Y Strategaeth Dysgu ac Addysgu: Cynllun Gweithredu, 2019–2022

Yn sgil y ffaith fod amgylchedd Addysg Uwch yn newid mor gyflym, bydd y strategaeth hon yn gynllun tair blynedd, fel y gellir ei rheoli'n fanwl a'i chanolbwyntio ar anghenion y sefydliad ar hyn o bryd, wrth iddo wynebu cyfnod o drawsnewid sylweddol.

Prif nod y strategaeth fydd hyrwyddo ethos o ddysgu gweithredol mwy parhaus ymhlith y myfyrwyr, fel egwyddor addysgegol ledled y Brifysgol. Ceir llawer o resymau dros ddewis hyn fel y prif nod: mae amrywiol arolygon a grwpiau ffocws mewnol yn dweud wrth y Brifysgol y byddai’r myfyrwyr yn hoffi gweld amgylchedd dysgu mwy gweithredol; mae'r llenyddiaeth o ran addysgeg a pholisi ym maes gwella addysgeg yn dweud wrthym bod gwella'r amgylchedd addysgu digidol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd amgylchedd dysgu'r dyfodol; a dywed llu o ffynonellau eraill wrth y Brifysgol fod gwelliannau ym maes dysgu gweithredol yn cael effaith lesol ar gadw myfyrwyr, ymwneud myfyrwyr a bodlonrwydd myfyrwyr.

Yn ogystal â'r prif ffocws hwn, yr ydym yn deall y ceir hefyd lawer o agweddau eraill ar brofiad myfyrwyr a dysgu ac addysgu y gellid eu cwmpasu yn y strategaeth. Fodd bynnag, er y bydd y strategaeth yn cwmpasu ystod o feysydd sy'n effeithio ar ddysgu ac addysgu ac ar brofiad myfyrwyr yn feunyddiol ym mhob blwyddyn academaidd, bydd y prif ffocws ar flaenoriaethau penodol. Bydd gweithgorau penodol yn goruchwylio'r meysydd allweddol hyn, tra bydd materion parhaus eraill yn cael eu rheoli gan grwpiau/prosesau, Pwyllgorau neu Fyrddau sy'n bodoli eisoes, a'r Bwrdd Academaidd yn arwain ac yn adrodd ar gynnydd yn flynyddol i'r Senedd.

Bydd y strategaeth yn gosod y nodau cyffredinol ar gyfer dysgu ac addysgu yn y Brifysgol, a disgwylir y bydd y Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg yn rhoi'r rhain ar waith yn rhan o strategaeth cyfrwng Cymraeg ehangach sydd hefyd yn ystyried blaenoriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. At hynny, bydd y strategaeth hefyd yn ystyried Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywioldeb y Brifysgol a'i hoblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu ledled y Brifysgol. Yn olaf, bydd y Strategaeth Rhagoriaeth Addysg yn ategu'r Strategaeth Ymchwil trwy greu posibiliadau ar gyfer croesffrwythloni rhwng gwaith dysgu'r myfyrwyr a gweithgarwch ymchwil.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi'r meysydd canlynol yn y ddau gategori:

Meysydd Strategol Allweddol

1. Y Prosiect Dysgu Gweithredol

Nod dysgu gweithredol yw symud oddi wrth fodel o addysgu trwy drosglwyddo, lle mai'r oll a wna myfyrwyr yw gwneud nodiadau a dilyn cyfarwyddiadau. Yn hytrach, ei nod yw sicrhau bod y myfyrwyr yn rhan o'u proses ddysgu eu hunain. Trwy gyfrwng ystod o dechnegau a dulliau, mae'n annog meddwl ar lefel uwch ac yn galluogi myfyrwyr i fynd ati i greu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth eu hunain (Yr Arolwg Cenedlaethol o Ymwneud Myfyrwyr).

Dengys ymchwil fod gan ddysgu gweithredol nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • gwella canlyniadau myfyrwyr
  • amgylchedd dysgu mwy cynhwysol
  • dysgu mwy cynhyrchiol i fyfyrwyr
  • gwell cyfleoedd dysgu i grwpiau megis rhai sydd wedi'u tangynrychioli a myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn fenywaidd.

Ymhlith y technegau dysgu gweithredol cyffredin mae defnyddio offer yn y dosbarth megis meddalwedd pôl piniwn neu bleidleisio, gweithgareddau datrys problemau, defnyddio astudiaethau achos, a phrosiectau ymchwil ar y cyd. Gall staff gyflwyno dysgu gweithredol trwy gyfrwng newidiadau bychain i'r dulliau addysgu sydd eisoes wedi’u sefydlu, neu trwy fynd ati i ailddylunio modiwlau neu gynlluniau ar raddfa fawr. Gall rhai o'n hoffer digidol, megis Blackboard, hefyd helpu i wneud dysgu yn fwy gweithredol, yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi.

Wrth gwrs, nid yw dysgu gweithredol yn rhywbeth newydd. Bydd llawer o staff eisoes yn defnyddio dysgu gweithredol yn rhan o'u haddysgu arferol. Fodd bynnag, nod strategol y polisi hwn yw uwchraddio'i ddefnydd, gan gyflwyno diwylliant o ddysgu gweithredol ledled y Brifysgol.

Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:

  • cynnal arolwg o’r llinell sylfaen o ran gweithgarwch cyn cam 1
  • ymestyn ac ysgogi trafodaeth ledled y Brifysgol am addysgeg dysgu gweithredol
  • rhoi cymorth, cymhellion ac anogaeth i staff ddatblygu technegau dysgu gweithredol
  • sicrhau bod ein systemau, ein strwythurau a'n hadnoddau yn cefnogi dysgu gweithredol
  • cysylltu ein haddysgeg dysgu gweithredol â chanlyniadau cyflogadwyedd myfyrwyr trwy gyfrwng dulliau asesu priodol ac ymwneud â chyflogwyr posibl, ymhlith pethau eraill

Ceir nifer o rwystrau i ddefnydd ehangach. Efallai fod staff yn bryderus ynghylch rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, neu efallai eu bod yn ystyried hynny’n risg. Efallai fod ar eraill angen cymorth a chyngor ynghylch ymwneud â syniadau newydd ac offer newydd i hwyluso cyfleoedd newydd i fyfyrwyr.

 

Cam 1: Deialog a Chreu

Medi 2019 – Pasg 2020

Yn ystod cyfnod "deialog" o fis Medi 2019 hyd y Pasg yn 2020, bydd y Brifysgol yn cynnal cyfres o seminarau, trafodaethau mewn Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr, grwpiau myfyrwyr a grwpiau ffocws, cynadleddau, cyfarfodydd neuadd y dref a siaradwyr gwadd er mwyn ysgogi ac ehangu'r sgwrs ynghylch y cysyniad o ddysgu gweithredol, sut y gellid ei ymgorffori yn y cwricwlwm, sut y gall ddefnyddio adnoddau sydd ar gael eisoes, technegau ar gyfer datblygu dysgu gweithredol, ymwneud â a chyflwyno adnoddau a meddalwedd digidol ac e-ddysgu, a sut y gellir cynnwys myfyrwyr wrth fynd ati'n ymarferol i ddatblygu'r is-strategaethau. Bydd hyn hefyd yn gyfle i adrannau ddwyn syniadau ynghyd ar gyfer eu his-strategaethau Dysgu ac Addysgu, gyda mentrau a fydd yn sail i'w hymwneud â Strategaeth Ymchwil y Brifysgol.

Cydnabyddir y bydd adrannau ac unigolion yn cychwyn o wahanol leoedd o ran eu hymwneud â dysgu gweithredol. O ganlyniad, bydd pob adran yn cael hyd y Pasg yn 2020 i ddyfeisio is-strategaeth sy'n ddigon uchelgeisiol ac ymestynnol ac a fydd yn codi'r safon o ran dysgu gweithredol o'u safbwynt hwy. Rhaid i is-strategaethau'r adrannau gynnwys myfyrwyr yn natblygiad y prosiect trwy gyfrwng y Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr a grwpiau ffocws arbennig. Rhaid i'r is-strategaethau hefyd osod amcanion uchelgeisiol y gellir eu mesur, a chynnwys holl staff academaidd yr Adran.

Yna bydd panel yn gwerthuso'r is-strategaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon uchelgeisiol a bod digon o gyswllt rhyngddynt a'r egwyddorion, ac yn adrodd yn ôl i'r adrannau ynghylch i ba raddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion strategol y Brifysgol.

 

Cam 2: Gweithredu

Pasg 2020 – Pasg 2022

Bydd yr holl adrannau yn rhoi eu cynlluniau gweithredu ar waith, gyda chymorth gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a darpariaeth sylfaenol y Gwasanaethau Gwybodaeth. Disgwylir y bydd Pwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau yn goruchwylio is-strategaethau'r adrannau yn rheolaidd ac yn cael diweddariadau ar eu cynnydd. Bydd angen darparu adroddiadau canol tymor i'r panel yn ystod haf 2021. Bydd y gweithgareddau cynnal deialog yn parhau er mwyn cryfhau amgylchedd dysgu ac addysgu lle mae dysgu gweithredol yn cael ei feithrin ledled y Brifysgol.

 

Cam 3: Cwblhau a Gwerthuso Terfynol

Pasg 2022 – Haf 2022

Bydd yr holl adrannau yn cyflwyno eu hadroddiadau terfynol a bydd y panel yn mesur canlyniadau'r is-strategaethau o ran cwrdd ag amcanion cyffredinol Strategaeth Rhagoriaeth Addysg y Brifysgol. Cyflwynir adroddiad terfynol i'r Senedd a'r Cyngor, yn manylu ynghylch i ba raddau y mae'r Brifysgol wedi cyfoethogi profiad myfyrwyr ac wedi gwella dysgu gweithredol ledled y sefydliad. Bydd effaith y gwelliannau hyn yn parhau i gael ei monitro yn ystod y ddwy flynedd wedi hynny.

2. Pontio a Chynefino Myfyrwyr yn y Flwyddyn Gyntaf

Gan fod y cwricwlwm ysgolion yn newid yng Nghymru a Lloegr, ceir angen cynyddol i ystyried cyfnod pontio myfyrwyr Sylfaen a Blwyddyn Gyntaf i'r Brifysgol. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd ag amrywiaeth o sgiliau, cymwyseddau, disgwyliadau a chryfderau, ac am resymau'n ymwneud â chadw myfyrwyr a chynnig profiad da iddynt mae angen i'r Brifysgol roi sylw i addasrwydd ei phrosesau ar gyfer helpu myfyrwyr i ymgartrefu yn y Brifysgol. Bydd gweithgor penodol yn cael ei sefydlu er mwyn ymchwilio i ddull y Brifysgol o ymwneud â phontio a chynefino o'r adeg pan gaiff myfyrwyr eu derbyn ymhell i mewn i'w profiad yn y flwyddyn gyntaf, ac i ddadansoddi'r dull hwnnw. Ymhlith ei ystyriaethau bydd ymgorffori dysgu gweithredol yn nealltwriaeth y myfyrwyr, defnydd llwyddiannus o sgiliau llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth, datblygu sgiliau cyflogadwyedd, ac addysgu myfyrwyr i ddatblygu cydbwysedd cadarn rhwng bywyd a gwaith. Bydd y gweithgor hefyd yn ystyried prosesau cynefino grwpiau eraill megis myfyrwyr hŷn, myfyrwyr sy'n ailadrodd blwyddyn, a'r carfanau o fyfyrwyr uwchraddedig trwy gwrs ac ymchwil. Hefyd, er bod y Brifysgol yn ymfalchïo yn ei darpariaeth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, bydd ystyried y newid yn yr anghenion er mwyn croesawu a chynnwys myfyrwyr o ddiwylliannau eraill yn amgylchedd y Brifysgol yn elfen ychwanegol o'r gwaith hwn. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys llawer rhan o'r Brifysgol, gan gynnwys (ymhlith adrannau eraill), UM Aber, yr adrannau academaidd, y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Gwasanaethau Preswyl a'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.

3. Proses Cynefino Staff

Mae cynefino staff yn broses hanfodol er mwyn gwella profiad myfyrwyr a sicrhau bod y profiad hwnnw yn gyson ac yn seiliedig ar wybodaeth. Er bod elfennau o hyn yn bodoli, ceir hefyd rai bylchau ac absenoldebau. Gan weithio gydag Adnoddau Dynol, yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a rhannau eraill o'r Brifysgol, bydd gweithgor yn cael ei greu er mwyn egluro a strwythuro prosesau cynefino staff, er mwyn creu proses sy'n seiliedig ar wybodaeth ac sydd nid yn unig yn cynnwys meysydd cydymffurfiaeth ond hefyd yn amlinellu gwybodaeth glir am bolisïau allweddol y Brifysgol a disgwyliadau'r Brifysgol. At hynny, bydd yr elfen Datblygu Proffesiynol Parhaus yn canolbwyntio ar well rheoli perfformiad, Datblygu Staff parhaus trwy gydol gyrfaoedd, a'r Cynllun Cyfraniad Effeithiol a'i berthynas â gwella rhagoriaeth addysgu yn y dyfodol. Bydd y gweithgor hefyd yn ystyried yr amserlen a'r dull cyflwyno priodol ar gyfer y broses cynefino hon, gan gofio y bydd sawl galwad yn cystadlu am sylw staff newydd yn ystod eu hychydig wythnosau cyntaf yn y sefydliad. Yn rhan o'r gwaith hwn, bydd y broses Cyfnod Prawf penodol ar gyfer staff newydd hefyd yn cael ei hystyried a'i hegluro, yn ogystal â'r llwybr TUAAU sy'n rhan o'r broses hon, er mwyn paratoi staff sydd ar ganol eu gyrfa ar gyfer gwneud ceisiadau am gymrodoriaethau Advance HE/Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU.

4. Datblygiad Iechyd Meddwl y Staff a'r Myfyrwyr

Mae iechyd meddwl yn faes holl bwysig ar gyfer holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol, ac yn bwnc trafod mewn cymdeithas yn ehangach ar hyn o bryd. Er na ellir ei wahanu rhag meysydd megis 2 a 3 uchod, mae'n faes sydd o bwysigrwydd mor arwyddocaol fel ei fod yn cyfiawnhau pwyslais ar wahân yn y Strategaeth Dysgu ac Addysgu. Gan weithio gydag UM Aber a Chymorth i Fyfyrwyr yn enwedig, bwriedir llunio is-strategaeth benodol ar Iechyd Meddwl ar y cyd â holl adrannau'r Brifysgol erbyn Mawrth 2020. Yn rhan o'r is-strategaeth honno, bydd trefn benodol o hyfforddiant iechyd meddwl yn cael ei sefydlu ar gyfer yr holl adrannau academaidd, yn ogystal ag ystyried ymwneud y Brifysgol â'r darparwyr statudol. Bydd hyn yn cydblethu â'r ddarpariaeth Tiwtoriaid Personol (gweler isod) ond bydd yn rhan o bwyslais ehangach ar iechyd meddwl myfyrwyr ledled y Brifysgol, i fyfyrwyr cyn gradd, israddedigion ac uwchraddedigion. At hynny, gan weithio gydag Adnoddau Dynol, bydd pwyslais ar iechyd meddwl y staff hefyd yn cael ei egluro a'i amlygu yn rhan o'r gweithdrefnau datblygu staff. Nod y maes gweithgarwch hwn fydd sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau sy'n berthnasol i staff yn cael eu diweddaru a'u bod yn berthnasol i arferion gwaith y sefydliad.

5. Cynhadledd Ddysgu Ryngwladol

Mae gwobrau'r Brifysgol yn brawf o'i gallu i gystadlu â'r goreuon ym maes Profiad Myfyrwyr a Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu yn y DU. Er mwyn gosod y Brifysgol mewn deialog ryngwladol am ddysgu ac addysgu, bydd y Brifysgol yn cynnal cyfres o gynadleddau dysgu ac addysgu blynyddol mewn lleoliadau rhyngwladol (e.e. Malaysia, China, yr Emiraethau Arabaidd Unedig), gan wahodd ei holl bartneriaid rhyngwladol gwerthfawr iddynt er mwyn rhannu gwybodaeth am arferion rhagorol ym maes dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i staff PA gyflwyno cryfderau arferion addysgu'r Brifysgol i bartneriaid tramor, ac i ddysgu am arloesi ym maes addysgu gan ddiwylliannau ac amgylcheddau addysg uwch eraill. Mae digwyddiadau o'r fath nid yn unig yn gyfle ar gyfer marchnata a hysbysebu, ond hefyd yn cydblethu ag amcan y Strategaeth Marchnata a Denu Myfyrwyr i godi amlygrwydd rhyngwladol y sefydliad.

Ystyriaethau Strategol Parhaus

6. Datblygiadau o ran Dadansoddi Dysgu (mewn partneriaeth â CCAUC/JISC)

Mae'r gwaith cyfoethogi hwn eisoes ar droed ac yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Gwella Academaidd y Brifysgol, gan dalu sylw penodol i Blackboard, Aladdin a SAMS. Nid gwella gwybodaeth y Brifysgol am bresenoldeb myfyrwyr a rhoi gwybod i'r Tiwtor Personol am ymwneud myfyrwyr yw unig nodau’r broses hon; mae ganddi hefyd y potensial i wella'r gwaith olrhain ynghylch cadw myfyrwyr, iechyd meddwl myfyrwyr, trywydd academaidd myfyrwyr ac amrywiaeth o feysydd eraill a allai wella profiad myfyrwyr. Wrth i'r prosiect aeddfedu o ran rheoli a chipio data, bydd angen ystyried llunio canllawiau a gwybodaeth briodol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd ynghylch goblygiadau ac ystyriaethau manwl defnyddio’r data ar gyfer canlyniadau effeithiol ac adeiladol.

7. Adnewyddu'r Ystad

Ceir amrywiol gynlluniau adnewyddu ledled y cyfleusterau addysgu yn rhan o raglen dreigl o dan y Strategaeth Ystadau. Mae'r rhain yn seiliedig ar y ffaith bod cyflwr presennol rhai o'r cyfleusterau addysgu (y dywedir yn aml eu bod yn arloesol) yn dyddio'n ôl i 2013, pan roddwyd y cynllun adnewyddu gwreiddiol ar waith. Gan ddibynnu ar adnoddau, mae'r cynlluniau i barhau â'r gwaith adnewyddu yn Llyfrgell Hugh Owen ar waith, yn ogystal â chynlluniau i ddatblygu sawl cyfleuster addysgu a gofodau dysgu i fyfyrwyr. Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth gynllun treigl i uwchraddio cyfleusterau TG ledled y campws, a cheir cynlluniau pellach i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr. Bydd trafodaethau cyson ynghylch rhagor o waith adnewyddu neu uwchraddio cyfleusterau yn parhau trwy gydol oes y strategaeth hon, gan gynnwys mewnbwn gan adrannau academaidd ynghylch siapio a phennu'r gofodau cywir ar gyfer dysgu ac addysgu ar sail y prosiect dysgu gweithredol. Mae'r Bwrdd Gwella Academaidd a'r Adran Ystadau yn goruchwylio'r datblygiadau hyn.

8. Asesu ac Adborth

Mae'r Brifysgol yn gwneud yn dda ym maes Asesu ac Adborth ar hyn o bryd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae hwn yn faes holl bwysig o ran sicrhau ansawdd a chanlyniadau rhagorol i fyfyrwyr ac mae arno angen sylw a gwaith gwella parhaus, er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr oll yn cael yr un profiadau yn ogystal â datblygiad ffurfiannol da ar gyfer canlyniadau Anrhydedd Da. Gan weithio gyda'r Gofrestrfa, yr adrannau academaidd a Phwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau, bydd y Brifysgol yn parhau i ganolbwyntio ar y maes hwn, gan sicrhau bod trylwyredd, cysondeb ac arloesi yn parhau i fod yn sail i holl arferion y Brifysgol. Mae'n bosibl iawn y bydd y maes gweithgarwch hwn yn cydblethu â'r prosiect dysgu gweithredol ac ymwneud myfyrwyr, yn ogystal ag effeithio ar ystyriaethau iechyd meddwl myfyrwyr a staff.

9. Cyfoethogi Darpariaeth Tiwtoriaid Personol

Ceir Grŵp Tiwtoriaid Personol ar hyn o bryd ac mae'n monitro ac yn datblygu arferion yn y maes hwn. Mae gwaith y grŵp yma yn gorgyffwrdd â datblygiadau ym maes Dadansoddeg Dysgu, ystyriaethau Cymorth i Fyfyrwyr a gwaith ehangach ar gadw myfyrwyr. Mae system Tiwtoriaid Personol gyson, ddefnyddiol a chlir yn rhan mor ganolog o nifer o ffactorau pwysig o ran profiad myfyrwyr. Bydd y grŵp yma’n adrodd yn uniongyrchol i'r Dirprwy Is-Ganghellor sy'n gyfrifol am Ddysgu ac Addysgu, a bydd yn goruchwylio'r system Tiwtoriaid Personol ac yn annog ei defnyddio'n systematig ac yn effeithiol ledled y Brifysgol. Bydd hefyd yn cefnogi'r grwpiau mentora cyd-fyfyrwyr sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bydd cyfoethogi'r ddarpariaeth Tiwtoriaid Personol hefyd yn gorgyffwrdd yn glir â'r gwaith sy'n cael ei wneud ym maes 4 uchod.

10. Prosesau Gwerthuso Modiwlau a Llais y Myfyrwyr

Mae gennym eisoes broses effeithiol a sefydledig i Werthuso Modiwlau, ac mae'n cael ei mireinio bob blwyddyn. Mae'r system Holiaduron Gwerthuso Modiwlau yn rhoi gwybodaeth i'r Brifysgol am ystod eang o faterion sy'n ymwneud ag addysgu, ac yn galluogi cymryd camau penodol ac adeiladol er mwyn adfer y sefyllfa. Mae'n ein galluogi i fonitro ein cryfderau a'n gwendidau yn fanwl ac yn galluogi adrannau i gymryd camau sy'n ymateb yn briodol i lais y myfyrwyr ac anghenion addysgu'r staff (h.y. arbenigedd hyfforddi, cynllunio modiwlau ac asesu). Mae'r system Holiaduron Gwerthuso Modiwlau yn ategu'r prosesau Rho Wybod Nawr a Dy Lais ar Waith (ynghyd â’r Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr a'r system Cynrychiolwyr Myfyrwyr, sy'n datblygu’n fwyfwy effeithiol), sy'n galluogi cofnodi llais myfyrwyr yn effeithiol ac yn darparu dull cyfathrebu ymatebol. Mae'r prosesau hyn oll yn cael eu defnyddio'n eang ledled y sector AU bellach, ac maent yn debygol o gadw'r Brifysgol ar flaen y gad o ran mesur profiad myfyrwyr ac ymateb iddo. Mae'r Bwrdd Gwella Academaidd a'r Bwrdd Academaidd yn goruchwylio'r holl brosesau hyn, ac yn adrodd i'r Senedd.

11. Mentrau Cyflogadwyedd

Mae'n rhaid i bob prifysgol roi'r pwys mwyaf ar y rheidrwydd i sicrhau cyflogadwyedd ei graddedigion. Mae'r ffactor hwn yn cyfrannu at lawer o dablau cynghrair allweddol o ran perfformiad, ac at fesurau'r llywodraeth/cyrff cyllido, ac mae hefyd yn ffactor o bwys wrth ddenu myfyrwyr. Gan oruchwylio'r mentrau a'r camau gweithredu lu a geir yn y maes hwn, bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn parhau i reoli, goruchwylio a mireinio datblygiadau er mwyn cynnal a gwella proffil cynyddol gadarnhaol y Brifysgol yn y maes hwn dan fantell y Strategaeth Cyflogadwyedd. Bydd y Brifysgol yn cyfrannu'n weithgar at hyrwyddo'r cynlluniau Blwyddyn mewn Diwydiant, gweithgarwch entrepreneuriaeth trwy gyfrwng y Grŵp Menter Strategol a pharatoi'n uniongyrchol ar gyfer cyflogaeth gyda digwyddiadau megis y Clwb Hwb a mentrau AberYmlaen. Yn ei hanfod, er mwyn cyflawni'r canlyniadau hyn, bydd y Brifysgol yn ceisio ymgorffori cyflogadwyedd yn fwy trylwyr o fewn y cwricwlwm, a chysylltu addysgeg dysgu gweithredol â’r gwaith o ddatblygu sgiliau priodol ar gyfer graddedigion Aberystwyth.