Dyfarnu graddau Aegrotat a graddau ar ôl Marwolaeth

Dyfarnu graddau Aegrotat a graddau ar ôl Marwolaeth

Mae pob cynllun gradd a ddysgir yn cynnwys tystysgrif a diploma interim y gellir eu dyfarnu i fyfyrwyr os nad ydynt yn gallu cwblhau eu hastudiaethau. Mae’r rheoliadau gradd hefyd yn caniatáu ar gyfer gwneud dyfarniadau heb i’r holl gredydau gael eu cwblhau. Fel arfer, dim ond yn yr amgylchiadau canlynol yr ystyrir dyfarnu gradd Aegrotat neu radd ar ôl marwolaeth: nid oes dyfarniad interim i’w gael; ni ellir dyfarnu gradd o fewn y rheoliadau; a bod y myfyriwr ar fin cwblhau’r dyfarniad.

Dyfarnu gradd Aegrotat

Gall Bwrdd Arholi’r Senedd ddyfarnu gradd Aegrotat os rhwystrir yr ymgeisydd gan salwch neu amgylchiadau arbennig eraill rhag cwblhau elfennau arholi/asesu terfynol cynllun astudio a ddysgir. Bydd yn rhaid i’r Bwrdd gael tystiolaeth ategol briodol.

Wrth wneud hyn, rhaid i Fwrdd Arholi’r Senedd fod wedi ei fodloni:

  • bod perfformiad blaenorol yr ymgeisydd yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol y byddai ef/hi wedi pasio onibai am y salwch/digwyddiad dan sylw.
  • nad yw’r ymgeisydd yn debygol o allu dod yn ôl i gwblhau ei astudiaethau/hastudiaethau yn nes ymlaen.

Rhaid i’r ymgeisydd gadarnhau’n ysgrifenedig ei fod ef/bod hi yn fodlon derbyn dyfarniad Aegrotat; os nad ydyw, gweithredir y confensiynau arferol ynghylch cyfleoedd ailsefyll ac estyniadau i gyfnodau amser. Bydd gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn ddi-ddosbarth ac ymhob ffordd arall heb raddfa iddi. Nid yw dyfarnu gradd Aegrotat o angenrheidrwydd yn rhoi hawl i’r deiliad gofrestru gyda chorff proffesiynol, nac i gael eithrio rhag gofynion unrhyw gymhwyster proffesiynol a allai fel arall fod yn gysylltiedig â’r cynllun astudio dan sylw.

Ni ellir eithrio unrhyw ymgeisydd rhag cyflwyno ac amddiffyn traethawd ymchwil neu rhag cyflwyno traethawd Meistr (neu elfen gyfatebol) lle bo angen. Y mae’n dilyn, felly, na chaiff Byrddau Arholi argymell dyfarnu gradd ymchwil Aegrotat, a dim ond lle gellir arholi’r gwaith a wnaed ar gyfer y traethawd y gellir dyfarnu gradd Meistr trwy Gwrs Aegrotat.

Dyfarnu gradd ar ôl Marwolaeth

Gall Byrddau Arholi’r Senedd (neu Gadeirydd y Bwrdd, trwy gamau gweithredol) gadarnhau dyfarnu gradd ar ôl marwolaeth ar argymhelliad Bwrdd Arholi’r Adran/Athrofa os cafodd digon o gredydau eu pasio ar lefel y dyfarniad i’w gwneud yn amlwg, heb amheuaeth resymol, y byddai’r ymgeisydd wedi ennill y cymhwyster. Bydd gradd ar ôl marwolaeth yn ddiddosbarth. Er enghraifft, dylasai ymgeisydd am radd gychwynnol tair blynedd fod wedi symud ymlaen i’r drydedd flwyddyn ac wedi cwblhau’r semester cyntaf yn llwyddiannus.  

Yn achos dyfarniad Meistr, os bu farw ymgeisydd cyn cyflwyno traethawd hir neu elfen gyfatebol, gellir argymell dyfarnu gradd ar ôl marwolaeth cyhyd ag y gall y Bwrdd ystyried y dystiolaeth sydd ar gael o’r gwaith a gyflawnwyd gan yr ymgeisydd. Fel arfer, bydd tystiolaeth o’r fath yn cael ei darparu gan arolygydd/ymgynghorydd yr ymgeisydd, a fydd hefyd yn cyflwyno adroddiad i’w ystyried gan yr arholwyr, gan gynnwys argymhelliad a dadleuon da o blaid dyfarnu gradd yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • rhaid bod digon o’r prosiect ymchwil wedi’i gwblhau i ganiatáu cyflawni asesiad priodol o hyd a lled a chwmpas y gwaith.
  • rhaid i safon y gwaith ymchwil a gwblhawyd fod yr hyn sydd fel arfer yn ofynnol i ddyfarnu’r radd dan sylw, a dangos gafael yr ymgeisydd ar y pwnc.
  • dylai’r deunydd ysgrifenedig sydd ar gael (drafft o benodau, gwaith cyhoeddedig, gwaith a baratowyd i’w gyhoeddi, cyflwyniadau i gynadleddau / seminarau, adroddiadau cynnydd a baratowyd gan yr ymgeisydd i’w adran/athrofa/noddwr) ddangos gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu traethawd hir neu elfen gyfatebol i’r safon ofynnol.

Bydd gradd, diploma neu dystysgrif a ddyfernir ar ôl marwolaeth yn ddiddosbarth.

Graddau Ymchwil Uwchraddedig

Gall y Bwrdd Arholi Graddau Ymchwil Uwchraddedig argymell i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) y gellir dyfarnu gradd ar ôl marwolaeth os bu farw ymgeisydd

  • ar ôl i’r traethawd ymchwil gael ei arholi, neu ei gyflwyno i’w arholi, ond cyn i’r arholiad llafar (lle bo angen) gael ei gynnal.

Mewn achos o’r fath, bydd y Bwrdd yn ystyried y gwaith a gyflwynwyd a, chyhyd â’i fod yn fodlon mai gwaith yr ymgeisydd ei hun ydyw (trwy dderbyn adroddiadau gan Bennaeth yr Adran a’r Arolygydd), gall benderfynu argymell bod dyfarniad yn cael ei wneud.

  • cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil.

Mewn achos o’r fath, bydd y Bwrdd yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael o’r gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan yr ymgeisydd. Fel arfer, darperir tystiolaeth o’r fath gan arolygydd yr ymgeisydd, a fydd hefyd yn cyflwyno adroddiad i’w ystyried gan yr arholwyr. Bydd Pennaeth yr Adran dan sylw hefyd yn cyflwyno argymhelliad yn gosod allan y dadleuon ynghylch dyfarnu’r radd. Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol hefyd:

  • rhaid bod digon o’r prosiect ymchwil wedi’i gwblhau i ganiatáu gwneud asesiad priodol o hyd a lled a chwmpas y traethawd ymchwil;
  • rhaid i safon y gwaith ymchwil a gyflawnwyd fod yr hyn sydd fel arfer yn ofynnol i ddyfarnu’r radd dan sylw, a rhaid ei fod yn dangos gafael yr ymgeisydd ar y pwnc;

Rhaid i’r deunydd ysgrifenedig (drafft o benodau, gwaith cyhoeddedig, gwaith a baratowyd i’w gyhoeddi, cyflwyniadau i gynadleddau / seminarau, adroddiadau cynnydd a baratowyd gan yr ymgeisydd i’w adran/athrofa/noddwr) ddangos gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu traethawd hir neu elfen gyfatebol i’r safon ofynnol.