Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Fforwm Ar-lein (O leiaf 1200 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | Cynllun Arloesedd (2000 o eiriau) | 45% |
Asesiad Semester | (2000 o eiriau) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio'r heriau presennol ac yn y dyfodol i gyflenwad bioseiliedig a bwyd
2. Archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd ac economeg cyflenwad cynaliadwy
3. Asesu'r berthynas rhwng nodau busnes a chynaliadwyedd
4. Gwerthuso'r dulliau cyfredol o fesur a llywodraethu cynaliadwyedd
5. Gwerthuso rol gwybodaeth a rheoli perthynas mewn cyflenwad cynaliadwy
6. Cymharu a gwerthuso gwahanol ddulliau o gyflawni cynaliadwyedd
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd yn addysgu myfyrwyr am y cysyniadau a’r heriau i gynaliadwyedd mewn systemau cyflenwi bioseiliedig a bwyd, gan dynnu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Mae'r modiwl hwn yn un o'r modiwlau trosfwaol sy'n dwyn ynghyd nifer o'r pynciau modiwl mwy penodol a gwmpesir gan BioArloesedd Cymru (e.e. Rheoli Adnoddau Gwastraff) i edrych ar sut mae'r rhain yn ffitio o fewn y system gyflenwi ehangach. Mae'n archwilio heriau a chyfleoedd cynaliadwyedd yn y sector bwyd-amaeth, gan gynnwys agweddau a chysyniadau cynaliadwyedd, gwahanol fathau o systemau a rheolaeth gynaliadwy, heriau cyrchu cynaliadwyedd, a sut mae cwmnïau'n defnyddio'r cysyniad o gynaliadwyedd i ychwanegu gwerth at eu cynhyrchion a gwasanaethau. Mae'r modiwl yn ceisio herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am faterion sy'n ymwneud â chynaliadwyedd mewn cyflenwad bwyd a bio-seiliedig, ac i ennill dealltwriaeth o'r cymhellion a'r berthynas sy'n tanlinellu'r materion hyn.
Cynnwys
Cyflwyno'r heriau unigryw i gyflenwad bwyd a bio-seiliedig a sut mae'r rhain yn rhyngweithio a'r agenda cynaliadwyedd; yn rhoi trosolwg o'r agweddau yr ymhelaethwyd arnynt mewn unedau dilynol
Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Chymdeithasol
Archwilio gwahanol agweddau o gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol mewn cyflenwad bwyd a bioseiliedig, gan gynnwys dulliau o asesu'r elfennau hyn o gynaliadwyedd, a thensiynau a heriau posibl o'u cwmpas
Cynaliadwyedd Maeth ac Iechyd
Yn ystyried cynaliadwyedd cymdeithasol mewn cyflenwi bwyd o ran ansawdd y cynnyrch a ddarperir a'u heffaith ar ddefnyddwyr, o ddiogelwch bwyd i faterion maeth (agenda One Health, gordewdra a diffyg maeth)
Economeg, Nodau Busnes a Chynaliadwyedd
Yn archwilio damcaniaeth economaidd y cyflenwad, a nodau busnes a'r synergeddau a'r tensiynau rhwng y rhain a chyflawni cynaliadwyedd
Llwybrau tuag at Gynaliadwyedd
Yn ystyried y chwyldro 'Rheoli Main' mewn systemau cyflenwi ac i ba raddau y gall ddarparu gwell cynaliadwyedd mewn bwyd a chyflenwad bio-seiliedig a cyferbynnu'r model newid hwn a datblygu systemau cyflenwi amgen sy'n ceisio cynaliadwyedd trwy newid mwy sylfaenol
Pwer Gwybodaeth
Yn canolbwyntio ar rol ganolog gwybodaeth mewn systemau cyflenwi (gan adeiladu ar y cysyniadau o 'reoli main' o'r uned flaenorol) ac effaith technegau casglu data newydd a gallu dadansoddol ar y rol hon. Archwilir y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig a'r newidiadau hyn (cysylltiadau pwer rhwng cynhyrchwyr fel ffermwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid; diogelwch data; mwy o dryloywder ac atebolrwydd), gan gynnwys trwy astudiaeth achos ar y system cyflenwi cig coch.
Gwerth Ychwanegol o Arfer Cynaliadwy
Yn edrych ar sut y gall cwmniau elwa o gynaliadwyedd trwy rannu eu harferion cynaliadwy gyda chwsmeriaid, er enghraifft trwy gynlluniau labelu sy'n ychwanegu gwerth at gynhyrchion. Ystyried y cyfyngiadau a'r heriau sy'n gysylltiedig a'r broses hon.
Llywodraethu Cynaliadwyedd
Yn archwilio sut mae cynaliadwyedd yn cael ei lywodraethu gan bolisi ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys egwyddorion llywodraethu da a'r heriau cysylltiedig - yn edrych yn feirniadol ar yrwyr cynaliadwyedd a maint y llywodraethu allanol sydd ei angen.
Astudiaethau Achos o Gyflenwad Cynaliadwy
Yn cyflwyno myfyrwyr gydag amrywiaeth o astudiaethau achos systemau cyflenwi o Gymru a thu hwnt, gan ganolbwyntio ar sut yr eir i'r afael a'r materion, yr heriau a'r cyfleoedd a drafodir mewn unedau blaenorol yn y byd go iawn. Pa faterion sy'n cael eu trin yn dda, pa rai sy'n fwy cymhleth? Sut mae tyndra rhwng nodau busnes a chynaliadwyedd yn chwarae allan mewn bywyd go iawn a pha atebion y mae cwmniau wedi'u canfod?
Gwella Cynaliadwyedd yn Ymarferol - Arloesedd mewn Systemau Cyflenwi
Ar sail y wybodaeth ddamcaniaethol a'r enghreifftiau pendant a roddwyd mewn unedau blaenorol, mae'r uned hon yn hwyluso archwilio gan y myfyrwyr eu hunain o gadwyn gyflenwi benodol a'r arloesedd y gellid ei ddefnyddio i wella ei gynaliadwyedd, gan gynnwys heriau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig a newid o'r fath.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu allbwn ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein a hefyd trwy aseiniadau eraill. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr ar gynaliadwyedd mewn systemau cyflenwi, sut y gellir ei gyflawni a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig i'w helpu i rannu gwybodaeth/cyngor diweddaraf gyda'u cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bioseiliedig a bwyd. Mae'r modiwl hefyd wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau dadansoddol a meddwl critigol myfyrwyr. |
Datrys Problemau | Defnyddir fforymau ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy'n cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. Yn ogystal, bydd y cynllun arloesedd yn mynnu bod y myfyriwr yn cynnig sut y gellid defnyddio atebion arloesol i ddatrys problem gynaliadwyedd penodol. |
Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad sy'n darparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr. Yn enwedig gyda'r aseiniad ffurfiannol a fydd yn ddyledus cyn unrhyw aseiniadau cyfansymiol. |
Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau yn eu haseiniadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Gwerthusiad o systemau cyflenwi cynaliadwy. Nodi meysydd i'w gwella a chyfleoedd sy'n ymwneud a chyflenwad cynaliadwy cynhyrchion bioseiliedig a bwyd, a phrofiad o sut i asesu a gweithredu cysyniadau/syniadau newydd. |
Sgiliau ymchwil | Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. Yn ogystal a derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amrywiaeth o gronfaoedd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd o'r modiwl |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7