Trosolwg

Mae Fferm Penglais i'w chael wrth ymyl Pentre Jane Morgan, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae'n cynnig y llety myfyrwyr diweddaraf oll, wedi'i godi'n unswydd, gydag ystafell ymolchi i bob ystafell wely. O fewn pellter cerdded hawdd i adeiladau academaidd y Brifysgol, mae'r llety yn darparu amgylchedd eithriadol i fyw ac astudio ynddo, gydag ystafelloedd gwely o faint da gydag ystafelloedd ymolchi preifat, a fflatiau stiwdio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyswllt gwifr a diwifr â'r rhyngrwyd.  Mae man gwasanaethau canolog cyfleus lle y ceir caffi gyda bwrdd pŵl, mannau astudio 24/7, siop, peiriant gwerthu, golchfa, storfa feiciau, ac adnoddau cymdeithasol a chwaraeon. 

Llety

Mae Fferm Penglais yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 22 o flociau; 20 o flociau sy'n cynnwys ystafelloedd gyda'u cyfleusterau eu hunain, a 2 ohonynt sy'n cynnwys fflatiau stiwdio.

Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 9 fflat hunangynhwysol, a 6 neu 8 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth.

Arlwyo

Mae myfyrwyr Fferm Penglais yn arlwyo ar gyfer eu hunain, gan rannu ceginau mewn fflatiau hunangynhaliol.

Mae gan Fferm Penglais siop ar y safle yn SGUBORfach sy’n cynnig yr eitemau sylfaenol am bris isel megis, bara ffres a llaeth, bwydydd wedi’u rhewi, pethau ymolchi a glanhau.

Mae Fferm Penglais wedi’i lleoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Fferm Penglais:

  • Llety hunanarlwyo.
  • Ystafelloedd gwely en-suite mawr.
  • Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
  • Teledu ar y wal ym mhob cegin gymunedol - trwydded deledu’n gynwysedig.
  • Cyfleusterau Golchdy.
  • Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus y tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
  • Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa Rosser neu Lolfa PJM).
  • Caffi gyda siop ar y safle, Wi-Fi, soffas, bwrdd pŵl ac ardaloedd astudio grŵ.
  • Ystafelloedd y Gellir eu Llogi.
  • Peiriannau gwerthu.
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
  • Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
  • Mae Cynorthwywyr Pewswylfa'n darparu cymorth a chyngor.

 

Beth sydd yn eich ystafell?

  • Gwely dwbl (4 troedfedd 6) a matres.
  • Storio o dan y gwely.
  • Silffoedd wrth ochr y gwely.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Rheilen hongian.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Drych hir.
  • Bin gwastraff.

Ystafell ymolchi en-suite

  • Cawod.
  • Toiled.
  • Basn ymolchi â drych a phwynt eillio.
  • Bin pedal.
  • Brwsh toiled.

Beth sydd yn eich Lle Cymunedol?

Cegin

  • 2 Oergell/Rhewgell. 
  • 2 ffwrn â gril.
  • 2 hob anwytho (Angen sosbenni a llestri coginio arbennig*)
  • 2 dau sinc.
  • Peiriant golchi llestri.
  • Popty ping.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Hwfer.
  • Bwrdd cinio a chadeiriau.
  • Haearn.
  • Bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Brwsh llawr.
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.
  • Teledu sgrin wastad ar y wal sy’n gallu chwarae DVD a chyswllt ag erial (darperir trwydded).
  • Soffas.
  • Bwrdd coffi.
  • Hysbysfwrdd.

*Dim ond sosbenni metel wedi’u magneteiddio, er enghraifft haearn bwrw neu ddur, y gallwch chi eu defnyddio. Ni fydd sosbenni alwminiwm na chopr yn gweithio oni bai bod y gwaelod wedi’i fondio â metel magnetig. Gwnewch yn sicr bod y sosbenni sydd gennych yn addas i’w defnyddio ar hob anwythiad – dylai hyn fod wedi’i ddangos yn glir ar y blwch mewn geiriau neu symbolau.

Lleoliad

Map  Cliciwch ar y map i weld union leoliad Fferm Penglais.

O fewn pum munud o gerdded o Fferm Penglais gallwch gyrraedd:

Oriel

Lluniau ac Artistiaid Argraffiadau o Fferm Penglais. (Cliciwch i weld llun mwy)

Golygfa allanol
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Ystafell Ymolchi
Cegin

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2025/ 2024

Sengl En-suite £167.93 40 wythnos* £174.65 40 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 28/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 27/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety