Gwaith darlithydd mewn arddangosfa arloesol am bridd

Bydd Miranda Whall yn arddangos ei gwaith yn rhan o 'SOIL: The World at Our Feet' yn Somerset House, Llundain. Llun: Ashley Calvert, 2023

Bydd Miranda Whall yn arddangos ei gwaith yn rhan o 'SOIL: The World at Our Feet' yn Somerset House, Llundain. Llun: Ashley Calvert, 2023

18 Rhagfyr 2024

Bydd arddangosfa arloesol am berthynas cymdeithas â phridd, a gynhelir yn Somerset House yn Llundain, yn cynnwys gwaith darlithydd o Aberystwyth.

Nod ‘SOIL: The World at Our Feet’ yw datgelu rhyfeddod pridd, ei gydgysylltiad â holl fywyd y Ddaear, a'r rhan hanfodol y mae'n ei chwarae yn nyfodol ein planed.

Mae Miranda Whall o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o artistiaid y bydd eu gwaith yn cyfleu'r berthynas fregus rhwng pobl, y blaned a’i phridd.  Dywedodd:

"Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at yr arddangosfa bwysig ac amserol hon. Yr hyn rwy'n ei garu amdani yw ei huchelgais, ei chwmpas, a'i chyrhaeddiad - mae'n gompost cyfoethog o gelf, addysg, amaethyddiaeth, gwyddoniaeth, hanes, garddwriaeth, a gwleidyddiaeth gymdeithasol, a bydd y cwbl yn cael ei gydblethu a'i arddangos ledled oriel yr Embankment Gallery am dri mis, i ennyn diddordeb cynulleidfa eang ac amrywiol gobeithio."

Bydd Whall yn arddangos pedwar darn o waith o'i phrosiect 'When Earth Speaks', a grëwyd o ddata a gasglwyd o rwydwaith o synwyryddion pridd yn ucheldir mynyddoedd y Canolbarth.

Gan ddefnyddio inc a thyllau pin ar bapur, defnyddiodd Whall y data i greu cyfres o luniau, hyd at 10m o hyd, ac yn cynnwys hyd at 250,000 digid neu dros 100,000 o dyllau pin. Trwy'r 'cymylau storio data analog' hyn, daeth y rhifau ysgrifenedig neu'r tyllau pin yn dirweddau gweledol sy'n adlais o ffynhonnell eu tarddiad, y pridd.

Rhan o 'Dirty Drawing'

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys recordiad sain o 'When Earth Speaks; A Dirty Ensemble', perfformiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ym mis Mehefin 2024. Wedi'i gyfarwyddo gan Whall, roedd y perfformiad yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid a pherfformwyr a ymatebodd i ddata’r synwyryddion pridd.

Yn ogystal â hyn bydd fideo dogfennol a chyfweliad â Whall, a ffilmiwyd ar leoliad ym Mynyddoedd y Canolbarth ac yn ei stiwdio, yn cael ei ddangos yn yr oriel.

Ffilmio gyda chriw ffilmio Somerset House, Pwllpeiran, Tachwedd 2024. Llun gan Mariecia Fraser.

Curadwyd ‘SOIL: The World at Our Feet’ ar y cyd gan The Land Gardeners, Henrietta Courtauld a Bridget Elworthy, y curadur a’r awdur May Rosenthal Sloan a Claire Catterall, Uwch Guradur yn Somerset House.

Dywedodd Claire Catterall o Somerset House:

"Bydd yr arddangosfa hon yn dangos sut mae pridd yn cysylltu popeth, ac eto cyn lleied yr ydym yn gwybod amdano. Am yn rhy hir, mae gweithgareddau dynol wedi cael effaith andwyol ar iechyd ein pridd. Yma, mae'r artistiaid yn gofyn i ni edrych o'r newydd ar yr ecosystem hynod bwysig hon sy'n byw o dan ein traed. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld ymyriadau artistig trawiadol ac arferion gwyddonol arloesol sy'n chwyddo ein ffocws yn ddwfn o dan y ddaear." 

Bydd ‘SOIL: The World at Our Feet' yn cael ei arddangos yn yr Embankment Galleries, Somerset House yn Llundain rhwng 23 Ionawr a 13 Ebrill 2025.  Am docynnau a mwy o wybodaeth, ewch i
www.somersethouse.org.uk/press/soil-world-our-feet   

Cynhaliwyd prosiect Miranda Whall 'When Earth Speaks' diolch i gyllid ymchwil traws-ddisgyblaethol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).  Ariannwyd 'When Earth Speaks: A Dirty Ensemble' gan Asiantaeth Datblygu'r Celfyddydau Byw a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Llun:  Ashley Calvert