Module Information

Module Identifier
VS11560
Module Title
Gwyddor Filfeddygol (Blwyddyn 1)
Academic Year
2024/2025
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Co-Requisite
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment .5 Hours   Asesiad Llafar  .5 Awr  10%
Semester Assessment .5 Hours   Arholiad Semester - Llafar  .5 Awr  20%
Semester Assessment Traethawd - PVP  1500 o eiriau  5%
Semester Assessment Adroddiad Labordy - PRIS1  1000 o eiriau  5%
Semester Exam 1.5 Hours   SAQ  This is a mid-term assessment 1.5 Awr  10%
Semester Exam 1.5 Hours   MCQ  1.5 Awr  10%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad Semester: MCQ  2 Awr  20%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad Semester: SAQ  2 Awr  20%
Supplementary Assessment Traethawd - PVP  1500 o eiriau  5%
Supplementary Assessment .5 Hours   Asesiad Llafar  .5 Awr  10%
Supplementary Assessment .5 Hours   Arholiad Semester - Llafar  .5 Awr  20%
Supplementary Assessment Adroddiad Labordy - PRIS1  1000 o eiriau  5%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad Semester: MCQ  2 Awr  20%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad Semester: SAQ  2 Awr  20%
Supplementary Exam 1.5 Hours   SAQ  This is a mid-term assessment 1.5 Awr  10%
Supplementary Exam 1.5 Hours   MCQ  1.5 Awr  10%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Disgrifio adeiledd a gweithrediad arferol anifeiliaid gan gynnwys egwyddorion homeostasis a’r ffactorau sy’n gallu tarfu arnynt

Dangos dealltwriaeth o swyddogaethau theori foesegol, meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a phroffesiynoldeb yng ngwaith y milfeddyg.

Deall adeiledd sylfaenol a natur fiolegol micro-organebau a pharasitiaid, a chymhwyso'r rhain i imiwnoleg, pathogenesis a dulliau rheoli clefydau penodol.

Disgrifio gofal anifeiliaid yng nghyswllt systemau cynhyrchu da byw, y diwydiant ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys dulliau rheoli, yr amgylchedd, maeth a'u hymddygiad arferol, a chymhwyso'r rhain wrth weithio gydag anifeiliaid penodol.

Nodi cyfraniad ymchwil fiolegol sylfaenol i faes milfeddygaeth

Brief description

Mae’r modiwl yn cynnwys chwe "llinyn" a fydd yn cyflwyno’r myfyrwyr i hanfodion sylfaenol milfeddygaeth. Mae’r llinyn “Hwsmonaeth Anifeiliaid” yn rhoi cyflwyniad i ofal anifeiliaid a'r rhan y mae anifeiliaid yn ei chwarae yn ein cymdeithas. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o anatomeg a ffisioleg prif systemau cyrff anifeiliaid, mewn tair llinyn: "Systemau Ymborth, Endocrinaidd a Throethgenhedlol", "Systemau Cardiofasgwlaidd, Resbiradol ac Ymsymudol" a "Niwroleg, Offthalmoleg a Synhwyrau Arbennig". Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r cysyniadau biolegol creiddiol yn y llinyn "Egwyddorion Gwyddoniaeth" sy'n cwmpasu meysydd fel clefydau heintus, patholeg, geneteg ac imiwnoleg. Yn olaf, mae’r llinyn "Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth” yn cyflwyno themâu pwysig o ran proffesiynoldeb, moeseg, sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Aims

1. Rhoi trosolwg o adeiledd arferol meinwe, bioleg ddatblygiadol, ffisioleg, a hwsmonaeth anifeiliaid, gyda phwyslais ar dda byw domestig ac anifeiliaid anwes.
2. Datblygu’r sgiliau i weithio'n hyderus gyda da byw domestig ac anifeiliaid anwes a deall eu hymddygiad arferol.
3. Disgrifio adeiledd micro-organebau a pharasitiaid penodol, sut maent yn ymosod ar westeion anifeil, a'r dulliau a ddefnyddir gan fertebratau i’w gwrthsefyll.
4. Disgrifio prosesau genetig ar bob lefel o drefniadaeth (e.e. moleciwlaidd, cromosomaidd, poblogaeth) gan gyfeirio at adeileddau a chysyniadau priodol.
5. Disgrifio’r swyddogaethau a'r safonau sy’n ddisgwyliedig gan filfeddygon yn y proffesiwn.

Content

Mae'r modiwl yn cynnwys y llinynnau canlynol:
1. AEU: Systemau Ymborth, Endocrinaidd a Throethgenhedlol
2. CRLS: Systemau Cardiofasgwlaidd, Resbiradol ac Ymsymudol
3. PVP: Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth
4. AH: Hwsmonaeth Anifeiliaid
5. PRIS: Egwyddorion Gwyddoniaeth
6. NOSS: Niwroleg, offthalmoleg a synhwyrau arbennig.
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a dysgu hunangyfeiriedig, gyda phwyslais cryf ar weithio mewn grwpiau bach a datrys problemau.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon.
Co-ordinating with others Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Creative Problem Solving Bydd dysgu drwy mewn grwpiau bach, dosbarthiadau ymarferol, y gwaith cwrs a'r arholiadau yn cynnwys golygu datrys problemau.
Critical and analytical thinking Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio yn ddyfnach i bynciau ymchwil y tu hwnt deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r gwaith cwrs.
Digital capability Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at y gwaith cwrs a’r arholiad. Bydd sut fydd y gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno yn cael ei asesu.
Professional communication Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y ddau aseiniad ac yn y grwpiau tiwtorial.
Real world sense Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn gan hwyluso eu datblygiad proffesiynol. Nid asesir yr agwedd hon.
Reflection Mae myfyrio yn elfen amlwg a bwysleisir drwy gydol 5 mlynedd y cwrs BVSc. Yn BVSc 1 a BVSc 2, mae myfyrwyr yn cael cyfle i fyfyrio’n ffurfiannol a chyfansymiol ar eu profiadau mewn milfeddygfeydd, ar ffermydd, neu yn y Brifysgol.
Subject Specific Skills Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am derminoleg filfeddygol, technegau labordy a chyfliniadau anatomegol. Bydd yr adroddiad labordy yn rhoi mewnwelediad i ysgrifennu gwyddonol.

Notes

This module is at CQFW Level 4