Ffurflen Gais Pecyn Dillad Gwely
Cesglir gwybodaeth trwy gyfrwng y Ffurflen Pecyn Dillad Gwely er mwyn prosesu ceisiadau am becynnau dillad gwely oddi allan i oriau, ac mae’r ffurflen yn cael ei llenwi gan y myfyriwr/gwestai.
Bydd y data a gesglir yn cynnwys (ond ddim o reidrwydd yn gyfyngedig i): enw llawn; manylion cyswllt, cyfeirnod myfyriwr Prifysgol Aberystwyth, manylion y llety, llofnod.
Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu’n fewnol, ond dim ond rhwng swyddogion diogelwch a’r Swyddfa Llety.
Cedwir y data’n lleol ar ffurf copi caled a cheir gwared arnynt pan fydd y taliad am y pecyn dillad gwely wedi’i dderbyn.
• Sail gyfreithlon: Cydsyniad.