Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl: Ffoi, Mudo, Symud ac Adnewyddu – Gorffennol, Presennol a Dyfodol

Mae'r Ganolfan yn annog ymchwil, lledaenu ac ymgysylltu ar wahanol fathau o symudedd dynol o ffoi rhag erledigaeth i deithio hamdden yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau methodolegol a disgyblaethol. Mae'n gweithredu i ehangu cydweithio o fewn y gyfadran, Prifysgol Aberystwyth, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ei nod yw ymchwilio’r gorffennol, siapio’r presennol a gwella’r dyfodol drwy ymgysylltu â phob math o gyhoedd oddi mewn a’r tu hwnt i’r byd academaidd.

'Wilsonovo nádraží, Prague' from the series „Stuke after Sebald's Austerlitz“ ©Karen Stuke

Dr Andrea Hammel - Cyfarwyddwr

Dr Andrea Hammel yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl (CASP) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arbenigo ar astudio Ffoaduriaid sy’n dianc rhag Sosialaeth Genedlaethol, yn enwedig y rhai hynny sy’n chwilio am loches yn y Deyrnas Unedig (DU) a’r Kindertransport. Mae hi’n Ddarllenydd mewn Almaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern, yn aelod o’r Ganolfan Ymchwil i Astudiaethau Alltud yr Almaen ac Awstria (Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern, Prifysgol Llundain), yn aelod o fwrdd golygyddol eu Blwyddlyfr (Brill) ac yn olygydd cyfres Exile Studies/Exilstudien (Peter Lang). Mae ganddi ddiddordeb yn y cydgysylltu rhwng ymchwil Dyniaethau, y Gwyddorau Cymdeithasol a pholisi iechyd a chymdeithasol. Mae hi hefyd yn awyddus i archwilio gweithgarwch cof ac ôl-gof, a choffadwriaethol, yn y byd gwleidyddol. Bu’n cydweithredu ag asiantaethau’r llywodraeth, cyrff anllywodraethol, canolfannau celfyddydau ac amgueddfeydd megis Swyddfa Gartref Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Good Faith, Citizens UK, Kommunale Galerie Berlin, Llyfrgell Genedlaethol yr Almaen, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, ac Amgueddfa Iddewig Rotenburg.

Mae prosiectau Andrea Hammel yn cynnwys:

2021 Arddangosfa yn y Deutsche Bibliothek, Frankfurt/Main: Kinderemigration aus Deutschland

2020-23 Prif Ymchwilydd Prosiect Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a’r Holocost, sy’n cael ei arwain gan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sef ‘Ffoaduriaid Sosialaeth Genedlaethol yng Nghymru’

2019-20 Prif Ymchwilydd ‘Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phlant oedd yn Ffoaduriaid yn y 1930au yn y DU: Hanes yn Ffurfio’r Dyfodol’ mewn cydweithrediad ag Anita Grosz a Stephanie Homer a Chanolfan Gymorth ACE, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2019 Arddangosfa Awyr Agored Ddwyieithog ‘Am Ende des Tunnels: Kindertransport aus Berlin/ At the End of the Tunnel: Kindertransport from Berlin’, cydweithrediad â William Niven ac Amy Williams o Brifysgol Nottingham Trent a Norbert Wiesneth o’r Kommunale Galerie Berlin ar gyfer arddangosfa a digwyddiadau ymgysylltu a ddangoswyd yn Berlin yn 2019. Cafwyd mwy na 7000 o ymwelwyr. Mae’r arddangosfa bellach ar daith.

2018 Trafodaeth Panel ar Bersbectif Newydd ar y Kindertransport gyda Syr Erich Reich, Barbara Winton, yr Arglwydd Alf Dubs a Dr Andrea Hammel

2017-2018  Gweithdy ar Ffoaduriaid a Chefnogaeth y Gymuned Yn dod â chyd-weithwyr ynghyd ym Mhrifysgol Aberystwyth o’r adrannau Hanes, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Daearyddiaeth, ac Ieithoedd Modern, gyda thîm Cymru’r Swyddfa Gartref a chyrff anllywodraethol fel Partneriaeth Good Faith, er mwyn trafod sut gall ymchwil academaidd weithredu yn sail i drafod polisi.

Dr Amal Abu-Bakare

Dr Amal Abu-Bakare yw cynorthwy-ydd addysgu graddedig y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl (CASP) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd hi’n ymgeisydd PhD o Ganada yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Mae gwaith ymchwil doethurol Dr Abu-Bakare yn canolbwyntio ar amlygu hil a gwrthderfysgaeth yng nghyd-destun Theori Cysylltiadau Rhyngwladol. Mae hi’n nodi ei bod yn ysgolhaig Du Moslemaidd Ffeministaidd sy’n ymddiddori mewn dadansoddiadau ôl-drefedigaethol o’r materion diogelwch cyfoes yng ngwledydd gogleddol y byd, ac yn arbennig ym maes arferion gwrthderfysgaeth/gwrtheithafiaeth trawswladol a gwleidyddiaeth fudo-ddiogelwch yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Abu-Bakare hefyd yn Gymrawd Gwadd yng Nghanolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch Prifysgol De Cymru. Ar hyn o bryd, mae hi’n ymchwilio sut mae rhesymeg amlygu hil yn strwythuro polisi mudo-ddiogelwch yr Undeb Ewropeaidd sy’n berthnasol i Bobl Symudol o Ogledd Affrica sy’n dod i Ewrop tros Fôr y Canoldir.

Mae prosiectau Amal Abu-Bakare yn cynnwys:

2019 Trefnu panel o’r enw ‘A night of beloved: a political celebration of Toni Morrison’ gyda Grŵp Ymchwil Astudiaethau Rhywedd Rhyngddisgyblaethol Prifysgol Aberystwyth ac Amgueddfa Ceredigion. Roedd y panel yn cynnwys ymgeiswyr PhD, sef Jennifer Dos Reis Dos Santos (Prifysgol Aberystwyth) ac Ekua Agha (Prifysgol Birkbeck) a Dr Lucy Taylor o Brifysgol Aberystwyth.

2018 Trefnu panel trafod ar ôl y sioe, #JeSuis, sef cynhyrchiad dawns gan Aakash Odedra, mewn cydweithrediad â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gyda Dr Ajmal Hussain o Brifysgol Manceinion.

2018 Trefnu darlleniad a darlith o’r enw ‘Back to Black: Retelling Black Radicalism for the 21st Century’ gan yr Athro Kehinde Andrews o Brifysgol Dinas Birmingham, mewn cydweithrediad â Thîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Prifysgol Aberystwyth a Rhwydwaith Gwrth-hiliaeth Gorllewin Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

2017 Trefnu darlith o’r enw ‘Race and the undeserving poor’ gan yr Athro Robbie Shilliam o Brifysgol Johns Hopkins ym Mhrifysgol Aberystwyth

 

 

Anita Grosz

Mae Anita H. Grosz yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr Adran Ieithoedd Modern ac yn cynnal astudiaeth gymharol o Ail Genhedlaeth y Kindertransport yn y DU ac UDA. A hithau’n Ail Genhedlaeth un o blant y Kindertransport ac yn ymwneud â Chymdeithas Kindertransport (UDA) ers blynyddoedd lawer, mae hi’n arbenigo ar y Kindertransport ac ail genhedlaeth plant y Kindertransport. Roedd cyfraniad Anita tuag at greu Cwilt Cof y Kindertransport (sydd bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Goffa’r Holocost, Michigan) yn allweddol, ac roedd hefyd yn un o ddatblygwyr a threfnwyr Prosiect Hanes Llafar y Gymdeithas Kindertransport y casglwyd mwy na 100 o hanesion llafar ar fideo ar ei gyfer. Mae Anita hefyd wedi trefnu llawer o gynadleddau sy’n ymwneud â Kindertransport. Mae gan Anita radd Meistr mewn Celfyddyd Gain mewn Ffotograffiaeth ac wedi arddangos ei gwaith ledled y DU yn y gorffennol. Mae hi’n canolbwyntio ar bobl sydd wedi eu dadleoli ac ar y cyrion, yn ogystal â rhwystrau. Mae gan Anita Juris Doctor ac mae’n gymwys i ymarfer y gyfraith yn yr Unol Daleithiau, ac yn arbenigo mewn materion eiddo deallusol. Mae gan Anita ddiddordeb mewn archwilio amryfal weddau ac agweddau ar y cof, yn cynnwys yr ôl-gof, a datblygu gwaith i effeithio ar bolisïau cymdeithasol ar gyfer ffoaduriaid.

Mae prosiectau Anita Grosz yn cynnwys:

2019-20   Adroddiad Ymchwil: ‘Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phlant oedd yn Ffoaduriaid yn y 1930au yn y DU: Hanes yn Ffurfio’r Dyfodol’ mewn cydweithrediad ag Andrea Hammel a Stephanie Homer a Chanolfan Gymorth ACE, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Adroddiad

2019   Cyflwyniad yn Symposiwm KT80 2019: Approaches to Kindertransport Research and Historiography: “An Artistic Response to the Impact of Transgenerational Trauma from Forced Dislocation”, yn cynnwys fideo Anita, Passage to Where.

Dr Gábor Gelléri

Mae Dr Gábor Gelléri yn Ddarlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ef yw awdur Philosophies du voyage: visiter l'Angleterre aux 17e-18e siècles (Sefydliad Voltaire, 2016) a Lessons of Travel: From Grand Tour to School Trips (Boydell a Brewer, 2020). Mae’r gyfrol Travel and Conflict in the Early Modern World, a olygodd ar y cyd â Dr Rachel Willie (Lerpwl John Moores) ar fin cael ei chyhoeddi gan Routledge. Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd i’r gronfa ddata ar gelfyddydau teithio’r cyfnod modern cynnar  (artoftravel.nuigalway.ie). 

Cyhoeddodd hefyd nifer o erthyglau a phenodau mewn llyfrau yn ei faes arbenigol, diwylliannau teithio yn y byd Ffrangeg ei iaith. Cyhoeddir ei gyhoeddiad cyntaf ar ei brosiect ymchwil cyfredol ar dwristiaeth drefedigaethol yn y gyfrol olygedig, Voyage et scandale (Garnier, 2022).

Rhys Dafydd Jones

Mae Rhys Dafydd Jones yn ddaearyddwr cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu mudo ac amrywiaeth mewn ardaloedd gwledig; mudo ac amlddiwyllianedd mewn cenhedloedd lleiafrifol; a mudo ac aros ‘ffordd o fyw’. Arweiniodd becyn gwaith ar ‘leiafrifoedd ac ymfudwyr mewn cymdeithas sifil’, a archwiliodd gweithgareddau dinasyddion UE mewn cymdeithas sifil yng Nghymru. Er nad oedd yn ganolbwynt i’r ymchwil, pwysleisiodd y gwaith maes a gymerodd lle yn 2016-2017 nifer o bryderon gan ddinasyddion yr UE am eu dyfodol yng Nghymru. Pwysleisiodd yr ymchwil sefyllfa fregus cymdeithas sifil wedi ei arwain gan ymfudwyr mewn cyfnod o lymder, yn aml yn bendant ar ymdrechion menywod sy’n ymfudwyr, eu cyfranogiad yn aml yn arwain at heriau i’w iechyd a’u lles eu hunain. Mae Rhys hefyd ynghlwm gyda’r rhaglen ymchwil Horizon2020, IMAJINE, sy’n ystyried pam bod pobl yn symud i – ac yn parhau i fyw yng – Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Prosiectau cyfredol

Integrative Mechanisms for Addressing Spatial Justice and Territorial Inequalities in Europe (IMAJINE, Horizon2020) – WP5: ‘Mudo, anhafaleddau tiriogaethol, a chyfiawnder gofodol’. Dan arweiniad yr Athro Bettina Bock a Dr Tialda Haartsen (Groningen), tynna’r pecyn gwaith ar astudiaethau achos o Roeg, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Pwyl, a Chymru er mwyn deall pam bod pobl yn symud i, ac yn parhau i fyw mewn ardaloedd wedi eu hymylu’n economaidd. Gan dynnu ar astudiaeth achos o Orllewin Cymru a’r Cymoedd, adnabdyddia Dr Bryonny Goodwin-Hawkins synnwyr cryf o ‘aros ffordd o fyw’, gan fod canfyddiadau o lai o gyfleoedd gyrfa’n cael eu trwcio am amgylchedd a chyflymder bywyd mwy hamddenol. Mae anhafaleddau yn hwyluso’r aros ffordd o fyw hwn, gan fod gwahaniaethau mewn prisiau tai yn caniatáu perfformio ffordd o fyw dosbarth ganol a fyddai’n anodd mewn ardaloedd eraill.

WISERD Civil Stratification and Repair (ESRC):

WP 1.1 – ‘Ffiniau, meacanweithiau ffiniau, a mudo’. Dan arweiniad Dr Robin Mann (Bangor), ystyria’r pecyn gwaith hwn ffactorau sy’n siapio ymdriniaeth gymdeithas sifil gyda mudo a ffyrdd o greu ffiniau drwy astudiaethau achos cymharol ryngwladol ac ethnograffeg ar sail lleoedd, gan archwilio sut mae mecanweithiau ffiniau cymdeithasol yn cael eu mynegi gan grwpiau cymdeithas sifil.

WP 2.3 – ‘Poblyddiaeth, gwrthdaro, a pholareiddio gwleidyddol’. Dan arweiniad yr Athro Mike Woods (Aberystwyth) ystyria’r pecyn gwaith y cysylltiadau rhwng newidiadau mewn ymddygiad gwleidyddol a newidiadau mewn strwythurau cyflogi, a sut mae gwleidyddiaeth a pholiticau poblyddol yn cael eu meithrin tu fewn i leoedd, a sut gall gymdeithas sifil ymdrin ag hyn.

Mobilising Voluntary Activity (ESRC) – Dan arweiniad yr Athro Irene Hardill (Northumbria), ystyria’r prosiect ymatebion cymdeithas sifil i Covid-19 ar draws gwledydd y DU, a pha arferion da y gellir eu cymryd o’r gwahanol genhedloedd

Bronwen Lowery

Mae Bronwen Lowery yn fyfyriwr PhD yn yr adran Ieithoedd Modern. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2020 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg ac Almaeneg.  

Mae prosiectau Bronwen Lowery yn cynnwys: 

Mae gwaith ymchwil Bronwen yn archwilio hanesion dadleoli a gyflwynwyd gan bobl yn Ffrainc a chanddynt gefndir Algeraidd a’r modd y gall yr hanesion hyn rymuso eu profiad fel unigolion a chyda’i gilydd. Ceir sawl gwahanol ffurf i’r hanesion dan sylw, gan gynnwys comedi stand-yp, cerddoriaeth rap, a gwaith celf. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn datgelu’r ffyrdd y gall adrodd hanes dadleoli arwain at rymuso ein hunain a chael ein derbyn yn gymdeithasol. Bydd yn canolbwyntio’n gryf ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol ac yn ystyried effeithiolrwydd pob cyfrwng fel dull mynegi.  

Yr Athro Peter Merriman

Mae’r Athro Peter Merriman yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae e’n ymchwilydd blaenllaw ym maes amlddisgyblaethol astudiaethau symudedd, ac wedi ysgrifennu’n eang ar ddaearyddiaethau symudedd, agweddau damcaniaethol a methodolegol at symudedd, hanes gyrru ym Mhrydain, a symudedd milwrol. Ef yw awdur Mobility, Space and Culture (Routledge, 2012) a Driving Spaces: A Cultural-Historical Geography of England’s M1 Motorway (Wiley-Blackwell, 2007), ac mae’n olygydd pum llyfr, yn cynnwys Empire and Mobility in the Long Nineteenth-Century (MUP, 2020), Mobility and the Humanities (Routledge, 2018), The Routledge Handbook of Mobilities (Routledge, 2014) a Geographies of Mobilities (Routledge, 2011). Mae Peter hefyd yn aelod o fyrddau golygyddol y cyfnodolion Mobilities, Applied Mobilities, Transfers a Mobility Humanities, a chyfres lyfrau Springer Palgrave Macmillan, ‘Mobilities, Literature and Culture’.

Mae prosiectau Peter Merriman yn cynnwys:

2019-2023 Porthladdoedd Ddoe a Heddiw, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru:  

Mae hwn yn brosiect €3.2 miliwn dan arweiniad Coleg Prifysgol Corc, a’i bartneriaid Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Chyngor Sir Wexford. Fi sy’n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gydweithio â’r Athro Rhys Jones, cydgysylltydd y prosiect a chynorthwyydd ymchwil ôl-raddedig Dr Rita Singer, a’r gweinyddwr cyllid Ken Evans. Mae’r prosiect yn archwilio hanes a threftadaeth ddiwylliannol pum porthladd yn Iwerddon a Chymru – Dulyn, Abergwaun, Caergybi, Doc Penfro, a Rosslare – gan weithio gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol i godi ymwybyddiaeth twristiaid am hanes y lleoedd hyn. Mae elfen Aberystwyth o’r prosiect yn cydweithio â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol i ymchwilio i hanes y pum porthladd, ac i gynhyrchu cyfres o ffilmiau sy’n hyrwyddo twristiaeth treftadaeth yng nghymunedau’r porthladdoedd.   

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Mae’r Athro Professor Ryszard Piotrowicz, sy’n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn dysgu yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, ac yn arbenigo ar gyfraith mudo. Am ddau dymor, bu’n aelod o GRETA, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl (2008-15). Y mae’n Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol De Awstralia ac yn Uwch Gydymaith Ymchwil gyda Menter Cyfraith Ffoaduriaid, Prifysgol Llundain. Mae e’n Gymrawd Alexander-von-Humboldt, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu’n ymgynghorydd ar fasnachu pobl ar gyfer Cyngor Ewrop, Sefydliad Rhyngwladol Mudo, Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, yr UE a’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Datblygiad Polisi Mudo, yn ogystal â llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol, a bu’n cynnal rhaglenni hyfforddiant ar fasnachu pobl mewn nifer o wledydd. Cyhoeddodd yn helaeth ar gyfraith masnachu pobl. Mae’n aelod o Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n gweithio ar nifer o brosiectau sy’n ymwneud â materion cyfreithiol masnachu pobl.

Dr Elena Anna Spagnuolo

Mae Dr Elena Anna Spagnuolo yn Hyfforddwr Eidaleg yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Eidaleg o Brifysgol Manceinion. Roedd ei thraethawd PhD Hybrid Voices in Self-translation. Using Language to Negotiate Identity in (Trans)migratory Contexts yn archwilio’r ffenomen o hunan-gyfieithu yng nghyd-destun symudedd, gan geisio ei ddeall fel ymarfer, sy’n bodoli ar y cyd â phroses o ailddiffinio hunaniaeth. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng (hunan)gyfieithu a mudo, yn ogystal â swyddogaeth y celfyddydau perfformio mewn cyd-destunau (traws)fudol.

Mae prosiectau Elena Anna Spagnuolo yn cynnwys:

Ariannwyd fy mhrosiect ymchwil cyfredol, ‘Rewriting the transnational dimension of Italian migration in the time of Covid-19’, gan y Ganolfan Symudedd Pobl, ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n archwilio’r modd y mae Covid-19 wedi ailysgrifennu arwyddocâd trawswladol mudo Eidalwyr yng Nghymru, gan ailffurfio’r syniad o gartref, perthyn, cynhwysiant a chyfranogiad. Rwy’n canolbwyntio’n benodol ar y berthynas â’r wlad wreiddiol, gyda’r nod o ganfod a yw’r pandemig wedi cryfhau’r teimladau o hiraeth a’r dyhead i ‘ddychwelyd adref’. I’r perwyl hwn, rwy’n ystyried pedwar prif faes: cysylltiadau cymdeithasol, arferion diwylliannol, patrymau teithio a ffynonellau gwybodaeth. Trwy drafod y meysydd hyn, rwy’n ceisio archwilio’r ymarferion a’r strategaethau y mae mudwyr o’r Eidal yng Nghymru wedi ymgysylltu â nhw, er mwyn cadw cysylltiad â’r Eidal, er gwaethaf y cyfyngiadau a’r heriau oherwydd Covid.

Lucy Trotter

Mae Lucy Trotter yn anthropolegydd ac yn ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Astudiodd Anthropoleg Gymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain (London School of Economics), gan ennill gradd Dosbarth Cyntaf yn 2014. Dyfarnwyd iddi wobr Jean La Fontaine 2013/14 am Gyrhaeddiad Israddedig Eithriadol a gwobr Peter Loizos am Ymchwil Ethnograffig. Yn 2014, dyfarnwyd iddi ysgoloriaeth 1+3 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i astudio ar gyfer MSc mewn Dulliau Ymchwil a PhD mewn Anthropoleg Gymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain, cyn iddi ymuno â’r Ysgol Addysg yn 2019. Mae ei gwaith yn rhyngddisgyblaethol a’i diddordebau ymchwil yn eang, ond mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn goddrychedd, perfformiad, cerddoriaeth, dosbarth, grym, a chynhwysiant. Mae ei phrosiect ymchwil diweddaraf yn ymchwiliad ethnograffig i brofiadau myfyrwyr sydd yn rhieni sengl mewn Addysg Uwch yn y DU. Mae ei thraethawd PhD, a gyflwynodd ym Medi 2020, yn ymwneud â’r berthynas rhwng cerddoriaeth, Cymreictod, a pherfformiad mewn ysgol gerdd ddwyieithog (Sbaeneg a Chymraeg) ym mhentref y Gaiman yn Nyffryn Chubut ym Mhatagonia. Cwblhaodd hefyd brosiectau ymchwil ethnograffig ar y system addysg ddwyieithog ym Mhatagonia a chyda sgrialwyr yn Llundain. 

Mae prosiectau Lucy Trotter yn cynnwys:

2020 (parhaus) Brwydr y jygl: Ethnograffeg profiadau rhieni sengl sy’n astudio yn y Brifysgol yn y DU

2015 – 2020 (traethawd PhD, LSE) Performing Welshness in the Chubut Province of Patagonia, Argentina

2015 Dadlau gyda chaneuon: agwedd anthropolegol at gerddoriaeth, ideoleg, a goddrychedd yn ôl y rhywiau.  

2013 Rôl addysg wrth saernïo ac atgyfnerthu ‘cenedlaetholdeb cyffredin’ yn y Wladfa

2013 Cerdded gyda sgrialwyr: brwydr Southbank ar gyfer cydraddoliaeth, synnwyr o’r dosbarth gweithiol, a beirniadaeth gyfalafol.  

Digwyddiadau

 Cyfres Siaradwyr Gwadd

22 Hydref 2020 5-6yh (DU) 

Mimi Sheller (Prifysgol Drexel, Philadelphia):

'Mobility Justice and the Lessons of Pandemic (Im)mobilities'

Mae Mimi Sheller yn Athro mewn Cymdeithaseg yn yr Adran Diwylliant a Chyfathrebu ac yn Gyfarwyddwr sefydlol y Ganolfan Ymchwil a Pholisi i Symudedd ym Mhrifysgol Drexel.

 
5 Tachwedd 2020 5-6yh (DU)

Loredana Polezzi (Stony Brook, Efrog Newydd) 

‘From Erasure to Co-Presence: Migration, Translation and the Spaces of Hospitality’

Loredana Polezzi sy’n dal Cadair Alfonse M. D’Amato mewn Astudiaethau Eidaleg-Americanaidd ac Eidaleg yn yr Adran Ieithoedd, Llenyddiaeth a Diwylliannau Ewropeaidd  ym Mhrifysgol Stony Brook (UDA). Mae ei diddordebau ymchwil yn cyfuno astudiaethau cyfieithu ac astudiaethau Eidaleg trawswladol. Mae hi wedi ysgrifennu yn helaeth am ysgrifennu taith Eidaleg, llenyddiaeth drefedigaethol ac ôl-drefedigaethol, trawsieithyddiaeth ac ymfudiad.

 
9 Rhagfyr 2020, 5-6yh (DU)

Tim Hannigan (Awdur Taith Llawrydd)

In the Contact Zone: travel writing and ethics at the intersection of theory and practice

 

Mae ymchwil Tim Hannigan, a oedd yn awdur taith ond sydd erbyn hyn yn ysgolhaig ym maes ysgrifennu taith, yn canolbwyntio ar oblygiadau beirniadaeth ysgolheigaidd ar ymarfer y genre. Mae’n awdur profiadol ar deithlyfrau a newyddiaduraeth taith, ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hanes naratif ar thema teithio. Bydd ei gyfrol nesaf, The Travel Writing Tribe: Journeys in Search of a Genre, yn cael ei chyhoeddi yn 2021.

13 Ionawr 2021 13:00

Yr Athro Christian Kaunert, Cyfarwyddwr Heddlua a Diogelwch, Prifysgol De Cymru

 ‘Far-right terror, the securitisation of refugees and the European Union (EU)’

21 Ionawr 2021 13:00 

Dr Peter Rees, International Politics

 'The Nomos of Citizenship: Migrant rights, law and the possibility of justice'

3 Mawrth 2021 13:00

Yr Athro Charles Forsdick, University of Liverpool

'Microtravel: deceleration, proximity, verticality'

 Papurau Amser Cinio

29 Hydref 2020 13:00

Valerie Todd  (Seicoleg)

Friendship Feast: Intervention using food as a catalyst for social integration in women seeking refuge or asylum in the UK  

19 Tachwedd 2020 13:00

Arddun Arwyn  (Hanes)

Hounds, Cattle and Ponies: The Symbolic Function of Animals in the Narratives of Displaced Germans 1944-48  

2 Rhagfyr 2020 13:00

Gabor Gelleri (Ieithoedd Modern)

Mobility and its discontents: dreams and realities of a colonial propaganda travel mission  

18 Chwefror 2021 13:00

Elena Spagnuolo (Ieithoedd Modern)

Rewriting the transnational dimension of Italian migration in the time of Covid-19   

19 Mawrth 2021 13:00

Bryonny Goodwin-Hawkins a Rhys Dafydd Jones (ADGD) 

‘Affordification’: Conceptualising migration and spatial inequalities beyond the gentrification debate 

16 Ebrill 2021 13:00

Alexandra Bulat 

I'w gadarnhau 
18 Mai 2021 13:00

Anita Grosz a Stephanie Holmer (Ieithoedd Modern)

Adverse Childhood Experiences and the Kindertransport: how history can inform refugee support today 

Symposiwm Ymchwilwyr Dechrau Gyrfa ac Uwchraddedigion

Galw am Bapurau 

Symposiwm Ymchwilwyr Dechrau Gyrfa ac Uwchraddedigion

Cynullwyr: Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth

26 Mai 2021

Mae'n bleser gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl gyhoeddi symposiwm undydd i ymchwilwyr dechrau gyrfa ac uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Ganolfan yn lle i ymchwilio, lledaenu ac ennyn diddordeb mewn gwahanol ffurfiau ar symudedd pobl, o ddianc rhag erledigaeth i deithio hamdden, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau methodolegol a disgyblaethol. Agwedd ganolog o ethos y ganolfan ymchwil yw pwyslais ar ymchwil ryngddisgyblaethol, yn cynnwys aelodau o adrannau'r gyfraith, troseddeg, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, ieithoedd modern, hanes, astudiaethau llenyddol a mwy.

Nod y symposiwm yw cynnig cyfle i ymchwilwyr ym maes Mudo, Symud neu Adnewyddu i gyflwyno a rhannu eu syniadau ymchwil mewn amgylchedd cefnogol. Ar yr adeg hon, rydyn ni'n teimlo ei bod yn arbennig o bwysig darparu lle ar gyfer cyfnewid a chefnogaeth academaidd o ystyried effaith COVID-19 ar amgylchedd ymchwil academaidd. Yn unol ag ymrwymiad y ganolfan ymchwil i'r rhyngddisgyblaethol, rydym yn gwahodd crynodebau o gyflwyniadau gan ymchwilwyr dechrau gyrfa ac uwchraddedigion sy'n ymchwilio mewn ehangder o ddisgyblaethau yn gorgyffwrdd â'r themâu Mudo, Symud neu Adnewyddu.

Crynodeb o'r Cyflwyniad

Rhaid ei gyflwyno erbyn Chwefror 26, 2021. Ni ddylai crynodebau fod yn hwy na 250 gair a gellir eu cyflwyno trwy e-bost i Peter Rees a Catrin Wyn-Edwards.

Os bydd eich cyflwyniad yn cael ei dderbyn cewch wybod erbyn diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth. Os caiff eich cyflwyniad ei dderbyn gofynnir ichi anfon papur (dim mwy na 8000 gair) at gadeirydd eich sesiwn bythefnos ymlaen llaw, ac ar ddechrau'r sesiwn i roi cyflwyniad byr ar gynnwys y papur. Gall y papur a gyflwynir fod ar ffurf drafft.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu â ni.

Adroddiadau