Gwarchod Data

Ym mis Mai 2018, newidiodd y gyfraith diogelu data. Disodlwyd y Deddf Diogelu Data 1998 gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae gan hyn oblygiadau sylweddol o ran y ffordd y caiff data personol ei gasglu a'i brosesu gan y Brifysgol.

Ymhlith y newidiadau pwysig y mae: mwy o hawliau gan destunau'r data; rheolau newydd yn ymwneud â chydsynio; gofyniad bod hysbysiadau yn fwy manwl a chlir; hysbysu gorfodol am unrhyw achosion o dorri rheolau data. Cyflwynir egwyddor newydd hefyd sy'n ymwneud ag 'atebolrwydd' a fydd yn effeithio ar gadw cofnodion a gwneud penderfyniadau, gan bwysleisio syniad 'dylunio preifatrwydd' - sef ymgorffori egwyddorion preifatrwydd mewn prosiectau o'r cychwyn cyntaf a chofnodi dulliau gweithio.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth ac adnoddau ynghylch GDPR. Isod mae disgrifiad o ddogfennaeth diogelu data allweddol y Brifysgol sydd wedi'i ddiwygio i ystyried y newidiadau hyn.

Mae Polisi Gwarchod Data Prifysgol Aberystwyth yn egluro’n fras sut mae’r sefydliad yn rheoli agweddau pwysig ar ddiogelu data ac yn amlinellu cyfrifoldebau’r staff a’r myfyrwyr. Mae Datganiad Gwarchod Data ar gyfer Myfyrwyr a Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Staff hefyd yn rhoi mwy o fanylion am brosesu data personol

Ymdrinnir â gwarchod data yn yr un modd ym mholisïau canlynol y Brifysgol: Polisi Gwarchod GwybodaethPolisi Gwarchod Gwybodaeth – Cyfrifoldebau’r StaffPolisi E-bost a’r Cod Ymarfer Teledu Cylch Cyfyng.

Mae'n bwysig i fod yn ymwybodol bod y sefydliad yn pasio data personol ymlaen i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gellir cael mwy o wybodaeth am y broses hon yma :

https://www.hesa.ac.uk/about/regulation/data-protection/notices

Mae dogfennau cynorthwyol eraill yn rhoi cyfarwyddyd manwl i staff sy’n ymdrin â data personol o ddydd i ddydd:

Diogelu data personol y tu allan i'r swyddfa
Darparu Geirdaon 

Rydym hefyd yn prosesu data i gefnogi Mesurau Dadansoddi. Ceir manylion am hyn yma: Mesurau Dadansoddi Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth (https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/)

Ceir rhagor o wybodaeth am gael mynediad at ddata personol ynghyd â gweithdrefnau Gwarchod Data eraill y Brifysgol yma:

Cofrestru Rheolydd Data
Ceisiadau am Fynediad i Bwnc Data
Ymholidau gan yr Heddlu
Torri rheolau data personol
Data Ymchwil a Data sy'n ymwneud ag unigolion nad ydynt yn aelodau o'r Brifysgol
Staff Gwirfoddol, Tymor Byr a Chontractwyr
Glanhau Disgiau Caled Cyfrifaduron
Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd
Hawliau gwrthychau data
Hysbysiadau Preifatrwydd
Defnyddio gwasanaethau allanol