Agoriad clinig anifeiliaid newydd yn Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth

Agoriad swyddogol y ffug-glinig milfeddygol newydd yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. O'r chwith i'r dde: Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol; Graham Colley; Yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor; a Emma Anscombe-Skirrow, Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Milfeddygol.
17 Mawrth 2025
Mae ffug-glinig milfeddygol newydd wedi agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth i’r unig ysgol filfeddygaeth yng Nghymru ehangu.
Mae’r buddsoddiad newydd sy’n werth tua £180,000 yn ehangu safle Canolfan Addysg Milfeddygaeth ar gampws Penglais y Brifysgol.
Ariannwyd yn bennaf gan gymynrodd o ystâd y diweddar Gordon Burrows, mae gan y clinig newydd mannau aros, archwilio a thrin, ynghyd â’r offer angenrheidiol ar gyfer trin anifeiliaid bach
Yn wreiddiol o Gaerhirfryn, ymunodd George Burrows â’r Llynges Frenhinol fel peiriannydd ac wedyn gweithiodd i burfa BP ar Ynys Grain yn Swydd Caint.
Mae’r buddsoddiad newydd yn ychwanegol at y £2 filiwn a mwy a wariwyd i sefydlu Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth a gafodd ei hagor yn swyddogol yn 2021 gan y Brenin Siarl III.
Mae’r cyfleusterau clinig newydd yn hyfforddi myfyrwyr cyntaf erioed ar gwrs gradd Nyrsio Milfeddygol newydd Prifysgol Aberystwyth a ddechreuodd ar eu hastudiaethau ym mis Medi’r llynedd.
Yn ogystal, maent yn cael eu defnyddio gan yr israddedigion ar y cwrs BVSc Milfeddygaeth, a gyflwynir ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol.
Dywedodd Yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n wych bod gennym ni’r cyfleusterau newydd hyn. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gymynrodd hael sydd wedi ein galluogi i gymryd cam ymlaen gyda’n cynlluniau i ehangu ein cyfleusterau a gwella’r addysgu rydyn ni’n ei gynnig yn Aberystwyth ymhellach.
“Yn rhan o’u proses ddysgu, mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn ennill profiad ym maes hyfforddiant milfeddygol clinigol a dealltwriaeth o’r offer allweddol a’r prosesau a ddefnyddir mewn clinigau milfeddygol. Mae’r buddsoddiad pellach hwn yn enghraifft arall o sut rydym ni’n cryfhau ein sector filfeddygol ac amaethyddol yn ehangach.”
Yn siarad wedi agoriad swyddogol y clinig newydd, dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae cael y cyfleusterau newydd hyn ac ehangu ein haddysg filfeddygol yn gyffrous i ni gyd. Mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygaeth ei hun sy’n adeiladu ar hanes y Brifysgol o dros ganrif a hanner yn meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru yn ogystal â’r byd yn ehangach.
“Mae’r Ysgol yn deall ac sy’n diwallu anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant uwchraddedig a chynnal gwaith ymchwil sy’n rhagorol ac sy’n berthnasol yn lleol.
“Trwy gyfoethogi’r proffesiwn, rydym yn cefnogi nid yn unig y gymuned ffermio ond perchnogion anifeiliaid anwes, pawb sy’n ymwneud â cheffylau a marchogaeth, y llywodraeth genedlaethol ac, yn y pen draw, cymdeithas Cymru. Dyna hefyd pam mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi cymaint i greu canolfan ragoriaeth ym maes iechyd anifeiliaid i ychwanegu at ei llwyfannau presennol - o labordai o’r radd flaenaf i arbenigedd o’r safon uchaf mewn ymchwil i TB mewn gwartheg.”
Yn siarad ran ystâd Gordon Burrows, dywedodd y cyfreithiwr Graham Colley:
“Mae’n bleser pur cael bod yma heddiw ar gyfer agoriad swyddogol y clinig newydd yma yng Nghanolfan Addysg Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Fel un o ysgutorion ystâd y diweddar Gordon Burrows, ces i’r dasg o ddosbarthu ei ystâd i elusen, ac mae’r cyfleusterau anhygoel hyn a fydd o fudd i hyfforddiant myfyrwyr milfeddygol a nyrsys milfeddygol am flynyddoedd lawer i ddod yn waddol teilwng.
“Ar ôl caru a cholli anifeiliaid anwes arbennig fy hun, rwy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd gwaith milfeddygon a nyrsys milfeddygol, ac ro’n i wrth fy modd hefyd i godi arian tuag at y cyfleusterau newydd trwy gwblhau taith feicio noddedig 263 milltir o Rochester i Aberystwyth.”