Gwyddonwyr Aberystwyth yn rhan o rwydwaith ymchwil cardiofasgwlaidd newydd gwerth £3m

O'r chwith i'r dde: Yr Athro Luis Mur, Dr Otar Akanyeti a Dr Federico Villagra Povina

O'r chwith i'r dde: Yr Athro Luis Mur, Dr Otar Akanyeti a Dr Federico Villagra Povina

27 Chwefror 2025

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation (BHF) wedi cyhoeddi cytundeb sylweddol, gwerth £3m, i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru drwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN).

Mae'r cytundeb pum mlynedd yn golygu y bydd ymchwilwyr o Gymru yn gallu ymchwilio i feysydd allweddol o anghenion iechyd a gofal nad ydynt yn cael eu diwallu mewn pobl â chyflyrau'r galon fel arhythmia (curiad calon afreolaidd), clefyd y galon a heneiddio fasgwlaidd.

Bydd y rhwydwaith, sy’n cynnwys Dr Federico Villagra Povina o Brifysgol Aberystwyth, yn dod ag ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr cleifion ac eraill ynghyd i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru a thu hwnt. Arweinir y rhwydwaith gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd y cytundeb yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddi ymchwil ac arwain allweddol, gyda BHF yn ariannu staff ymchwil ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth cymunedau a dan-wasanaethir mewn ymchwil gardiofasgwlaidd. Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi ceisiadau ymchwil trawsddisgyblaethol, a mynediad at ddata i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS:

"Mae'r bartneriaeth nodedig hon gwerth £3 miliwn rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation yn gam sylweddol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn clefyd cardiofasgwlaidd.

"Trwy gyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, nid ariannu ymchwil yn unig rydyn ni’n ei wneud - rydyn ni’n buddsoddi yn iechyd pobl ledled Cymru ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Dr Federico Villagra Povina, Darlithydd Ymarfer Corff a Ffisioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae bod yn rhan o’r Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol yn gam enfawr ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ac ar gyfer ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru. Rwy’n falch o gynrychioli’r Brifysgol yn y cynllun hwn, a byddaf yn gweithio gydag arbenigwyr eraill o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Luis Mur a Dr Otar Akanyeti, i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin clefyd y galon. Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £3 miliwn yn sbarduno ymchwil sy’n torri tir newydd, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gleifion a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt."

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth BHF Cymru:

"Mae’r British Heart Foundation yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r cytundeb cyd-ariannu newydd hwn gyda Llywodraeth Cymru sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy i Rwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol Cymru. Mae'r ymdrech ddiweddaraf hon i rymuso ymchwil cardiofasgwlaidd ac arloesedd yng Nghymru yn arbennig o gyffrous i mi, ac wrth gwrs fy nghydweithwyr yn BHF Cymru, a bydd yn helpu i ddatblygu cyfrwng i brifysgolion a byrddau iechyd ledled Cymru ddod at ei gilydd mewn cenhadaeth gyffredin."