Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn gartref i gymuned academaidd Gymraeg fywiog ac amrywiol, ac rydym yn awyddus iawn i’ch croesawu atom i fanteisio ar y bywyd academaidd hwnnw yn ogystal â’r cyfleoedd euraidd i fod yn rhan o fywyd cymdeithasol byrlymus y Brifysgol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Graddau a Modiwlau
Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg, ac mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith yr ehangaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn yn Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio yn Saesneg yn bennaf. Ceir hefyd warant o Diwtor Personol Cymraeg. Ceir hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau trawsieithu, sef y broses o ddefnyddio gwybodaeth a geir mewn un iaith mewn iaith arall wrth ysgrifennu nodiadau ac asesiadau. Mae hyn yn gyfle gwych i ddeall a dehongli deunydd darllen yn well ac i ddatblygu geirfa bwnc-benodol a fydd o fantais ichi yn y gweithle.
Ysgoloriaethau
Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg. Hefyd, bydd myfyrwyr sy’n astudio dros bum credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg yn derbyn Ysgoloriaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.
- Ysgoloriaethau Prif Ysgoloriaeth - £1,000 y flwyddyn
Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg - sef o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn. - Ysgoloriaethau Cymhelliant - £500 y flwyddyn
Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 120 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn pwnc cymwys, o leiaf 40 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.
Llety a byw yn Gymraeg
Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis y Geltaidd (prif gymdeithas chwaraeon Gymraeg Prifysgol Aberystwyth), Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio. Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol a ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.
Cyflogadwyedd
Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar yn sgil fanteisiol iawn yn y gweithle, ac mae astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn datblygu’r sgiliau hyn ac yn rhoi mantais ichi yn y farchnad swyddi, nid yn unig dros ymgeiswyr di-Gymraeg ond hefyd ymgeiswyr sy’n medru’r Gymraeg ond sydd heb ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefel raddedig. Hefyd, mae cyflog graddedigion sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Addewidion Aber
Addewidion Aber yw ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r addewidion yn nodi’r hyn sy’n arbennig am Aberystwyth a sut mae’r Brifysgol yn cynnig profiad Cymraeg cyflawn.