Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar ar bwnc penodol (10 munud) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion cyfieithu a golygu (2,000 o eiriau) | 80% |
Asesiad Semester | Ymarferion cyfieithu a golygu (2,000 o eiriau) | 80% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar ar bwnc penodol (10 munud) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o’r gwahanol gyd-destunau ar gyfer cyfieithu yng Nghymru gyfoes
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith yn ymarferol)
Adnabod gwahanol gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu
Cymhwyso’r adnabyddiaeth o gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu wrth fireinio eu sgiliau cyfieithu eu hunain
Gallu trafod gwaith amrywiol gyfieithwyr a deall y broses o olygu gwaith cyfieithu
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt, rhoddir cyflwyniad i ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol a thrafodir gwahanol gyweiriau iaith a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyfieithydd proffesiynol. Mae gwedd ymarferol bwysig i’r modiwl hwn, gyda’r bwriad o baratoi gweithwyr ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno gweithwyr i faes cyfieithu yn gyffredinol ac i waith y cyfieithydd proffesiynol yng Nghymru gyfoes, gan gynnig cyd-destun sylfaenol i’r maes.
Cynnwys
i. Crefft y cyfieithydd
ii. Cyd-destunau cyfieithu
iii. Damcaniaethau Cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith mewn modd ymarferol)
iv. Hanes cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.
v. Cyweiriau iaith.
vi. Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr.
vii. Adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau’r aseiniadau
i. Crefft y cyfieithydd
ii. Cyd-destunau cyfieithu
iii. Damcaniaethau Cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith mewn modd ymarferol)
iv. Hanes cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.
v. Cyweiriau iaith.
vi. Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr.
vii. Adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau’r aseiniadau
Amserlen enghreifftiol
Diwrnod cyswllt 1
9.00 – 10.30 Croeso a sesiwn 1
Crefft y cyfieithydd
10.30 – 12.30 Sesiwn 2
Cyd-destunau cyfieithu - gweithdy
12.30 – 1.00 Cinio
1.00 – 3.00 Sesiwn 3
Damcaniaethau cyfieithu perthnasol, a’u rhoi ar waith
3.00 – 4.30 Sesiwn 4
Hanes Cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.
Gwaith ymarferol - gweithdy
Diwrnod cyswllt 2
9.00 – 10.30 Croeso a sesiwn 1
Cyweiriau iaith - gweithdy
10.30 – 12.30 Sesiwn 2
Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr
12.30 – 1.00 Cinio
1.00 – 3.00 Sesiwn 3
Datblygu sgiliau cyfieithu - gweithdy
3.00 – 4.30 Sesiwn 4
Adolygu’r cynnwys a pharatoi ar gyfer aseiniadau
(Cyfanswm o 14 awr)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu yn gyson ac, ar sail adborth a gweithdai, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau cyfieithu drwy wneud cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg mewn amrediad o gyweiriau gwahanol. |
Datrys Problemau | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio mewn gwahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau) i darddiad a defnydd geirfa cyn dewis a dethol yn ddeallus pa eirfa a chyweiriau i’w defnyddio. |
Gwaith Tim | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y cyflwyniad llafar yn gwneud defnydd o Bwerbwynt neu Prezzie. |
Rhifedd | Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd, ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
Sgiliau ymchwil | Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyweiriau i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn y darnau prawf cyfieithu. Wrth drafod gwaith ei gilydd a chyfieithwyr eraill byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur ynghyd â gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7