Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd a crynodeb 5000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd a crynodeb 5000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dealltwriaeth o gymhlethdodau a gofynion llunio portffolio profiad gwaith.
Esiamplau o flaenoriaethau’r cyd-destun cymhwysol o ddydd i ddydd.
Esiamplau o’r rolau a’r sgiliau y mae’r lleoliad cymhwysol yn gofyn amdanynt.
Esiamplau o’r ymarfer moesegol a phroffesiynol yn y lleoliad cymhwysol.
Gallu myfyrio ar sgiliau, a rhoi tystiolaeth ohonynt, er mwyn gwella cynnydd personol a chyflogadwyedd.
Disgrifiad cryno
Modiwl lleoli yw SC20620 sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyriwr mewn meysydd sy’n bwysig ar gyfer recriwtio graddedigion yn ôl yr Asiantaeth Addysg Uwch a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Er enghraifft, datrys problemau, myfyrio, sgiliau ymchwil, cyfathrebu, gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, datblygiad personol a chynllunio gyrfa a sgiliau pwnc sy’n berthnasol i seicoleg. Caiff myfyrwyr hefyd olwg ar y cyd-destun cynhwysol a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r gweithle er mwyn hwyluso eu syniadau eu hunain am lwybrau gyrfa a dyheadau. Bydd y lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Bydd pob myfyriwr yn gyfrifol am sicrhau ei leoliad ei hun.
Cynnwys
Paratoi ar gyfer lleoliad
Sgiliau trosglwyddadwy
Moeseg ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle
Yr ymarferydd myfyriol
Gyrfaoedd mewn seicoleg a chynllunio gyrfa
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ymarfer eu gwrando, siarad, ac ysgrifennu ar gyfer gwahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ystyried eu sgiliau eu hunain yng nghyd-destun y lleoliad cymhwysol. Mae’r lleoliad hwn yn rhoi’r cyfle i baratoi, neu gynllunio ar gyfer, llwybrau gyrfa’r dyfodol a llwybrau cynnydd. |
Datrys Problemau | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddatrys problemau yn y lleoliad cymhwysol; gall hyn gynnwys adnabod problemau, gwerthuso atebion posib, meithrin gwydnwch wrth wynebu problemau, neu feddwl creadigol wrth ddatrys problemau. |
Gwaith Tim | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, bydd y myfyrwyr yn cael blas ar ddeinameg grŵp, amcanion grŵp, a’u cyfraniad eu hunain i waith tîm effeithiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Anogir myfyrwyr i ystyried eu harddull ddysgu eu hunain, dewisiadau personol, ac amcanion ar gyfer y dyfodol. Byddant yn cael blas ar ddysgu yng nghyd-destun y gweithle ac yn monitro eu cynnydd eu hunain tuag at eu hamcanion dysgu. |
Rhifedd | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, anogir myfyrwyr i ystyried ac ymarfer eu sgiliau rhif mewn sawl cyd-destun. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn deall ac yn rhoi eu gwybodaeth am seicoleg ar waith yn y lleoliad cymhwysol. Bydd myfyrwyr yn cael blas ar ymarfer proffesiynol a moesegol mewn sawl cyd-destun amrywiol. |
Sgiliau ymchwil | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, disgwylir i’r myfyrwyr weld esiamplau o ddefnyddio dulliau ymchwil yn y lleoliad cymhwysol a myfyrio ar eu sgiliau. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae’r lleoliadau yn amrywiol ac yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a phrofiad. Yn ystod y lleoliad, efallai bydd myfyriwr yn arsylwi neu’n ymarfer effeithiolrwydd sgiliau TG yn y lleoliad proffesiynol ac ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5