cawod.
  • Toiled.
  • Basn ymolchi (sinc) a drych.
  • Rheilen tywel poeth.

Beth sydd yn eich ardaloedd cymunedol?

Cegin

  • 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell. 
  • 2 ffwrn â gril/hob.
  • Popty ping.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Bar brecwast gyda stolion.
  • 2 Soffa.
  • Bwrdd coffi.
  • Haearn.
  • Bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Brwsh llawr.
  • Hysbysfwrdd.
  • Hwfer.
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.

Lleoliad

map  Cliciwch ar y map i weld union leoliad Rosser.

Mae Rosser o fewn pum munud ar droed i:

Oriel

Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol yn Rosser. (Cliciwch i weld llun mwy)

Golygfa allanol
Golygfa allanol
Ystafell Wely
Ystafell Ymolchi
Ystafell Ymolchi
Cegin
Cegin

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

Sengl, en-suite £138.45 39 wythnos* 143.99 39 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 20/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety