Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno - Ystyriaethau Ymarferol
Noder fod y dudalen hon yn is-adran o'r ddogfen lawn Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno. Mae’r llawlyfr cyfan hefyd ar gael i’w lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin am E-gyflwyno (PDF).
- Cyffredinol
- Y Gymraeg
- Cyflwyno Ar-lein
- Marcio
- Adborth
- Argraffu
- Ystyriaethau Ymarferol
- Hyfforddiant
Ystyriaethau Ymarferol
Beth sy’n digwydd os yw’r systemau cyfrifiadur yn torri?
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn ymgynghori’n eang ynglŷn ag amseru gwaith cynnal a chadw. Nid yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynllunio gwaith cynnal a chadw yn ystod cyfnod addysgu ac mae’r holl waith yn cael ei amserlennu ar gyfer cyfnod gwyliau. Mae Turnitin yn ymrwymo i sicrhau bod eu systemau ar gael “o leiaf 98% o’r amser yn ystod pob mis … ar wahân i waith cynnal a chadw sydd wedi’i gynllunio ac atgyweiriadau”. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn hysbysu am unrhyw doriad arfaethedig i Blackboard a Turnitin drwy’r Ebost Wythnosol, newyddion y GG, Facebook a Turnitin, a negeseuon ar Blackboard ei hun. Mae’n bosibl y ceir toriadau anrhagweledig a bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhannu manylion am unrhyw broblemau mor eang â phosibl.
Ydy hi’n bosibl atal Turnitin rhag tynnu dolenni gwe yng ngwaith y myfyrwyr?
Y rheswm am hyn yw bod Turnitin yn creu fersiwn o’r ddogfen i’w marcio ar-lein yn awtomatig. Rydym ni wedi codi’r mater hwn gyda Turnitin, ac mae prifysgolion eraill hefyd wedi ei nodi. Yn anffodus nid yw hwn yn newid y gellir ei wneud yn lleol yn PA.
Ydy hi’n bosibl dyrannu marcio i wahanol aelodau o staff sy’n marcio fel tîm?
Gellir gwneud hyn gyda’r offeryn Grŵp yn Blackboard. Gellir gwneud hyn cyn marcio’r traethodau neu gellir ei sefydlu’n ddiweddarach. Gall y Tîm Blackboard gynghori.
Sut caiff y gwaith ei archifo?
Y ffordd orau o archifo aseiniadau Turnitin yn y tymor hir yw lawrlwytho’r ffeil zip o gyflwyniadau a gwneud copi wrth gefn yn lleol. Cyfnod cadw gwaith sydd wedi’i asesu yn PA yw chwe mis ar ôl symud i Ran 2 ar gyfer gwaith Rhan 1, a 6 mis ar ôl graddio ar gyfer gwaith Rhan 2. Bydd angen i adrannau gytuno ar strwythur storio synhwyrol a chonfensiynau enwi ffeiliau synhwyrol, yn ogystal â threfniadau ar gyfer gwaredu ffeiliau ar ddiwedd y cyfnod cadw.
Beth am ystyriaethau iechyd a diogelwch?
Er bod marcio ar-lein yn golygu treulio amser ychwanegol o flaen cyfrifiadur ar adegau penodol o’r flwyddyn, cyhyd â bod canllawiau arferol PA yn cael eu dilyn ni ddylai hyn olygu cynnydd mawr yn y perygl o straen i’r llygaid neu RSI. Byddem ni’n cynghori staff i ymgynghori ag asesydd Cyfarpar Sgrin Arddangos eu hadran os oes ganddynt unrhyw broblemau.
Wrth gwrs, mae ymchwil yn dangos bod osgo gwael, golau isel, peidio â chymryd digon o seibiau ac ati wrth weithio ar gyfrifiadur yn gallu achosi problemau iechyd i bobl, ond mae’n debygol bod yr un peth yn wir am farcio papur (er nad oes fawr ddim ymchwil wedi’i wneud yn y maes hwn oherwydd nad yw’n ‘dechnoleg newydd’) a dylid dilyn yr un egwyddorion o ran osgo da, golau da, seibiau ac ati sy’n berthnasol i farcio ar-lein wrth farcio papur.
Ceir rhagor o wybodaeth PA yma:
- http://www.aber.ac.uk/en/hse/proc-prac/dse/
- http://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eyetest/
- http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/humanresources/employmentinformation/flexibleworkingpolicy/Homeworking---Self-Assessment-Checklist.pdf
Ceir rhagor o wybodaeth gyffredinol am farcio ar-lein yma:
- https://as.exeter.ac.uk/online-marking/
- http://www.bris.ac.uk/esu/e-learning/support/tools/e-submission/
Dylid cyfeirio pryderon penodol at y swyddog diogelwch adrannol yn y lle cyntaf. Caiff canllawiau pellach eu cyhoeddi dros fisoedd yr haf.