Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd NEU Gyflwyniad llafar Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Adfyfyriad Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir | 50% |
Asesiad Semester | Adfyfyriad Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd NEU Gyflwyniad llafar Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau llyfryddiaethol a chyfrifiadurol.
Byddant yn medru arddangos sgiliau mewn rhychwant o strategaethau lledaenu ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu, cyflwyno ar lafar, a defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau
Gweithio fel rhan o dîm
Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.
Byddant yn medru arddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r ystyriaethau sydd ynghlwm â rheoli prosiect ymchwil tymor hir.
Disgrifiad cryno
Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol a sut i ysgrifennu yn academaidd yn y Gymraeg. Mae’r gyfres o weithdai yn cynnig sesiynau ar drin a thrafod ffynonellau a thechnoleg gwybodaeth, rheoli ymchwil, sgiliau cyfathrebu, cyflogadwyedd a gyrfaoedd.
Cynnwys
- Rheoli ymchwil- rheoli amser a phwysau gwaith, rheoli'r goruchwyliwr, rheoli cyfeirnodau, rheoli termau, hawlfraint ac eiddo deallusol
- Sgiliau cyfathrebu - sgiliau ysgrifennu, cynhadleddau, cyflwyniadau llafar
- Sgiliau a dulliau ymchwil - archifau, adolygiadau llenyddol, dulliau yn y gwyddorau/celfyddydau a'r dyniaethau, ymchwil ansoddol
- Ar ôl eich PhD - rhwydweithio, cynllunio gyrfa, adnabod sgiliau, chwilio am swydd Rhaid mynd i o leiaf 2 sesiwn breswyl a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu sesiynau cyfatebol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml. |
Cyfathrebu proffesiynol | Datblygir: Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu. |
Datrys Problemau Creadigol | Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys. |
Gallu digidol | Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft, dod o hyd i.gatalogau llyfrgell, cyfnodolion electronig, a thraethodau ymchwil ar-lein ac arfau cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg, |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Datblygir: Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7