Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr 2 Awr | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr 2 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Gwerthuso cyfyngiadau biolegol a ffisegol ar gynhyrchiant da byw er mwyn cynhyrchu da byw yn gynaliadwy
Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw
Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw i adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd
Cymhwyso gwybodaeth ymchwil er mwyn gwella systemau cynhyrchu da byw
Arddangos gwybodaeth mewn cof am egwyddorion biolegol a rheolaethol sylfaenol cynhyrchu da byw
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, cig eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant da byw, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.
Cynnwys
Cig Eidion
Defaid
Llaeth
Moch
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol. |
Datrys Problemau | Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu. |
Rhifedd | Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw |
Sgiliau ymchwil | Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5