Aber yn Gynhwysol

Llun awyr o'r Hen Coleg, Prifysgol Aberystwyth.

Yma yn Aberystwyth rydym yn falch iawn o’n cymuned agos-atoch-chi, yn y Brifysgol ac yn y dref. Er ei fod yn lle cymharol fach, mae’r gymuned yn un eang. Mae ein myfyrwyr yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl, diwylliannau a chredoau. 

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ymdrin â chydraddoldeb mewn ffordd ragweithiol a chynhwysol sy’n cefnogi ac sy’n annog pob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n hyrwyddo diwylliant cynhwysol ac sy’n gwerthfawrogi amrywioldeb. Mae Cynllun Strategol y Brifysgol ar Gydraddoldeb 2020-2024 yn sail i’r ymrwymiad hwn. Mae’r Cynllun hwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gynwysoldeb:

"Os ydym am greu amgylchfyd cynhwysol, credwn fod yn rhaid inni sicrhau bod pawb, ni waeth pwy yr ydyn nhw, yn cael yr un cyfleoedd. Rhaid inni hefyd sicrhau bod rhwystrau diwylliannol, megis gwahaniaethu a diffyg goddefgarwch, yn cael eu codi."

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor. 

Dyma rai enghreifftiau o fentrau cydraddoldeb yr ydym wedi’u gweithredu:

  • prosiect y Blychau Coch - sy’n darparu nwyddau mislif yn rhad ac am ddim ledled y campws i’r staff ac i’r myfyrwyr
  • cyfres gynadleddau ‘All Our Trans Tomorrows’ -prosiect a gyrhaeddodd restr fer tair gwobr ac a gafodd sylw yn y wasg genedlaethol
  • saith mlynedd o Ddigwyddiadau Celfyddydol Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT) Aberration mewn cydweithrediad â Chanolfan
  • y Celfyddydau a Chyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys taith a ymwelodd â Chaerdydd, Caernarfon, Llandudno a’r Eisteddfod Genedlaethol
  • prosiect ‘Diversifying Portraiture’ ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched - gyda’r amcan yn wreiddiol y byddai hwn yn brosiect dros dro ond sydd bellach wedi dod o hyd i gartref parhaol yn y Ganolfan Ddelweddu
  • fforymau megis ‘Is Our University Too White?’ - o ganlyniad i’r fforwm hwn, gallai myfyrwyr a’r staff gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau ac o gynllunio strategaethau ar lefel weithredol
  • gweithio ar draws adrannau i greu systemau sy’n sicrhau bod pobl yn defnyddio’r ‘enw a roddir’ ar staff a myfyrwyr bob tro - er mwyn diogelu’r staff a’r myfyrwyr rhag cael eu trin yn wahaniaethol 
  • creu’r rhwydwaith Menywod ym maes Ymchwil, sydd bellach yn rhan annatod o’r strategaeth weithredol gweithredu’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Cydraddoldeb
  • rhwydweithiau ar gyfer staff o gefndir du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd ein hamgylchfyd cynhwysol a diogel yn rhoi’r cyfle ichi roi cynnig ar bethau gwahanol, gwneud ffrindiau newydd ond, yn bwysicach oll, byddwch yn rhydd i fod yn chi eich hun.