Module Information

Cod y Modiwl
BG21720
Teitl y Modiwl
Pynciau llosg yn y Biowyddorau
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad llafar unigol ar bwnc ymchwil  30 Munud  70%
Asesiad Ailsefyll Sgiliau trafod yn y dosbarth  Awr  30%
Asesiad Semester Sgiliau trafod yn y dosbarth  Awr  30%
Asesiad Semester Arholiad llafar unigol ar bwnc ymchwil  30 Munud  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio, trafod a deall ystod eang o bynciau llosg yn y biowyddorau.

Ymchwilio pwnc llosg yn drylwyr o fewn maes sydd yn berthnasol i'w gradd.

Trafod a chyfathrebu pwnc eu hunain ar sail eu hymchwil.

Dangos hyder i drafod y biowyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth a thrafod ystod eang o Bynciau llosg yn y biowyddorau yn y dosbarth, gan ddysgu beth sydd yn gyrru ymchwil a sut mae'n gweithredu. Byddant wedyn yn unigol yn arbenigo ac yn ymchwilio pwnc eu hunain sydd yn berthnasol i’w pwnc gradd. Bydd y pwnc yma yn cael ei ddefnyddio fel sail i drafodaeth a fydd yn cael ei asesu.

Nod

Bwriad yw defnyddio pynciau llosg yn y biowyddorau i ddatblygu sgiliau trafod a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw lefel gallu yn y Gymraeg (o ddysgwyr i rai sydd yn llai hyderus i fyfyrwyr rhugl).

Cynnwys

Gydag wyth biliwn o bobol yn y byd rydym yn wynebu gymaint o heriau yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys: bwydo pobol y byd; rheoli afiechydon dynol ac anifeiliaid; ymateb i newid hinsawdd; amddiffyn bioamrywiaeth, ayyb. Nid oes erioed wedi bod amser lle mae ymchwil biowyddorau wedi bod mor bwysig i’n dyfodol, o ran darganfod a datrys problemau a cheisio darganfod ffordd ymlaen tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Mae'r modiwl yma yn archwilio amrywiaeth o bynciau yn y Biowyddorau wedi ei ffocysu ar ymchwil actif yn yr adran. Bydd y llwyfan yma yn cael ei ddefnyddio i gataleiddio trafodaethau dwyieithog a fydd yn agored i unrhyw fyfyriwr ar unrhyw lefel gallu yn y Gymraeg (o ddysgwyr i rai sydd yn llai hyderus i fyfyrwyr rhugl).
Bydd y myfyrwyr wedyn yn ymchwil pwnc eu hunain sydd yn berthnasol i’w pwnc gradd gan greu traethawd arno. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen i drafodaeth a fydd yn cael ei asesu gan staff. Bydd y drafodaeth yn cysidro'r broses o ymchwil, eu gwybodaeth am y pwnc a hefyd sut y dylai’r pwnc ddatblygu yn y dyfodol. Er na fydd y traethawd yn cael ei asesu yn ffurfiol bydd adborth trylwyr yn cael ei gyflwyno i’r myfyrwyr ar y cynnwys a’r strwythur. Bydd yr asesiadau ar lafar yn ffocysu ar lefel gwybodaeth y myfyrwyr yn y biowyddorau a’i gallu i gyfathrebu hyn. Bydd pob trafodaeth yn cael ei wneud ar lefel sydd yn gyfforddus i fyfyrwyr unigol, gan gymryd i ystyriaeth eu sgiliau cyfrwng Cymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Class discussions and cooperation
Cyfathrebu proffesiynol Tested via class discussion and oral examination
Datrys Problemau Creadigol Research skills tested via oral examination
Sgiliau Pwnc-benodol Via essay as a foundation for oral examination
Synnwyr byd go iawn Consideration of their scheme subject against other Bioscience subjects

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5