Adnodd dysgu newydd yr Holocost i ysgolion yng Nghymru
.jpg)
Cerdyn adnabod Renate Collins ar ei thaith ar Kindertransport yn 1939 Llun: (c) Amy Daniel
03 Mawrth 2025
Bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn clywed straeon goroeswyr yr Holocost a ffoaduriaid a ymgartrefodd yng Nghymru, diolch i adnodd addysgol newydd a luniwyd gan Brifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Hanes Iddewig Cymru.
Bydd y gyfres o bodlediadau yn golygu y bydd disgyblion hŷn yn ogystal â'r cyhoedd yn gallu gwrando ar y rhai a ffodd o orthrwm y Natsïaid i adeiladu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. Gallant hefyd ddysgu sut y mae’r ffoaduriaid a ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd wedi cyfrannu at fywyd Cymru - yn ddiwylliannol, yn economaidd ac yn wleidyddol.
Cynhyrchwyd y podlediadau fel rhan o Adnoddau Holocost Cymru, prosiect sy'n creu adnoddau dysgu dwyieithog o ansawdd uchel i'w defnyddio mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae'r prosiect yn adrodd hanes yr Holocost trwy ffotograffau, hanesion llafar, fideos, a dogfennau gwreiddiol gan ddefnyddio straeon lleol am ffoaduriaid a ddaeth i Gymru a chael noddfa.
Mae Adnoddau Holocost Cymru yn brosiect cydweithredol rhwng Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Hanes Iddewig Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig.
Dywedodd yr Athro Andrea Hammel, o’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Roedd yr Holocost yn un o adegau tyngedfennol yr ugeinfed ganrif a chlywyd ei effeithiau ar draws y byd - gan gynnwys yng Nghymru.
"Drwy'r gyfres newydd hon o bedwar podlediad, bydd pawb yn gallu dysgu mwy am y profiadau a byddant yn gallu clywed lleisiau’r ffoaduriaid a geisiodd noddfa yng Nghymru ar ôl dianc rhag Sosialaeth Genedlaethol, dysgu am eu teithiau peryglus, a sut y gwnaethon nhw addasu i fywyd yng Nghymru. Byddan nhw hefyd yn clywed straeon unigryw’r milwyr o Gymru oedd ymhlith y cyntaf i weld erchyllterau'r gwersylloedd Natsïaidd pan gawsant eu rhyddhau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. I lawer, mae podlediadau yn dod yn fwy a mwy pwysig fel ffynhonnell gwybodaeth."
Dywedodd Klavdija Erzen, Rheolwr Prosiect Addysg Cymdeithas Hanes Iddewig Cymru:
"Mae'r podlediadau hyn yn adnodd ychwanegol i alluogi'r rhai mewn addysg uwchradd i ddysgu gan ddefnyddio adnoddau sy'n berthnasol yn lleol i Gymru ac sy'n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru."
Recordiwyd y straeon a ddefnyddiwyd yn y podlediadau fel rhan o gyfweliadau hanes llafar a gofnodwyd gan Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Hanes Iddewig Cymru, a’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol.
Gellir dod o hyd i Adnoddau Holocost Cymru ar-lein ar wefan Casgliad y Werin Cymru ac ar yr Hwb - y llwyfan digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae'r podlediadau newydd, 20 munud o hyd, ar gael am ddim ar Spotify.