Module Information

Cod y Modiwl
TC36140
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Prif aseiniad  Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair)  70%
Asesiad Ailsefyll Cynllun ymchwil  2500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Cynllun ymchwil  2500 o eiriau  30%
Asesiad Semester Prif aseiniad  Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Perfformiad Unigol (hyd at 30 munud) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Sgript (hyd at 60 munud o hyd) a Portffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair)  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer prosiect estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.

Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i’r pwnc a’r allbwn a ddewiswyd ganddynt, a’u defnyddio wrth weithio’n annibynnol.

Tafoli cyfres o weithiau beirniadol ac/neu astudiaethau achos perthnasol, a’u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.

Strwythuro a threfnu casgliadau’n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig; neu trwy sgript; neu trwy gyflwyniad cyhoeddus; a gallu adlewyrchu ar y casgliadau ble fo’n briodol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil creadigol estynedig, ble mae ganddynt ryddid i ddewis ffurf yr aseiniad terfynol, yn unol ag anghenion a phriodoledd y cwestiwn ymchwil.

Yn ystod y semester cyntaf, bydd rhaid i bob myfyriwr gyflwyno cynllun ymchwil ysgrifenedig 2,500 o eiriau. Ar sail y cynllun ymchwil, bydd modd i’r myfyriwr ddatblygu’r prosiect ar gyfer creu un o’r allbynnau canlynol: 
- traethawd hir ysgrifenedig hyd at 10,000 o eiriau.
- sgript ar gyfer unrhyw gyfrwng, hyd at 60 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
- perfformiad unigol ar gyfer y llwyfan, hyd at 30 munud o hyd, a portffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.

Amlygir y berthynas glos rhwng ymchwil â gwaith creadigol yn gyson yng nghynlluniau gradd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Trwy roi rhyddid i fyfyrwyr ddewis ffurf eu prosiect ymchwil, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i ddatblygu darn o waith sylweddol sy’n ymgorffori ac yn fynegiant o’r weledigaeth hon.

Yn ystod y semester cyntaf, bydd pob myfyriwr yn dilyn pump darlith/gweithdy, gan weithio tuag at gyflwyno cynnig ymchwil yn ystod yr Wythnos Ddarllen. Un unol â’ch allbwn dewisol, cynhelir un gweithdy grŵp ychwanegol, ac yna un sesiwn tiwtora unigol cyn diwedd y semester. Yn yr ail semester, cynhelir chwe sesiwn tiwtora unigol.

Cynnwys

Cynnwys Mynegol ar gyfer y Darlithoedd/Gweithdai:
1. Diffinio Nodweddion Prosiect Ymchwil: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith
2. Llunio Cwestiwn Ymchwil
3. Ymarfer fel Ymchwil
4. Arolwg Llenyddiaeth a Chanfod Ffynonellau
5. Ffurfio Cynllun Ymchwil
6. Sesiwn Grŵp Llai: Methodolegau Ymchwil

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir; ac o bosib cyflwyno’r gwaith trwy gyfrwng cyflwyniad cyhoeddus.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. Bydd y modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cyrsiau ymchwil uwchraddedig.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, diffinio cwestiwn ymchwil ar gyfer ei ateb, a bod yn ymwybodol o’r heriau a chymhlethdodau sydd ynghlwm ag unrhyw broses ymchwil.
Gwaith Tim Disgwylir i’r gwaith ar y modiwl gael ei gwblhau’n bennaf yn annibynnol. At hynny, ni roddir unrhyw bwyslais uniongyrchol ar ddatblygu sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun O ganlyniad i gyflwyno cynnig ymchwil, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda’u cyd fyfyrwyr a’r tiwtor a derbyn adborth ffurfiol yn gynnar yn y broses ymchwil. Rhoddir adborth ar y prosiect yn anffurfiol trwy gyfrwng tiwtorialau, a rhoddir adborth manwl i waith ar y ffurflenni asesu terfynol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau beirniadol a disgyblaethol, a bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth eang a ddofn o'r llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn eu meysydd ymchwil.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr darllen, ymchwilio ac (os yn briodol) gwylio ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, perfformiadau) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r rhyngrwyd i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau prosesu geiriau, ac unrhyw feddalwedd perthnasol eraill, yn unol ag anghenion eu prosiect.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6