Newyddion
Milfeddygon yn gloywi eu sgiliau trimio carnau yn Aberystwyth
Caiff milfeddygon y cyfle i loywi eu sgiliau trimio carnau ym Mhrifysgol Aberystwyth fis nesaf.
Darllen erthyglCyhoeddi enillwyr InvEnterPrize 2024
Ffordd newydd ddisglair o lanhau dannedd plant a busnes sy’n tyfu a gwerthu planhigion tŷ lliwgar yw cyd-enillwyr cystadleuaeth entrepreneuriaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglYmchwil i ddefnydd tir a newid hinsawdd a allai arbed £1.6 biliwn i economi Prydain
Mae gwyddonwyr yn Aberystwyth yn helpu’r sector amaethyddol i gyrraedd ei dargedau sero net drwy wneud y defnydd gorau o laswelltir y Deyrnas Gyfunol.
Darllen erthyglHychod duon arswydus a drychiolaethau ysbrydion: sut y daw hud a dirgelwch Cymru yn fyw yn y gaeaf
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Mari Ellis Dunning, Darlithydd Cyswllt yn yr Ysgol Ieithoedd a Llên ac ymgeisydd PhD, yn disgrifio pum defod a chred arswydus y gaeaf sy’n unigryw i Gymru a’i phobl.
Darllen erthyglPam mae galwadau i adolygu achos Lucy Letby mor wahanol i ymgyrchoedd camweinyddu cyfiawnder eraill
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Sam Poyser o Adran y Gyfraith a Throseddeg yn gosod y drafodaeth gyfredol ynghylch dibynadwyedd y dyfarniad yn erbyn cyn-nyrs newyddenedigol Lucy Letby yng nghyd-destun hanes ehangach camweinyddu cyfiawnder.
Darllen erthyglAcademydd yn ennill cymrodoriaeth o fri gan lywodraeth India
Mae arbenigwr mewn geneteg o Aberystwyth wedi derbyn cymrodoriaeth o fri gan asiantaeth Llywodraeth India.
Darllen erthyglAnnog arweinwyr COP16 i ystyried holl werthoedd natur yn eu penderfyniadau
Mae arweinwyr llywodraethau sy’n trafod yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang yng nghyfarfod COP16 yng Ngholombia yr wythnos hon yn cael eu hannog i ymgorffori gwerthoedd gwahanol byd natur yn ffurfiol yn eu prosesau penderfynu.
Darllen erthygl
Pobol y Cwm: Opera sebon mwyaf hirhoedlog y BBC yn dathlu 50 mlynedd ar yr awyr
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Jamie Medhurst o'r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn edrych yn ôl ar hanner canrif o opera sebon BBC Cymru.
Darllen erthyglAngen am drawsnewid o ofal yn sgil ‘colli hawliau dynol’ yn ystod y pandemig
Mae angen trawsnewid systemau gofal wedi effaith negyddol pandemig COVID-19 ar hawliau dynol pobl hŷn ac anabl, yn ôl academyddion.
Darllen erthyglGofalwyr Gorllewin Cymru yn ymdrin â lles drwy greadigrwydd
Mae gofalwyr Gorllewin Cymru yn cael cyfle i ymdrin â lles trwy grefft ac ysgrifennu creadigol, yn rhan o brosiect a gynhelir gan y Brifysgol.
Darllen erthyglDiagnosis cyflym o TB – ymchwilwyr i ddatblygu synhwyrydd newydd
Mae ymchwilwyr o Gymru wedi derbyn cyllid gwerth bron i £1.2 miliwn i ddatblygu synhwyrydd newydd ar gyfer twbercwlosis mewn pobl ac anifeiliaid a all roi canlyniad ymhen yr awr.
Darllen erthyglAil-edrych ar lenyddiaeth Gymraeg drwy lens LHDTC+
Mae academyddion yn Aberystwyth yn awyddus i roi llwyfan i leisiau anghofiedig yn llenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg mewn ymgais i osod eu gwaith ochr yn ochr â gweithiau eraill y canon llenyddol.
Darllen erthyglAp i amddiffyn ffermydd Nigeria rhag ffliw adar
Mae ymchwilwyr o Nigeria a Chymru yn datblygu ap a llwyfan gwybodaeth newydd i helpu i amddiffyn ffermydd dofednod a ffermwyr rhag ffliw adar.
Darllen erthyglMerch o Sir Benfro yn ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’
Catrin Palfrey, sy’n 19 oed ac yn dod o Degfryn ger Crymych, sydd wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £2,500 er cof am y milfeddyg o Landysul, y diweddar DGE Davies neu Defi Fet, eleni.
Darllen erthyglMyfyriwr amaeth Aberystwyth yw’r gorau ym Mhrydain
Mae ffermwr ifanc o Sir Gaerfyrddin sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr y Farmers Weekly am y myfyriwr amaeth gorau ym Mhrydain.
Darllen erthyglGalwad am bethau cofiadwy am yr Hen Goleg fel rhan o Ddiwrnod y Sylfaenwyr 2024
Mae gwahoddiad i’r cyhoedd ddod ag unrhyw bethau cofiadwy sydd ganddynt am yr Hen Goleg i’r Bandstand yn Aberystwyth brynhawn dydd Gwener 11 Hydref, fel rhan o ddathliadau Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglArbenigwyr biomas y byd yn ymgynnull yn Aberystwyth
Mae arbenigwyr biomas rhyngwladol wedi ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth i drin a thrafod gallu cnydau i ddatgarboneiddio amaeth a diwydiannau eraill.
Darllen erthygl