Dysgwch fwy am ein digwyddiadau
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored ar Orffennaf 5ed i gwrdd â'n staff a'n myfyrwyr a dysgu mwy am ein cyrsiau. Bydd modd mynd ar daith o amgylch y campws, ymweld â'n dewisiadau llety, cael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth a sut beth yw bywyd myfyrwyr yn Aberystwyth.
Byddwn hefyd yn cynnal Diwrnodau Agored Israddedig ac Ôl-raddedig ar Hydref 11eg a Tachwedd 8fed. Os oes gennych ddiddordeb mynychu ein digwyddiadau eraill yn y dyfodol gan gynnwys ein ddigwyddiadau ar-lein, cwblhewch ein ffurflen Cofrestru dy Ddiddordeb a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy e-bost.
Os na allwch ddod i'n Diwrnodau Agored neu os hoffech gyfle arall i ymweld â'n campws, gallwch gofrestru ar gyfer ein Teithiau Campws.