Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol 2 Awr | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 3000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 3000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gallu trafod rhai o brif gyflawniadau'r dyneiddwyr Cymraeg a byddant yn dra ymwybodol o bwysigrwydd y cyflawniadau hynny.
Byddant yn gallu trafod y syniadau newydd ym maes dysg a chrefydd a ddaeth i Gymru o'r Cyfandir yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Byddant yn gallu trafod y prif gerrig milltir yn hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg ac yn gallu trafod yn feirniadol gyfraniad rhai unigolion tuag at y gwaith cyfieithu.
Byddant yn gallu trafod gwaith rhai o'r dyneiddwyr Cymraeg gan ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ragymadroddion y dyneiddwyr i'w gweithiau ynghyd ag astudiaeth o gynnrych llenyddol dyneiddwyr penodol megis William Salesbury, Gruffudd Robert a William Morgan.
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | . |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6