Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Myfyrwyr yn weithio yn yr adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwelwch yr holl ysgoloriaethau a bwrsariaethau rydym yn cynnig isod.

Beth yw manteision derbyn ysgoloriaeth/bwrsarieth?

Mae’n ffordd wych o sicrhau arian ychwanegol i helpu tuag at eich costau astudio a byw ac mae cael ysgoloriaeth/bwrsariaeth yn ychwanegiad gwych at eich CV.

Pryd a sut mae’r taliadau Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau yn cael ei wneud?

Fel arfer gwneir taliadau mewn dau randaliad cyfartal yn uniongyrchol i gyfrifon banc derbynwyr. Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu manylion eu cyfrif banc trwy eu cofnod myfyriwr yn dilyn eu cofrestriad swyddogol gyda ni. Bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud ar ddiwedd yr wythnos lawn gyntaf ym mis Rhagfyr, a'r ail yn cael ei wneud ar ddiwedd yr wythnos lawn gyntaf ym mis Mawrth.

Oes rhaid i mi dalu arian yr Ysgoloriaeth/Bwrsariaeth yn ôl?

Nid oes rhaid ad-dalu'r arian a gewch o'n hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio â thelerau ac amodau'r dyfarniad.*

*Os bydd myfyriwr yn tynnu’n ôl o’u hastudiaethau am byth cyn Rhagfyr 1af, bydd y Swyddfa Gyllid yn hawlio’r cyfan o’r taliad cyntaf yn ôl. Os bydd myfyriwr yn tynnu’n ôl am byth rhwng Rhagfyr 1af a Mawrth 2il, bydd y Swyddfa Gyllid yn hawlio yn ôl y cyfan o’r ail daliad. O dan yr amgylchiadau hyn, os nad yw’r symiau yn cael eu had-dalu, mae’n bosibl y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at asiantaeth casglu dyledion y Brifysgol

Oes rhaid i mi wneud cais am yr ysgoloriaethau?

Mae rhai o'n hysgoloriaethau a bwrsariaethau yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais, fodd bynnag, mae rhai y byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig ar eu cyfer yn amodol ar amodau'r dyfarniad.

A fydd fy ysgoloriaeth/bwrsariaeth yn cario drosodd os byddaf yn gohirio fy mlwyddyn mynediad?

Bydd eich ysgoloriaeth/bwrsariaeth yn dal i gael ei dyfarnu i chi hyd yn oed os byddwch yn gohirio eich mynediad.

Bydd Myfyrwyr sy’n gohirio mynediad yn derbyn Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau ar y lefel a hysbysebwyd ar gyfer y flwyddyn gais (yn hytrach na'r flwyddyn mynediad yn achos ceisiadau gohiriedig).

A oes unrhyw gymorth ychwanegol a chyfleoedd ariannol eraill i fyfyrwyr?

AberWorks 

Mae’r cyfleoedd am waith rhan-amser, achlysurol drwy GwaithAber yn amrywio o arlwyo a gwaith gweinyddol, i waith llysgenhadol a mwy. Yn ystod y tymor, os oes gwaith ar gael, gallwch ddewis gweithio hyd at 15 awr yr wythnos, a rhagor o oriau’n bosibl yn ystod y gwyliau. Gallai’r gwaith fod wedi’i leoli ar unrhyw un o gampysau’r Brifysgol gan gynnwys yr Hen Goleg a’n Ffermydd. Yr hyn sy’n wych am y cynllun yw eich bod yn gallu derbyn gwaith sy’n cyd-fynd â’ch amserlen chi, felly nid yw’n tarfu ar eich astudiaethau, ond fe fyddwch chi’n parhau i feithrin profiad a chael arian ychwanegol.

GwaithAber  : Adnoddau Dynol , Prifysgol Aberystwyth

 

Y Gwasanaeth Cyngor ac Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor ac Arian o fewn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn rhoi cyngor arbenigol am amrywiaeth o faterion ariannol. Bydd modd i’n hymgynghorwyr myfyrwyr, sydd wedi’u hachredu gan NASMA (Cymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Ariannol Myfyrwyr), wneud yn siŵr eich bod yn cael popeth o fewn eich hawliau gan eich corff cyllido. Gallant hefyd roi cyngor ar sut i reoli eich arian yn fwy effeithiol ac efallai y bydd modd iddynt roi cymorth ariannol ar gyfer amgylchiadau annisgwyl.

Gwasanaethau Myfyrwyr  : Prifysgol Aberystwyth

Pwysig

Sylwer bod ymgeiswyr i'r cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth yn gymwys i gael ysgoloriaethau a bwrsariaethau a ddyfernir gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn hytrach na dyfarniadau Prifysgol Aberystwyth.  Fodd bynnag, gweler y ddolen Gwyddor Milfeddygaeth uchod am amrywiaeth o ddyfarniadau a grëwyd yn benodol ar gyfer ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac sy'n ymroddedig i Gyfle Cyfartal.  Mae croeso i chi wneud cais am ysgoloriaeth/grant/gymorth ariannol yn Gymraeg neu'n Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.