Ffermwr ifanc Dyffryn Ogwen yn ennill ysgoloriaeth gyntaf amaeth
Gwion Pritchard
22 Tachwedd 2024
Myfyriwr amaeth 18 mlwydd oed o Ddyffryn Ogwen yw’r person cyntaf i ennill Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £3,000, ym maes Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Gwion Pritchard, cyn-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ac a gwblhaodd gwrs amaeth lefel 3 yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fe roddir Prif Ysgoloriaethau gan y Coleg yn flynyddol i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n dewis astudio o leiaf 66% o’u cwrs gradd mewn unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n bosib nawr astudio deuparth o gwrs Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth trwy gyfrwng y Cymraeg.
Daw’r newyddion am y dyfarniad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth i Brifysgol Aberystwyth baratoi i ddathlu 20 mlynedd o addysgu Amaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Gwion: "Mae'n anrhydedd derbyn yr ysgoloriaeth hon a dwi hefyd yn falch iawn o allu astudio ar gyfer gradd mewn Amaethyddiaeth, a hynny’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, fy mamiaith. Medru astudio trwy gyfrwng y Gymraeg oedd y brif ffactor a wnaeth fy ysgogi i ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Magwyd Gwion ar fferm bîff a defaid yn Nhal-y-Bont, Gwynedd lle mae gwartheg Duon Cymreig x Limousin a defaid mynydd Cymreig yn cael eu ffermio. Mae hefyd yn aelod gweithgar o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Ogwen ac yn ei amser hamdden mae’n chwarae i glwb rygbi Bethesda.
Ychwanegodd: “Yn y blynyddoedd diweddar, mae ein fferm wedi bod yn rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd sydd wedi ein galluogi i wella geneteg ein diadell, tra ‘da ni hefyd wedi buddsoddi mewn system bori dechnolegol sydd wedi bod o fudd i’n glaswelltir, ein pridd a’n hanifeiliaid. Dwi wedi dysgu llawer o’r profiadau hyn, a dwi wedi fy nghyffroi wrth edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o amaethyddiaeth yn Aberystwyth”.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Amaethyddiaeth ers 2006, ac mae’r ddarpariaeth wedi cynyddu dros y ddegawd ddiwethaf diolch i gyllid a chefnogaeth gan y Coleg.
Dywedodd Dr Rhys Aled Jones, sy’n cydlynu dysgu cyfrwng Cymraeg yn Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth:
“Rwy’n falch iawn o weld Gwion yn ennill yr ysgoloriaeth fawreddog hon, y myfyriwr cyntaf o nifer a fydd yn ei hennill yn y blynyddoedd i ddod ac a fydd yn dewis astudio Amaethyddiaeth yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
“Ein diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig yw conglfeini’r Gymraeg yma yng Nghymru ac rydym ni’n falch iawn o fod wedi gallu gweithio gyda’r Coleg Cymraeg i ddatblygu a chynyddu ein darpariaeth amaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd diweddar ac i gefnogi myfyrwyr fel Gwion ac eraill sydd wedi ennill ysgoloriaethau cymhelliant y Coleg.”
Meddai Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg:
“Hoffwn longyfarch Gwion ar dderbyn Prif Ysgoloriaeth eleni a dymunwn yn dda iddo yn astudio Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.”