Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferiad Cyfieithu pwrpasol gyda sylwebaeth | 50% |
Asesiad Semester | Ymarferiad Cyfieithu gyda thechnoleg gyda sylwebaeth | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol. 15 Minutes | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Arddangos adnabyddiaeth o’r ffynonellau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael yng Nghymru heddiw, a medru adnabod eu defnyddioldeb a’u gwerth.
Dangos dealltwriaeth o sut mae meddalwedd cof cyfieithu yn gallu cynorthwyo gwaith y cyfieithydd testun.
Cyfieithu darnau o destun yn gywir ac yn addas gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu.
Esbonio defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol i’r cyfieithydd ac i eraill sy’n gweithio mewn cyd-destun dwyieithog.
Deall sut mae defnyddio meddalwedd cyfieithu peirianyddol law yn llaw â meddalwedd cof cyfieithu ac asesu ei defnyddioldeb.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol becynnau o feddalwedd cyfieithu a fydd yn hwyluso eu gwaith a byddant yn ystyried addasrwydd y feddalwedd honno ar gyfer gwahanol dasgau. Byddant hefyd yn dysgu am ffynonellau geiriadurol a therminolegol a chyfeirlyfrau yng Nghymru gyfoes ac yn trafod ac asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd o gymorth i waith cyfieithwyr proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys meddalwedd technoleg gwybodaeth, cof cyfieithu, terminolegau, geiriaduron a chyfeirlyfrau.
Cynnwys
i) Defnyddio ac archwilio meddalwedd gyfrifiadurol sydd yn cefnogi gweithio mewn mwy nag un iaith.
ii) Dysgu a rhannu gwybodaeth am y ffynonellau ymchwil ac adnoddau geiriadurol a therminolegol a phwyso a mesur eu defnyddioldeb.
iii) Dysgu am ffynonellau terminolegol yng Nghymru gyfoes, gan gynnwys astudio’r gwahaniaeth rhwng termau technegol a geirfa fwy cyffredinol ac ystyried ym mha gyd-destun y dylid eu defnyddio.
iv) Asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol ar-lein (e.e. Google Translate, Bing) yng ngwaith y cyfieithydd.
v) Cyflwyniad i systemau cof cyfieithu a ddefnyddir gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
vi) Trafodaeth ar yr elfennau uchod a’r modd y’u defnyddiwyd wrth gyflawni ymarferion y modiwl (o bosib gyda chyfieithwyr eraill).
vii) Trafodaeth bellach ar yr elfennau uchod a pharatoi ar gyfer cwblhau’r aseiniadau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy’r gweithdai a’r seminarau bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau trafod a dadansoddi, a thrwy’r aseiniadau, yn datblygu eu defnydd o gyfarpar cyfieithu ac yn esbonio addasrwydd gwahanol gyfarpar ar gyfer trosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith ac esbonio eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. |
Datrys Problemau | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyfarpar i’w defnyddio er mwyn cyfieithu testunau o un iaith i’r llall. Wrth drafod gwaith eu hunain a’i gilydd, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith a chyfarpar. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu wrth fynd rhagddynt, yn adolygu eu gwaith, ac yn ystyried ac esbonio’r datblygiad hwn er mwyn gwella eu perfformiad |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau da thrwy ddefnyddio gwahanol offer pwrpasol. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7