AberPreneurs - Troi Syniadau Busnes yn Realiti
Digwyddiadau 2025
Mai 7fed 12.10 - 1.00yp - Canolfan Ddelweddu 0.06.
- Lansiad 'Cystadleuath Cychwyn busnes i Fyfyrwyr' - Dewch i cael gwybod am Cystadleuath Cychwyn busnes i Fyfyrwyr.
- Dysgwch sut i gwneud cais a chael siawns i ennill gwobrau arian parod!
- Yn rhad ac am ddim I fyfyrwyr, graddedigion , staff ac eraill sydd a diddordeb mewn datblygu busnes neu fenter gymdeithasol
Mai 20fed - 11-12yp - Bod o ddifrif am Weithio’n Llawrydd • Camau cadarn i baratoi eich myfyrwyr ar gyfer dyfodol gwaith • Am ddim i fyfyrwyr, graddedigion, staff ac eraill sydd â diddordeb mewn gweithio’n llawrydd
- i cofrestru: click here
Cystadleaeth Cychwyn Busnes i Fyfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr neu yn graddio yn 2024/25 ac os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol, yna beth am gynnig a rhoi cyfle i’ch hunan ennill rhan o £10,000 a gwobrau ariannol eraill?
- Gyda gwobr o £10,000 ar gael (yn ogystal â gwobrau gwerthfawr eraill) Os oes gennych syniad ar gyfer menter gymdeithasol, hunangyflogaeth, Llawrydd neu unrhyw syniad busnes newydd, hoffem glywed gennych!
- Rydym yn cynnig mentora cychwyn busnes AM DDIM i'ch helpu chi i wneud cais.
‘Ffordd wych i’ch helpu chi i droi eich "syniad da" yn yrfa lawrydd lwyddiannus neu’n fusnes sy’n ffynnu’.
Categoriau Gwobrau:
- Busnes Cynaliadwy/Eco - sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol, technoleg werdd, neu gynnyrch a gwasanaethau ecogyfeillgar. Gallai hyn gynnwys datrysiadau ynni adnewyddadwy, mentrau diwastraff, busnesau uwchgylchu / prosiectau cymunedol, neu ffasiwn gynaliadwy.
- Menter Gymdeithasol - sy'n anelu at greu effaith gymdeithasol gadarnhaol tra'n parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Gallai'r syniadau busnes newydd hyn ymdrin â materion cymdeithasol megis tlodi, addysg, iechyd meddwl, neu ddatblygiad cymunedol trwy fodelau busnes arloesol.
- Celfyddydau Creadigol - Busnesau neu brosiectau llawrydd sy'n gweithredu yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol. Mae hyn yn cynnwys busnesau newydd ym maes y theatr, cerddoriaeth, ffilm, ffotograffiaeth, dylunio, cyhoeddi, neu unrhyw feysydd artistig eraill.
- Gwyddoniaeth / Seiliedig ar Dechnoleg - sy'n arddangos ymchwil wyddonol neu dechnoleg i greu cynnyrch neu wasanaethau arloesol. Gallai hyn amrywio o ddatblygu ap a datrysiadau seiliedig ar DA i arloesiadau biotechnoleg, roboteg neu beirianneg.
- Busnes Lleol – sy'n gwasanaethu cymuned leol, megis siopau manwerthu, caffis, grŵp cymunedol neu fusnesau sy'n seiliedig ar wasanaethau. Mae'r busnesau newydd hyn yn canolbwyntio ar wella'r economi leol a darparu cynnyrch neu brofiadau unigryw i'w cwsmeriaid.
Ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen gais...........llenwch bob adran y gallwch.
Mynychwch Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar 4-6 Mehefin i gael cymaint o wybodaeth â phosibl
Trefnwch apwyntiad un wrth un gydag ymgynghorydd cychwyn busnes, a fydd yn edrych drwy eich cais cyn i chi ei gyflwyno – e-bostiwch enterprise@aber.ac.uk i archebu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio eich syniad yn glir ac yn ennyn brwdfrydedd/cyffroi'r beirniaid am eich menter newydd.
POB LWC!
Gwneud cais yma: Student StartUp Competition - Application form
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ebostiwch enterprise@aber.ac.uk
Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf 4ydd - 6ed Mehefin - Canolfan Ddelweddu 0.06
Byddwch yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau eich busnes neu fenter gymdeithasol gan gynnwys:
Dydd Mercher
- Model Rol ysbridoledig
- Ymchwil i'r Farchnad
- Marchnata a marchnata digidol
- Amddiffyn eich IP
Dydd Iau
- Treth
- Cyllid a Chadw llyfrau
- Menter cymdeithasol/Busnes cynaliadwy
Dydd Gwener
- Model Rol Ysbridoledig
- Agweddau cyfreithiol ar ddechrau busnes
- Cyfryngau cymdeithasol am eich busnes
- Y camau nesaf a’r gefnogaeth sydd ar gael
Bydd sesiwn rhwydweithio anffurfiol ar gael ar ddiwedd pob diwrnod i 5yp.
Yn ogystal â'r holl sesiynau uchod, byddwn yn cynnal diwrnod galw heibio i gael cyngor busnes drwy'r dydd ar ddydd Mercher y 4ydd – a fydd yn gyfle i drafod eich syniad 1:1 gyda'n cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru.
Cymorth i gychwyn busnes yn ABER
Dewis i sgwrsio â’r ‘Tîm Menter’, rydym yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr presennol, graddedigion ac eraill i weithio’n llawrydd/hunangyflogedig, cychwyn eu busnes/menter gymdeithasol eu hunain, lansio busnes newydd a allai ehangu’n gyflym neu ddatblygu sgiliau menter hanfodol.
Rydym yn cynnig digwyddiadau ysbrydoledig, gweithdai datblygu sgiliau, mentora arbenigol, cystadleuaeth fusnes flynyddol i fyfyrwyr, ynghyd â chyngor ac arweiniad drwy ein hapwyntiadau 1:1.
Gallwch ymuno â'n rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddigwyddiadau Menter, e-bostiwch enterprise@aber.ac.uk
Oes arnoch chi eisiau gweithio i chi'ch hun?... rydym yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i ddechrau busnesau newydd:
Rydym yn darparu:
- Gwybodaeth
- Cyngor
- Hyfforddiant
- Ariannu
Cofiwch:
- Rydym yn cynnig 'Mentora Busnes' 1:1 am ddim ar-lein/wyneb yn wyneb
Darllenwch ein Hanesion am Lwyddiant yma: Dechreuadau busnesau graddedig
Edrychwch ar y 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' - https://walesstudentmarket.co.uk/cy
Dolenni defnyddiol:
- Big Ideas Wales
- Business Wales
- Federation of Small Businesses (FSB)
- Prince’s Trust
- The Development Bank of Wales
- UK Government support and advice for start-ups
- Unltd
- Antur Cymru
- Aber Innovation & Enterprise Campus
- Tramshed Tech
- CWMPAS
- Engineers in Business Fellowship
- Purple Shoots
- IPSE
- HM Revenue & Customs
- DBACE
Mae 'AberPreneurs' yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi menter:
- Cymorth Dechrau Busnes a Menter
- Digwyddiadau Menter
- Sgyrsiau Ysbrydoledig
- Mentwra un-i-un
- Cyngor ar Gyllid
- Rhwydweithio
Cysylltwch â ni:
Os oes gennych chi syniad busnes ac yr hoffech rhywfaint o gyngor cysylltwch â:
enterprise@aber.ac.uk
01970 622378
Adroddiad Menter yn ABER 2024
(Word)
Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2024 (PDF)
I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau cychwyn busnes i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn. Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion ; Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad
Mae cymorth menter a dechrau busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gefnogi trwy Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad Lywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.