Enillydd Gwobr Goffa Non Lavaro 2019/20

 

Matt Pakes

 

                                                            Matt Pakes, BSc Cyfrifeg a Chyllid 

 

1. Gyda pha sefydliad oedd eich profiad gwaith a beth oedd eich rôl?

 

Roeddwn yn ffodus iawn o gael lle gyda Chyfrifwyr Siartredig ac Archwilwyr Cofrestredig Thomas & Young. Gweithiais fel cyfrifydd dan hyfforddiant.

 

2. Pa sgiliau wnaethoch chi eu datblygu yn ystod eich profiad gwaith 

Dysgais nifer o sgiliau yn ystod y cyfnod a chefais gyfle i roi’r damcaniaethau yr oeddwn wedi’u dysgu mewn darlithoedd ar waith.  Dysgais sawl sgil sy’n ymwneud â gwaith archwilio yn benodol a wnaeth hynny fy helpu yn fy modiwl archwilio.

 

3. Sut wnaeth y sefydliad gydweddu gyda’ch diddordebau academaidd?

Roedd Thomas & Young yn wych gyda fi a fy niddordebau academaidd. Cefais sgwrs ar ddechrau’r cyfnod gyda chyfrifydd siartredig i bennu’r hyn yr oeddwn am ei gyflawni dros y tair wythnos ac mi wnaethon nhw gynllun i sicrhau y byddwn yn cael cyfle i wneud pob dim.

 

4. P'un oedd eich hoff seminar a pham? 

Gwnes i fwynhau’r seminarau Belbin – roeddwn wrth fy modd yn cymharu’r ffordd rwy’n meddwl gyda ffyrdd gwahanol pobl eraill yn y grŵp. Roedd hyn yn bendant yn fy ngalluogi i weld a deall beth y gallwn wella arno wrth symud ymlaen.

 

5. Beth yw’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n bwriadu gwneud cwrs Meistr mewn Buddsoddi ym Mhrifysgol Birmingham nesaf, gan bod y farchnad swyddi yn dioddef yn sgil y pandemig. Wedyn byddaf yn canolbwyntio f'ymdrechion ar ddod yn Gyfrifydd Siartredig.

 

Enillydd Gwobr Goffa Non Lavaro 2018/19

 

Joshua Griffiths

                                                  Joshua Griffiths, BSc Busnes a Rheolaeth 

 

1. Gyda pha sefydliad oedd eich profiad gwaith a beth oedd eich rôl?

Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion

 

2. Pa sgiliau wnaethoch chi eu datblygu yn ystod eich profiad gwaith?

Datblygais sgiliau rheoli prosiect wrth reoli fy mhrosiectau ymchwil fy hun. Datblygais hefyd sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu â´r cyhoedd. Dysgais sgiliau cynhyrchu’r cyfryngau ac arolygu.  

 

3. Sut wnaeth y sefydliad gydweddu gyda’ch diddordebau academaidd?

Gwnaeth y sefydliad fy helpu i ddatblygu’n broffesiynol a deall pa fath o yrfa yr hoffwn i’w chael.  Cefais gyfle hefyd i wneud defnydd ymarferol o’r wybodaeth fusnes rwyf wedi’i dysgu, i weld beth sydd yn gweithio a beth sydd ddim.

 

4. Beth oedd eich hoff seminar a pham?

Y sesiwn sgiliau CV, roedd fy CV yn well o lawer ar ôl y seminar hwnnw.

 

5. Beth yw’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n bwriadu cwblhau fy astudiaethau ôl-raddedig a gwneud ceisiadau am swyddi tebyg i'r swydd yn y Cyngor o gwmpas Ewrop.