Geifr yn glyfrach na defaid ac alpacaod – astudiaeth

Alpacaod yn Fferm Pwllpeiran.

Alpacaod yn Fferm Pwllpeiran.

07 Mawrth 2025

Mae geifr yn gallu prosesu gwybodaeth a datrys profion cof yn well na defaid ac alpacaod, yn ôl ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Yn yr astudiaeth gyntaf o’i math, fe brofodd arbenigwyr yng Nghanolfan Ymchwil yr Ucheldir ym Mhwllpeiran allu’r tri anifail – defaid, alpacaod a geifr – i brosesu gwybodaeth. 

Asesodd yr academyddion allu’r anifeiliaid i ddeall bod gwrthrychau yn dal i fodoli pan nad ydynt bellach yn weladwy - sgil ddefnyddiol ar gyfer olrhain aelodau buches neu ysglyfaethwyr mewn amgylchedd naturiol.

Fel rhan o gyfres o brofion, cafodd yr anifeiliaid y dasg o ddod o hyd i wrthrychau oedd wedi eu cuddio o dan gwpanau – gyda gwobrau bwyd am atebion cywir.

Daeth y tasgau yn raddol yn fwy anodd, yn amrywio o guddio'r gwrthrych yn unig, i gyfnewid yn weithredol dros y cwpanau a mynnu bod yr anifail yn olrhain y gwrthrych.

Canfu'r gwyddonwyr mai geifr a gafodd y llwyddiant mwyaf yn y profion, tra bod y defaid a'r alpacaod yn cael trafferth olrhain gwrthrychau pan aeth y tasgau yn fwy cymhleth.

Dywedodd prif awdur y papur Megan Quail o Brifysgol Aberystwyth:

"Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf i gymharu galluoedd gwybyddol sawl rhywogaeth o dda byw dof yn uniongyrchol. Daethon ni i’r casgliad bod geifr yn dangos y gallu mwyaf i ddeall bod gwrthrychau yn dal i fodoli hyd yn oed os ydyn nhw’n gudd - gallai hyn fod yn gysylltiedig â'u hangen i fod yn fwy detholus yn eu harferion bwyta. Gall hefyd fod yn arwydd bod geifr yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd na defaid neu alpacaod.

“Gall y gallu i olrhain geifr eraill neu ysglyfaethwyr fod yn addasiad defnyddiol wrth lywio ardaloedd o lystyfiant trwchus wrth chwilota am fwyd. Yn yr un modd, gall y gallu i olrhain ac ail-greu yn feddyliol leoliad ysgogiadau o fewn cyd-destun chwilota am fwyd fod yn addasiad defnyddiol ar gyfer mwy o effeithlonrwydd bwydo.”

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ‘Applied Animal Behaviour Science’, hefyd yn awgrymu bod gan bob un o’r rhywogaethau’r gallu i wahaniaethu rhwng meintiau mawr a bach o fwyd, ac yr un mor analluog wrth geisio deall gwahanol gategorïau o siâp.

Mewn astudiaeth ar wahân, a gyhoeddwyd yn Applied Animal Behaviour Science, canfu’r ymchwilwyr hefyd y perfformiodd geifr yn well na defaid ac alpacaod mewn tasg arall a brofodd cof gofodol gyda bwcedi o fwyd.

Ychwanegodd yr Athro Mariecia Fraser:

“Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau pwysig o ran sut mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu rheoli, sut maen nhw’n pori gyda’i gilydd ac ar wahân, a sut maen nhw’n addasu i amgylcheddau newydd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y mewnwelediad cychwynnol hwn i alluoedd gwybyddol rhywogaethau da byw amgen, fel alcapaod a geifr, yn ddefnyddiol wrth ddatblygu ymchwil pellach sy’n edrych ar y prosesau sy’n effeithio ar ddosbarthiad pori mewn rhywogaethau â dewisiadau dietegol gwahanol.

“Yn y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio gallu defnyddio technolegau newydd addawol, megis olrhain nodweddion wyneb anifeiliaid gan ddefnyddio systemau deallusrwydd artiffisial, i ganfod dylanwad amryw o ffactorau ar y broses sy'n arwain at ddetholiad cywir neu anghywir ar lefel fanwl gywir.”