Pobl Aber
Beth yw Pobl Aber?
Dull i gyrchu a darparu’r gwasanaethau sy'n cysylltu pobl ar draws Brifysgol Aberystwyth yw Pobl Aber. Mae’n cynnig mynediad i:
- slipiau cyflog
- cadarnhau gwyliau
- cofnodi datblygiad personol
- rheoli eich tîm.
Beth fydd Pobl Aber yn ei wneud?
Mae Pobl Aber wedi moderneiddio'r ffordd yr ydym yn gweithio trwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn lle’r hen systemau papur.
Fel unigolion, mae gennym fynediad i weld ein data personol ein hunain, gwneud rhai newidiadau neu wneud ceisiadau megis absenoldeb gwyliau ac olrhain y cynnydd ar-lein. Rydym yn gwybod yn union ble mae ein cais, boed hynny ar gyfer gwyliau, ar gyfer taflenni amser neu ar gyfer newid cytundebol, a beth yw ei statws.
Fel recriwtwyr neu reolwyr, rydym yn gallu rheoli prosesau ar-lein a chael mynediad i adroddiadau clir i gael gwybodaeth drosolwg amserol, cywir ar gyfer ein tîm neu adran.
Sut ydw i'n dod o hyd i ragor o wybodaeth?
Defnyddiwch y Canllaw Hunan-wasanaeth sy'n cynnwys rhestr gynhwysfawr o'r fwydlen a swyddogaethau'r system.