Academydd yn ennill cymrodoriaeth o fri gan lywodraeth India

Yr Athro Rattan Yadav

Yr Athro Rattan Yadav

17 Hydref 2024

Mae arbenigwr mewn geneteg o Aberystwyth wedi derbyn cymrodoriaeth o fri gan asiantaeth Llywodraeth India.

Mae’r Athro Rattan Yadav, sy’n arbenigwr byd-eang mewn geneteg planhigion, wedi derbyn yr anrhydedd oddi wrth Fwrdd Ymchwil Peirianneg a Gwyddoniaeth Llywodraeth India. 

Nod y cynllun SERB-VARJA yw cydnabod gwerth ymchwil rhyngwladol cydweithredol wrth ateb problemau cymhleth.

Fe gafodd ei ddatblygu’n uniongyrchol ar gyfer gwyddonwyr ac academyddion i weithio am hyd at dri mis yn ystod blwyddyn mewn sefydliad cyhoeddus neu ymchwil India.

Mae’r Athro Yadav yn gymrawd  Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac mae ganddo gadair bersonol yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ers 1996, mae’r academydd blaenllaw yn fyd-eang wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r cnwd miled perlog, sy’n rawn llawn maeth sy'n medru gwrthsefyll sychder yn naturiol ac yn un o’r cnydau grawn sy’n cael eu bwyta fwyaf aml mewn nifer o wledydd yn Affrica, yn ogystal ag yn India a De Asia.

Mae'r gymrodoriaeth hefyd yn caniatáu i wyddonwyr, myfyrwyr a chymrodyr o India ymweld â Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Yr Athro Yadav o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’n fraint bersonol i mi dderbyn y gymrodoriaeth hon, ac mae’n wych i’r Brifysgol fod yn rhan o’r cynllun. Mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol bwysig er mwyn i ni allu taclo heriau mawr byd-eang ein hoes. Mae datblygu cnydau sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd a hefyd â nodweddion maethol sy’n gallu mynd i’r afael ag afiechydon sy’n ymwneud â diet, megis diabetes math-2 a gordewdra, yn hynod o bwysig. Mae hynny’n arbennig o wir ar adeg pan fo poblogaeth y byd yn cynyddu a thra bod afiechydon o’r fath ar gynnydd ar lefel frawychus.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr holl gyfleoedd i ni yn Aberystwyth ac yn India fanteisio arnyn nhw wrth i gyfnewid syniadau a sgiliau dros y blynyddoedd i ddod.”