Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoli dyfarnu’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth: y Brifysgol o hyn ymlaen. Ac eithrio lle nodir yn wahanol, maent yn berthnasol i raglenni sy'n dechrau o fis Medi 2021. Bydd myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu rheoli gan y rheoliadau a oedd mewn grym adeg eu derbyn.

Mynediad

1. Rhaid bod ymgeiswyr wedi cyrraedd 17 oed neu'n hŷn adeg mynediad, a rhaid bod ganddynt:

(a) radd gychwynnol o’r Brifysgol;

(b) gradd gychwynnol a ddyfarnwyd gan gorff dyfarnu graddau arall sydd wedi’i gymeradwyo;

(c) cymhwyster nad ydyw’n radd, neu eu bod wedi cwblhau modiwlau ar lefel ôl-raddedig yn llwyddiannus a bod y Brifysgol wedi barnu eu bod o safon foddhaol at ddibenion eu derbyn fel myfyriwr ôl-raddedig.

2. Pa gymwysterau mynediad bynnag sydd gan ymgeisydd, rhaid i'r sefydliad ei fodloni ei hun ei fod nhw o'r safon academaidd ofynnol i gyflawni'r cynllun astudio arfaethedig.

3. Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru fel myfyriwr yn y Brifysgol ar ddechrau'r rhaglen a thalu'r ffioedd dysgu priodol.

4. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer dod yn Athro Cymwysedig, fel sy'n ofynnol gan Gyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Strwythur a Dyfarniadau’r Cynllun

5. Bydd yr ymgeiswyr yn dilyn cynllun astudio ar ffurf modiwlau, gan ddechrau ar y dyddiad cychwyn priodol a gymeradwywyd ar gyfer y cynllun.

6. Rhaid i ymgeiswyr fynychu'r holl sesiynau dysgu yn yr Ysgol Addysg.

7. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau lleoliad ymarfer proffesiynol mewn ysgol.

8. Gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gyda Statws Athro Cymwysedig ar ôl cwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

(a) 60 credyd ar Lefel 6 FfCChC a 60 credyd ar Lefel 7 FfCChC mewn cynllun astudio modiwlaidd a gymeradwywyd ac a ddarperir ar sail amser llawn.

(b) Lleoliadau ymarfer proffesiynol, gan ddangos eu bod wedi cyflawni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn unol â’r hyn sy'n ofynnol gan athrawon sydd newydd gymhwyso yn ôl Cyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Trosglwyddo Credydau

9. Ni chaniateir trosglwyddo credydau nac cydnabyddiaeth dysgu trwy brofiad blaenorol (RPEL) ac ni chânt eu hystyried yn rhan o'r broses dderbyn.

Asesu

10. Asesir modiwlau yn unigol, yn unol â'r dulliau asesu a gymeradwywyd.

11. Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau lleoliadau ymarfer proffesiynol, gan ddangos eu bod wedi cyflawni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan athrawon sydd newydd gymhwyso yn ôl Cyngor Gweithlu Addysg Cymru.

12. Rhaid i fyfyrwyr basio pob un o'r 120 credyd i fod yn gymwys ar gyfer dyfarnu TAR iddynt. 

13. Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 40% ar gyfer modiwlau ar lefel 6.

14. Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 50% ar gyfer modiwlau ar lefel 7.          

Y Cyfnod Cofrestru a’r Terfyn Amser

15. Y terfyn amser ar gyfer cwblhau'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion yn llawn-amser fydd un sesiwn academaidd.

16. Bydd cyfnod o ddeuddeg mis ychwanegol ar gael i alluogi i fyfyrwyr ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd ac i gael eu hailarholi yn y lleoliad ymarfer proffesiynol.

17. Gall y Dirprwy Is-Ganghellor ganiatáu estyniadau i'r terfynau amser hyn ar sail amgylchiadau arbennig eithriadol os cyflwynir cais wedi'i ategu gan dystiolaeth o'r amgylchiadau arbennig ac achos cryf a rhesymedig sy'n dangos y gellir yn rhesymol ddisgwyl cwblhau’r cymhwyster o fewn cyfnod ychwanegol o 12 mis.

Methu a Chywiro

18. Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw fodiwl y maent eisoes wedi sicrhau marc pasio ar ei gyfer.

19. Gellir ailarholi ymgeiswyr sy'n cael llai na 40% mewn modiwl Lefel 6 neu 50% mewn modiwl Lefel 7 yn y modiwl hwnnw ar ddau achlysur dilynol o fewn y terfyn amser cyffredinol a ragnodwyd ar gyfer y cynllun. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu hailarholi mewn modiwl yn gymwys i gael y marc pasio sylfaenol yn unig (h.y. 40% ar gyfer modiwl Lefel 6 a 50% ar gyfer modiwl Lefel 7). Pan dderbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad, gellir caniatáu cyfleoedd ychwanegol i ailsefyll am y marc llawn. Ceir rhagor o wybodaeth am y polisi ailsefyll yn y Confensiynau Arholiadau ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

20. Gall byrddau arholi ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt yn dangos eu bod wedi cyflawni’r Safonau Proffesiynol ar sail lleoliadau ymarfer proffesiynol gael eu hailarholi ar un achlysur yn unig.

21. Dim ond os oes ysgol addas a gymeradwywyd gan y Bwrdd Arholi ar gael y gellir ailarholi lleoliadau ymarfer proffesiynol.

Argymell Statws Athro Cymwysedig

22. Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hargymell am Statws Athro Cymwysedig (SAC) i Gyngor Gweithlu Addysg Cymru, bydd myfyrwyr wedi:

(a) Dilyn a phasio pob elfen o'r rhaglen TAR;

(b) Bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n ofynnol er mwyn argymell SAC;

(c) Bodloni gofynion presenoldeb y lleoliad ymarfer proffesiynol.

23. Dim ond Cyngor Gweithlu Addysg Cymru all gadarnhau cofrestriad ar gyfer Statws Athro Cymwysedig.

 

Wedi'i ddiweddaru: Gorffennaf 2021