Cymrodoriaeth ryngwladol ar gyfer arbenigwr ar y sbectrwm radio
Yr Athro Amit Kumar Mishra.
20 Rhagfyr 2024
Mae Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn teithio i India’r mis hwn fel rhan o gynllun cymrodoriaeth a sefydlwyd gan lywodraeth India.
Bydd yr Athro Amit Kumar Mishra, sy’n arbenigwr rhyngwladol ym maes cyfathrebu a synhwyro drwy’r sbectrwm radio, yn treulio amser yn Sefydliad Technoleg India (IIT) yn Hyderabad o dan gynllun Ysgolheigion Ymchwil Cydweithredol Uwch, VAJRA.
Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Anusandhan Llywodraeth India (y Bwrdd Gwyddoniaeth a Pheirianneg, SERB gynt), sy’n dyfarnu'r wobr VAJRA a’i nod yw cydnabod gwerth ymchwil cydweithredol rhyngwladol wrth ddatrys problemau cymhleth.
Datblygwyd y cynllun yn unswydd ar gyfer gwyddonwyr ac academyddion tramor ac mae’n caniatáu iddyn nhw weithio am hyd at dri mis yn ystod blwyddyn mewn sefydliad academaidd neu ymchwil yn India sy’n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus.
Derbyniodd yr Athro Mishra yr anrhydedd am y tro cyntaf pan oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Cape Town yn Ne Affrica. Cafodd y wobr ei hadnewyddu am flwyddyn ychwanegol, ar ôl iddo symud i Aberystwyth yn 2024.
Mae’r Athro Mishra yn cydweithio â gwyddonwyr yn IIT Hyderabad ar ddatblygu systemau sy’n defnyddio ‘gofod gwyn teledu’ – y lled band sbectrwm a arferai gael ei ddefnyddio i ddarlledu teledu analog ond sydd bellach yn ddiangen i raddau helaeth.
Dywedodd yr Athro Mishra: “Rwy’ wrth fy modd bod fy ngwobr VAJRA wedi’i hadnewyddu am flwyddyn ychwanegol ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda gwyddonwyr a myfyrwyr PhD yn India yn ogystal â chroesawu ymchwilwyr yma i Aberystwyth yn y cyfnewid rhyngwladol hwn o wybodaeth ac arbenigedd.
“Byddwn ni’n canolbwyntio ar y defnydd posibl o’r ‘gofod gwyn teledu’ mewn ardaloedd gwledig o India. Mae’r lled band yma ar gael fwyfwy ers i deledu analog newid i ddigidol a gellir ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion eraill - er enghraifft, darparu rhyngrwyd cyflym i bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth yn brin.
“Mae gan y dechnoleg hon bosibiliadau enfawr mewn lleoedd eraill fel Affrica lle mae niferoedd cymharol isel o bobl wedi’u gwasgaru ar draws ardaloedd daearyddol eang. Mae hefyd yn gweddu gyda nod y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol o drawsnewid cysylltedd yn ardaloedd gwledig Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.”
Yr Athro Mishra
Ymunodd yr Athro Mishra â Phrifysgol Aberystwyth fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ac Athro Peirianneg Cyfathrebu ym mis Mawrth 2024. Ers ennill ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caeredin yn 2006, mae wedi gweithio mewn sefydliadau ymchwil yn India, Awstralia a Sweden. Symudodd i Aberystwyth o Brifysgol Cape Town lle bu’n Athro (2019-2024), Athro Cyswllt (2016-2019) ac Uwch Ddarlithydd (2011-2015) yn ogystal ag aelod o Grŵp Synhwyro o Bell Radar y sefydliad.