Nyrsio
Mae nyrsio yn fwy na dim ond gyrfa wych a gwerthfawr. Mae'n daith broffesiynol, yn llawn o brofiadau gwerth chweil, o gyffwrdd â bywydau pobl o bob cefndir pan fyddant mewn angen, i ddarparu gofal cyfannol, caredigrwydd a thosturi pan fyddant ar eu mwyaf bregus. Bydd nyrsio yn dod yn rhan o’r hyn ydych chi, bydd yn frith o emosiynau a phrofiadau, ond bydd yn gwbl werth chweil.
Pam astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig rhaglenni gradd BSc Nyrsio sy’n canolbwyntio ar Iechyd Oedolion ac Iechyd Meddwl.
- Mae'r ddwy raglen, Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl, wedi'u hachredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a byddant yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ar gyfer anghenion iechyd datblygol cymdeithas yn y proffesiwn amrywiol a gwerth chweil hwn.
- Mae ein rhaglenni Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl yn datblygu nyrsys sy'n darparu arfer rhagorol yn seiliedig ar dystiolaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gofal ac yn rhoi'r claf wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau trwy hyrwyddo urddas, gofal a thosturi.
- Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r gallu i asesu, cynllunio, gweithredu, gwerthuso a monitro gofal yn ddiogel ac yn effeithiol.