Y Brifysgol yn talu teyrnged i'r Athro Geraint H Jenkins (1946-2025)
Yr Athro Geraint H Jenkins. Llun: Cymdeithas Ddysgedig Cymru
13 Ionawr 2025
Roedd cymuned y Brifysgol yn drist iawn o glywed am farwolaeth un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru, yr Athro Geraint H. Jenkins, yn 78 oed.
Roedd Dr Eryn White, Darllenydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, yn gyn-fyfyriwr i'r Athro Jenkins. Wrth dalu teyrnged, dywedodd:
"Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth yr Athro Geraint H Jenkins.
"Yn gyn-aelod o staff a phennaeth adran hir ei wasanaeth, bu'n dysgu yn ein Hadran Hanes Cymru am 25 mlynedd rhwng 1968 a 1993.
"Yn awdurdod ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar, roedd Geraint yn ymchwilydd trylwyr a diflino. Ysgrifennodd sawl cyhoeddiad safonol a dylanwadol ym maes hanes Cymru - gan arbenigo ym maes Iolo Morganwg, ond roedd hefyd yn ysgrifennu'n ehangach am lunio’r Gymru fodern, y Gymraeg, ac am chwaraeon Cymru.
"Ynghyd â bod yn academydd uchel ei barch ac yn awdur toreithiog, caiff ei gofio fel darlithydd ffraeth a difyr a oedd yn mwynhau cyfleu ei wybodaeth i gynulleidfaoedd ledled Cymru, gan gynnwys yn rheolaidd yn yr Eisteddfod.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Geraint."