Penodi Canghellor

Bydd cyfnod Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd fel Canghellor Prifysgol Aberystwyth yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024.

Bydd y broses i benodi Canghellor nesaf y Brifysgol yn awr yn cychwyn.

Ceisiadau

Gwahoddir ceisiadau yn awr i benodi Canghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth, i gychwyn yn y swydd ar 01 Ionawr 2025. Pum mlynedd fydd y tymor cychwynnol yn y swydd, gyda’r posibilrwydd o ailbenodi am ail gyfnod o hyd at bum mlynedd.

Dylai’r ceisiadau nodi profiad yr unigolyn a pham y mae’n addas i’w benodi neu ei phenodi, a chyflwyno’r rhain i Ysgrifennydd y Brifysgol, ynghyd â CV, erbyn 12:00, ddydd Gwener 27 Medi 2024.

Ceir mwy o wybodaeth ar swydd anrhydeddus y Canghellor yn y ddogfen ganlynol:

Disgrifiad rôl - Canghellor