Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol

 

Yn rhan o Raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost (SWWHPP) dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM), bydd prosiect Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i Lywio'r Dyfodol yn archwilio straeon cudd y ffoaduriaid hynny a ddihangodd o Ganol Ewrop yn sgil unbennaeth Sosialaeth Genedlaethol a chanfod noddfa yng Nghymru yn y 1930au a'r 1940au.

Dan arweiniad Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), bydd y prosiect yn cynnwys sawl allbwn wedi'u curadu ar cyd, megis ffilm ac arddangosfa o ffotograffau, a fydd yn cael eu harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn hydref 2022. Bydd hefyd yn cyfrannu at Osodwaith Digidol a fydd yn cael ei leoli'n barhaol yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain.

Mae ymfudo dan orfod yn un o heriau mwyaf yr 21ain ganrif a nod y prosiect hwn yw ein hannog i ddysgu gwersi'r gorffennol er mwyn llywio'r dyfodol. Bydd Andrea Hammel a'r gwneuthurwr ffilmiau Amy Daniel yn gweithio gyda gwahanol grwpiau, megis ffoaduriaid heddiw a'r rhai sy'n cynorthwyo ffoaduriaid heddiw, i ddatblygu ymateb creadigol sy'n cysylltu straeon gwahanol ffoaduriaid yng Nghymru. Bydd y prosiect yn ymdrin â chwestiynau ynghylch amrywiaeth o fewn y gymdeithas yng Nghymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, a heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd.

Dangosir ffilm y prosiect mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru ac ar-lein, a cheir gweithdai i gyd-fynd â'r arddangosfa. Ynghyd â'r arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn hydref 2022 ceir cyfres o ddigwyddiadau  a gweithdai a fydd yn cael eu hyrwyddo yn nes at yr adeg. Mae Gwasg Honno wedi comisiynu llyfr ar Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol a fydd yn cael ei gyhoeddi fis Hydref 2022.

Os gwyddoch am stori y gallem ei chynnwys am ffoadur yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol, neu os ydych yn rhan o grŵp cymunedol a hoffai fod yn rhan o'r prosiect, rhowch wybod inni. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar anh17@aber.ac.uk