Enillydd 2019/2020 - Lili Price-Jones

 

Roedd Lili yn gyd-enillydd o’r wobr ‘Myfyriwr Gorau sy'n Astudio Modiwlau Cyfrwng Cymraeg’. Hithau hefyd yw’r fyfyrwraig gyntaf i gwblhau’r modiwl Cyflogadwyedd (CB38020) fel modiwl 100% cyfrwng Cymraeg.

Llun o Lili Price-Jones

 

 

Ym mha sefydliad oedd eich lleoliad profiad gwaith a beth oedd eich rôl?

Treuliais i fy mhrofiad gwaith ym mhrif swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth. Cwmni annibynnol ydyw sy’n darparu cefnogaeth i fusnesau a sefydliadau ar draws Cymru. Gan fod Menter a Busnes yn dathlu 30 mlynedd o fodolaeth ar y pryd, caniatäodd fy rôl fel Cynorthwydd Marchnata a Chyfathrebu i mi brofi cyswllt gyda nifer fawr o gysylltiadau eraill ar draws Cymru. Felly, roedd yn holl bwysig i mi ddarparu cefnogaeth rhagweithiol, dibynadwy i Menter a Busnes ac i’r contractwyr allanol oedd ynghlwm â’r fenter.   

 

Pa sgiliau ddatblygoch chi yn ystod y profiad gwaith?

Datblygais nifer o sgiliau a ganiataodd i mi ddatbygu yn ddeallusol ac yn broffesiynol yn ystod fy mhrofiad gwaith. Roedd cyfathrebu yn rheolaidd gyda chyfoedion a chontractwyr wedi fy ngalluogi i fagu hyder wrth wneud penderfyniadau ac i ddatblygu fy hunan-hyder oedd, yn y pen draw, wedi arwain at yr ysgogiant oedd ei angen wrth i mi gwblhau tasgau ar amser ac o dan bwysau. Yn ogystal â hyn, datblygodd fy sgiliau gweithio fel rhan o dîm wrth i mi gyfathrebu yn rhwydd gydag aelodau o staff a thrwy gydol y profiad gwaith roedd hynny mor bwysig wrth geisio gweithio mor effeithiol â phosib tra’n cyfranu tuag at ddatbygu fy sgiliau rheoli amser. Mae datblygu’r sgiliau yma wedi galluogi i mi dyfu i fod yn fersiwn mwy aeddfed o’m hunan.

 

Sut oedd y sefydliad wedi ymateb i’ch diddordebau academaidd?

Roedd fy ngwybodaeth o farchnata yn hanfodol i fy nealltwriaeth o’r elfennau gwahanol y des i ar eu traws yn ystod cwblhau’r prosiect ‘30 mlynedd mewn busnes, Dathliad Menter a Busnes’. Roedd y strategaethau hyrwyddo a ddefnyddiwyd gan Menter a Busnes yn adlewyrchu’r gwaith astudiais mewn darlithoedd a roedd bod yn gyfarwydd â’r theori o fantais fawr i mi. Oherwydd mai sefydliad Cymreig ydyw, roedd y cyfathrebu yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Heblaw am y ffaith fy mod yn rhugl yn y Gymraeg, roedd y ffaith fy mod wedi cael seminarau yn y Gymraeg fel rhan o’m astudiaethau gradd yn rhoi dealltwriaeth dyfnach i mi o sut i gyfathrebu gan ddefnyddio termau busnes yn y Gymraeg yn ystod fy mhrofiad gwaith.

 

Pa un oedd eich hoff seminar ar y modiwl a pham?

Fy hoff seminar oedd yr un am ddadansoddi Theori Belbin o’r Rolau o fewn Tîm. Roedd fy adroddiad yn egluro sut y baswn i yn ymateb i sefyllfoaeodd amrywiol yn seiliedig ar fy hunan-ganfyddiad i yn unig. Roedd adfyfyrio ar hyn yn ddiddorol gan ei fod wedyn yn dod yn amlwg pam roeddwn wedi ymateb i sefyllfaoedd fel wnes i yn ystod y profiad gwaith.

 

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Yn y dyfodol rydw i’n cynllunio ar gyfer intigreiddio dysgu a theithio. Mae astudio Marchnata o dan ofal darlithwyr ymroddedig tra’n datblygu sgiliau gwerthfawr wedi ysgogi cyffro ynddo i ar gyfer y dyfodol ac wedi cynyddu fy hyder yn fawr. Mae wedi agor posibiliadau ar gyfer gyrfa yn y byd marchnata ac wedi fy ysgogi ymhellach.