Penodi Dirprwy-Ganghellor
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych i benodi Dirprwy-Ganghellor, ac mae wedi sefydlu Pwyllgor Dethol i ymgymryd â'r broses berthnasol.
Gwahoddir enwebiadau yn awr, gyda'r bwriad o gyflwyno enw'r unigolyn i'w benodi/phenodi i Gyngor y Brifysgol ar 09 Gorffennaf 2021.
Bydd y penodiad am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, a gellir eu hadnewyddu am ail dymor o dair blynedd.
Dylai'r enwebiadau nodi profiad ac addasrwydd yr unigolyn ar gyfer penodiad o'r fath, a dylid eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Brifysgol, ynghyd â CV byr, erbyn 17:00 ar ddydd Gwener, 04 Mehefin 2021. Gall unigolion enwebu eu hunan.
Ceir rhagor o wybodaeth am swyddogaeth anrhydeddus Dirprwy Ganghellor yn y ddogfen ganlynol: