Module Information
Cod y Modiwl
TC21120
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Cyflwyniad Ymarferol Unigol Cyflwyniad ymarferol unigol yn seiliedig ar thema roddedig 1 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Beirniadol a Dogfennol Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu | 40% |
Asesiad Semester | 80 Awr Asesu Parhaus Ymarferol Ymarfer a pharatoi gogyfer cynhyrchiad amlgyfrwng 80 Awr | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio Beirniadol a Dogfennol Portffolio Beirniadol a Dogfennol cyfwerth â 1500 o eiriau/ 3 munud o fideo wedi’i olygu | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos gallu i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad yn ystod y broses ddyfeisio.
Arddangos gallu i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno wrth baratoi deunydd ymarferol tuag at y cynhyrchiad amlgyfrwng.
Arddangos meistrolaeth elfennol o ystod o sgiliau ymarferol ym maes y cyfryngau.
Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio ar eu dealltwriaeth o natur y deunydd a gynhyrchir, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr fod yn rhan o broses o greu ac ymarfer cynhyrchiad amlgyfrwng byw. Fe fydd briff sylfaenol y cynhyrchiad yn cael ei gyflwyno i’r myfyrwyr gan aelod o staff yr Adran, ac fe fydd modd i’r myfyrwyr gyfrannu i’r broses trwy ddarparu gwaith camera a/neu sain dan ofalaeth yr aelod staff hwnnw. Fe fydd gofyn iddynt astudio'r testun a ddewiswyd ar gyfer y prosiect, a'i ddadansoddi'n fanwl o safbwynt gweledigaeth yr awdur, ymchwilio i gynyrchiadau blaenorol, ac ystyried sut gellir ei gyflwyno’n fyw yn y presennol.
Yn sgil y gwaith cychwynnol hwn, fe archwilir sut i greu cynllun ymarfer effeithiol a thrylwyr ar gyfer y cynhyrchiad, ac fe eir ati i roi prawf ar y cynllun hwnnw trwy gyfrwng arbrofion ac ymarferion ffilmig, gweledol a seiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, dosrennir tasgau penodol i’r myfyrwyr o safbwynt gwaith ffilmio unigol, saethu golygfeydd a gweithgareddau grŵp, addasu testunol, saethu gwaith cymeriadol a choreograffi. Daw’r gwaith ar gyfer y modiwl hwn i ben wrth i’r deunydd fideo gael ei gwblhau a’i drefnu fel ag i’w gynnwys yn y cynhyrchiad a’i ddangos i gynulleidfa fyw.
Wrth ymroi i’r broses hon o arbrofi, archwilio, adeiladu ac ymarfer, fe fydd y myfyrwyr yn cydweithio gyda myfyrwyr ar nifer o fodiwlau eraill: sef TC2**20 Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio, TC3**20 Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio, a TC3**20 Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ar y modiwlau hyn ganfod a diffinio ffyrdd o gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau creadigol ac ymarferol tuag at nod cyffredin.
Rhydd y cydweithio hwn gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymarferol arbenigol; ond fe fydd hefyd yn gofyn iddynt adolygu eu cynnydd hwy eu hunain a gosod eu cyfraniad i’r gwaith dyfeisio, creu ac ymarfer yn ei gyd-destun (o ran gwaith ymchwil, a’r cyd-destun ymarferol ac artistig); gwneir hyn trwy gyflwyno Portffolio Beirniadol a Dogfennol. Fe gyflwynir 5 seminar 1 awr i’r grwpiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect er mwyn trafod a chynnig cyngor ar baratoadau tuag at yr aseiniad hwn.

Cynnwys
Rhestr o weithgareddau nodweddiadol i’w cyflwyno yn y sesiynau ymarferol a’u trafod yn y seminarau:
Darllen y Ddrama
Arbrofi gyda’r berthynas rhwng y perfformio a’r gwaith sgrin
Asio’r deunydd sgrin a’r perfformio byw
Creu deunydd sgrin annibynnol/ ychwanegol i’r perfformio byw
Llunio sgript saethu ar gyfer y digwyddiad byw
Pennu symudiadau ac onglau camera ar gyfer y saethu
Pennu pwyntiau torri/golygu ar gyfer y ffilmio byw
Penderfynu sut i gymysgu’r delweddau
Ymarfer y digwyddiadau byw

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Fel unrhyw broses greadigol, fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i’r myfyrwyr addasu a newid eu gweledigaeth wrth ymwneud â datblygiad y prosiect ymarferol. Fe fydd y profiad hwn o gydweithio ac ymateb i ffurf graddol-ddatblygol y prosiect yn rhoi prawf go iawn ar wytnwch a dyfalbarhad y myfyrwyr. |
Cydlynu ag erail | Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar brofiad dwys o waith ymarferol mewn grŵp yn y Prosiect Cynhyrchu amlgyfrwng. Fe fydd hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos gyda’u cyd-fyfyrwyr yn y maes perfformio; a rhydd y pethau hyn .gyfle i'r myfyrwyr ddeall ac ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tîm. |
Datrys Problemau Creadigol | Fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, o ran trefnu a chreu gwaith camera, sain a golygu byw. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau wythnosol. |
Gallu digidol | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddeall a defnyddio offer technegol digidol wrth wneud baratoi eu gwaith ymarferol, ac wrth gysylltu a'i gilydd yn ystod y broses gwaith. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Fe fydd yr aseiniadau ysgrifenedig yn y portffolio yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny yn gofyn datblygu sgiliau dadansoddiadol er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr ac yn gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun ehangach yn seiliedig ar ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd. |
Myfyrdod | Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol ddulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas â'u cryfder wrth ymateb i rai o'r rhwystrau a all godi. |
Synnwyr byd go iawn | Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i ddatblygiad y cynhyrchiad hwnnw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbenigo mewn maes o'u dewis hwy (gwaith camera, sain, golygu, cyfarwyddo), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5