Gwyddonwyr Cymru yn datblygu prawf cyflym arloesol ar gyfer canser y prostad

Rhai o'r tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth a Valley Diagnostics.

Rhai o'r tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth a Valley Diagnostics.

17 Rhagfyr 2024

Mae prawf arloesol a allai ganfod canser y prostad mewn dynion yn gyflymach ac yn fwy cywir na’r dulliau presennol yn cael ei ddatblygu gan wyddonwyr o Gymru.

Mae Valley Diagnostics, yng Nghaerdydd, yn gweithio gyda gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth ar brawf llif unffordd a allai ganfod y clefyd o fewn munudau trwy sampl wrin mewn meddygfa neu hyd yn oed gartref.

Mae'r tîm yn gobeithio y gellir cyflwyno'r prawf i raglen sgrinio canser y prostad ledled y wlad a allai helpu i achub miloedd o fywydau a miliynau o bunnoedd i'r gwasanaeth iechyd bob blwyddyn.

Canser y prostad yw'r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaethau canser mewn dynion yn y Deyrnas Gyfunol, gyda thua 12,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae’r prawf newydd wedi’i wneud yn bosibl diolch i astudiaeth arloesol gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi nodi sawl newid allweddol, neu fiofarcwyr, yn wrin dynion â chanser y prostad.

Mae'r biofarcwyr hyn yn cynnig cywirdeb diagnostig llawer gwell o gymharu â'r prawf labordy gwaed a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y gwasanaeth iechyd i brofi am y clefyd.

Mae astudiaeth glinigol OSCAR yn sgrinio miloedd o samplau wrin gan ddynion â chanser y prostad o 12 ysbyty ar draws Cymru a Lloegr.

Dywedodd yr Athro Luis Mur, sy’n bennaeth astudiaeth OSCAR ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae ymwybyddiaeth gynyddol o risgiau canser y prostad i ddynion wedi amlygu’r angen am raglen sgrinio genedlaethol. Yn anffodus, nid yw'r profion sydd ar gael ar hyn o bryd yn addas ar gyfer rhaglen o'r fath.

“Bydd y biofarcwyr rydym ni wedi dod o hyd iddyn nhw’n ein galluogi i ddatblygu prawf arloesol y gellid ei ddefnyddio mewn meddygfa neu hyd yn oed gartref. Rydym ni’n disgwyl y bydd hyn yn arwain at newid patrwm o ran canfod canser y prostad a allai achub bywydau. Gallai cywirdeb cynyddol y prawf hwn atal dynion rhag cael triniaethau diangen ac arbed arian i’r gwasanaeth iechyd.”

Mae Valley Diagnostics yn gweithio gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i drosi eu canfyddiadau yn brawf llif unffordd cost-effeithiol a chywir yn seiliedig ar samplu wrin.

Dywedodd Dave Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Valley Diagnostics:

“Mae gan hyn y potensial i drawsnewid yn llwyr y ffordd rydyn ni’n profi am ganser y prostad, gan arbed miloedd o fywydau a lleddfu’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Mae'n gost-effeithiol ac yn ddibynadwy, gan ddarparu canlyniadau ar unwaith sy'n caniatáu brysbennu cleifion yn effeithiol heb fod angen profion labordy ychwanegol. Gallai hyn leihau straen ac anghyfleustra i gleifion, torri costau a dileu amseroedd aros ac ymweliadau clinigol diangen.”

Yn y Deyrnas Gyfunol, mae mwy na 52,000 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn, ac mae hyd at un o bob pedwar o’r rhain yn cael diagnosis yn ystod cyfnod hwyrach y clefyd, sy’n gofyn am driniaethau helaethach. Y gost i’r gwasanaeth iechyd am driniaethau helaeth yn unig yw £650 miliwn.

Dywedodd Dr Darren Leaning, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yn Sefydliad Canser James Cook, Middlesbrough, fod angen “rhaglen sgrinio gadarn” ar frys ar y Deyrnas Gyfunol ar gyfer canser y prostad.

“Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â chleifion yn fy nghlinig sydd â chymaint mwy o fywyd i’w fyw ac yn gorfod dweud wrthyn nhw a’u hanwyliaid bod ganddyn nhw ganser y prostad anwelladwy,” meddai.

“Does dim rhaid iddo fod fel hyn. Gellir gwella canser y prostad os caiff ei ddal yn gynnar, cyn sylwi ar y symptomau. Nid yw'r prawf gwaed PSA presennol yn ddigon cywir i'w ddefnyddio fel prawf sgrinio, felly mae angen ffordd fwy cywir a chyfleus i sgrinio. Credwn ein bod wedi canfod hyn trwy brofi sampl o wrin, prawf y gellir ei wneud er hwylustod a phreifatrwydd eich cartref eich hun. Credwn y gellir defnyddio’r prawf hwn i achub miloedd o fywydau bob blwyddyn ar draws y Deyrnas Gyfunol a’r byd.”

Mae Valley Diagnostics ar hyn o bryd yn ceisio am gyllid ecwiti a grant i barhau i ddatblygu prototeip o'r prawf llif unffordd.