Hwyl Fawr cyn Haf

Ydych chi wedi bod yn brysur gyda'ch astudiaethau a'ch arholiadau a heb feddwl eto am eich cynlluniau gyrfa? Neu a yw eich cynllun blaenorol wedi newid neu wedi arafu?

Ydych chi'n barod i ddarganfod pa yrfaoedd graddedig sydd ar gael a sut y gallwch chi gael mynediad atynt? Efallai mai ein Hwyl Fawr cyn Haf yw'r union beth sydd ei angen arnoch chi!

Fe'i cynlluniwyd i gefnogi pob myfyriwr a graddedigion diweddar, ond yn enwedig y rhai yn eu blwyddyn olaf ac yn graddio yn fuan.

Pryd? Dydd Llun 3 Mehefin – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024

Ble? Campws Penglais

Ar gael bob dydd

Apwyntiadau Arweiniad Gyrfaoedd 1:1

Trefnwch i weld un o'n Ymgynghorwyr Gyrfaoedd am drafodaeth fanwl ar eich syniadau a'ch cynlluniau neu, os nad oes gennych unrhyw beth, i gychwyn arni. I archebu, ewch i www.aber.ac.uk/gyrfaoeddaber, neu e-bostiwch gyrfaoedd@aber.ac.uk, neu ffoniwch 01970 622378.

Gofynnwch i ni am unrhyw beth (am Yrfaoedd!)

A oes gennych ymholiad sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd? Angen gwiriad CV? Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Bydd ein tîm wrth law bob bore yn Llyfrgell Hugh Owen, 9.30am-12.00pm, i helpu – galwch i mewn, dim angen apwyntiad.

Digwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu

Date Time Event / Link to more information Location
Dydd Llun 3 Mehefin 11yb-12yp Brecinio Ffarwel yr Haf ar gyfer Myfyrwyr CBY Llandinam
2yp-3yp Gweithdy: Sut i baratoi ar gyfer Cyfweliadau 0.06, Canolfan Ddelweddu
Dydd Mawrth 4 Mehefin 10yb-5yp Wythnos Cychwyn yr Haf Canolfan Ddelweddu
11yb-2.30yp Ffair Gyfleoedd Llyfrgell Hugh Owen
2yp-4yp Popeth am Leoliadau (galw heibio) Llyfrgell Hugh Owen
3yp-4yp Cyngor Grŵp – Datgloi eich potensial  Ystafell grŵp 1, Llyfrgell Hugh Owen
Dydd Mercher 5 Mehefin 10yb-5yp Wythnos Cychwyn yr Haf Canolfan Ddelweddu
1yp-2yp Cylch CV (cyfrwng Saesneg) Ystafell grŵp 1, Llyfrgell Hugh Owen
2yp-4yp Lolfa LinkedIn: Gwellwch eich proffil! Ystafell grŵp 1, Llyfrgell Hugh Owen
Dydd Iau 6 Mehefin 10yb-5yp Wythnos Cychwyn yr Haf Canolfan Ddelweddu
2yp-3yp Cyngor Grŵp – Datgloi eich potensial! Ystafell grŵp 1, Llyfrgell Hugh Owen
Dydd Gwener 7 Mehefin 11yb-12yp Cylch CV (cyfrwng Cymraeg) Ystafell grŵp 1, Llyfrgell Hugh Owen
11yb-12yp Gweithdy: Dod o hyd i swydd yn y DU (Myfyrwyr Rhyngwladol) Ar-lein (MS Teams)

Ddim yn mynd i fod yn Aber?

Nid yw hynny'n broblem - defnyddiwch ein porth gyrfaoeddABER i gael mynediad llawn i'n apwyntiadau ar-lein, ein rhaglen ddigwyddiadau a'n bwrdd swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd ein staff hefyd ar gael ym mhob seremoni raddio i ateb unrhyw ymholiadau. Neu gallwch anfon e-bost neu ffonio ni ar unrhyw adeg, cyhyd ar ôl graddio y mae arnoch ein hangen ni!