Cyn-Brif Weinidog i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru

02 Mai 2024

Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru mewn sgwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd Dr Anwen Elias a'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones yn ystyried gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a'r argymhellion a nodir yn ei adroddiad terfynol. 

Bydd y sgwrs rhwng y ddau arbenigwr yn craffu ar yr hyn y gallwn ni ei ddysgu o ymdriniaeth y Comisiwn wrth siarad am faterion cyfansoddiadol, ac yn trafod yr hyn y gallwn ni ei ddisgwyl i ddigwydd nesaf.    

Dywedodd Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth ac aelod o'r comisiwn cyfansoddiadol:

“Mae llawer o drafod wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a'r DU; dyma gyfle i bwyso a mesur gwahanol gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol ac ystyried beth - os unrhyw beth - allai newid ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf.”

Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun 13 Mai ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws y Brifysgol, Penglais (SY23 3FL).   

Mae'n cael ei gynnal ar y cyd gan  Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth (CWPS) a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.  

Bydd lluniaeth yn cael ei weini o 6yh ymlaen, ac yna'r drafodaeth a chyfle i holi cwestiynau o 6.30yh.  Mae'r achlysur am ddim ac yn agored i bawb.   Gellir archebu’ch lle yn: https://www.tickettailor.com/events/cwpsaber/1231885