Bywyd ar y Campws
A hithau yng nghanol arfordir y canolbarth, mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli mewn tref brifysgol ddelfrydol y cyfeirir ati’n aml fel prif ddinas ddiwylliannol Cymru.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth ddau gampws a nifer o leoliadau ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac amaethyddol. Mae prif gampws addysgu’r Brifysgol, Penglais, wedi’i leoli ar Riw Penglais yn edrych i lawr dros y dref a glan y môr.
Mae campws bywiog Prifysgol Aberystwyth yn darparu nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ac mae wrth wraidd profiad myfyriwr bythgofiadwy.