Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr
Mae Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr yn gyfle perffaith i gwrdd â staff academaidd, sgwrsio â myfyrywyr cyfredol a gweld ein cyfleusterau. Cewch fynd ar daith o amgylch y campws, gweld ein llety, mynd am dro o amgylch y dref a chael blas go iawn ar fywyd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Byddwn yn cynnal ein Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr ar y dyddiadau isod:
- Dydd Sadwrn 9 Mawrth 2024
- Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2024
- Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2024
Bydd ymgeiswyr yn derbyn gwybodaeth yn uniongyrchol, drwy e-bost, am gyfleoedd i weld y campws ac i ymgysylltu ag adrannau academaidd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein digwyddiadau i ymgeiswyr neu os nad ydych wedi derbyn eich dolen bersonol i gofrestru, cysylltwch â ni drwy e-bost ar ymgeisydd@aber.ac.uk a bydd ein tîm yn hapus i helpu.
Am ragor o wybodaeth am ein Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, cymerwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin.